Paul a Timotheus, gweision Crist Iesu, at yr holl saint yng Nghrist Iesu sydd yn Philipi, ynghyd â’r arolygwyr a’r diaconiaid. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.
Philipiaid 1:1-2
‘Saint’
Faint o saint ydych chi yn eu hadnabod tybed? Dim? Ychydig? Llawer? Gair digon cyffredin yn y Testament Newydd yw ‘saint’. Cyfieithu’r gair Groeg hagioi a wna saint. Yn sylfaenol, mae gwreiddyn y gair Groeg yn dynodi rhywun, neu rywbeth o ran hynny, sydd wedi ei neilltuo neu wedi ei gysegru i Dduw.
Yn y Testament Newydd mae’r ymadrodd ‘y saint’ yn cyfeirio at bobl. Dyma, er enghraifft, eiriau agoriadol y llythyr at y Philipiaid: “Paul a Timotheus, gweision Crist Iesu, at yr holl saint yng Nghrist Iesu sydd yn Philipi…” Pa fath bobl oedd y saint yn Philipi? Pobl arbennig? Wel, nage. Mae’r ateb i’w gael ym mhennod 16 o lyfr yr Actau lle cawn hanes tröedigaeth Lydia, gwraig fusnes gyfoethog, a hanes ceidwad y carchar; dau gymeriad o gefndir gwahanol iawn! Er gwaethaf hynny, a natur wahanol eu profiad (a diolch am hynny!) cawsant eu dwyn i ffydd yng Nghrist ac i berthynas ag ef.
Roedd pobl Israel yng nghyfnod yr Hen Destament wedi eu dwyn at Dduw, a’r un syniad ydoedd, sef perthyn i Dduw. Ochr arall y geiniog oedd y disgwyliad iddynt hwy, ac yn wir i saint y Testament Newydd, fod yn sanctaidd, hynny yw, yn bur.
Mae’n amlwg bod llawer o awduron y Testament Newydd yn gwbl argyhoeddedig eu bod yn adnabod llawer o saint a barnu yn ôl llythyron y Testament Newydd. Roedd y saint yn bobl o gig a gwaed fel chi a fi – nid cerfluniau carreg! Nid gwobr i’w hennill ar ddiwedd oes yw cael eich enwi yn sant, ond braint y berthynas bresennol â’r Duw a’ch galwodd ac a’ch carodd yn Iesu Grist ac a’ch dygodd i gymdeithas gyda’i bobl.
Iwan Rhys Jones, ‘Saint’, pennod allan o Geiriau Bywyd a gyhoeddwyd gan MEC yn 2017.