Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 25 Mai 2020

22 Mai 2020 | gan Bill Hughes | Hebreaid 11

Trwy ffydd y gadawodd yr Aifft, heb ofni dicter y brenin, canys safodd yn gadarn, fel un yn gweld yr Anweledig.

Hebreaid 11:27

 

Hoffwn dynnu’ch sylw bore ma at rywbeth sy’n cael ei godi sawl gwaith yn y Beibl sef dyfalbarhad a hirymaros. Er enghraifft dywedir wrthym yn Hebreaid 11:27 am Moses “Safodd yn gadarn, fel un yn gweld yr Anweledig.’ Mae Paul hefyd yn annog Timotheus  ‘cymer dy gyfran o ddioddefaint, fel milwr da i Grist Iesu.’

Wrth i ni ymroi i fyw ein bywydau yn yr amseroedd anodd hyn mae angen dyfalbarhad ac amynedd arnom wrth i ni ymgodymu â’r rhwystrau a’r cyfyngiadau sy’n dod i’n rhan. Mae hynny’n haws dweud na gwneud!

Mae’r Beibl yn ein dysgu mai mewn amgylchiadau croes ac annymunol yn aml iawn mae dyfalbarhad yn datblygu i’r Cristion. Mae hyn yn gallu ymddangos fel paradocs ond mae’n esbonio pam fod Duw’n ein bwrw i mewn i amgylchiadau sydd yn ymddangos yn rhy anodd nad ydym yn tybio fod gennym yr adnoddau angenrheidiol i’w hwynebu. Rydym yn cael ein taflu i mewn i’r pen dwfn lle byddwn yn galw allan yn ein poen a hyd yn oed ar adegau yn ein harswyd: “O Dduw, cymorth fi!”

Y peth rhyfeddol yw fod Duw’n ddigon cryf i ddal yn ôl rhag gwneud yr hyn sy’n ail natur iddo a’n cymryd yn ei freichiau a’n cysuro. Nid arwydd nad oes gofal ganddo drosom yw pan fyddwn yn teimlo’n unig, yn hytrach mae’n gwybod mai’r ffordd i feithrin cryfder ac asgwrn cefn ynom yw peidio â’n cysuro’n syth.

Mae’r Apostol Iago’n dweud bod ‘gwybod fod y prawf ar eich ffydd yn magu dyfalbarhad’ (Iago 1:3) yn ein dysgu mai’r union amgylchiadau mae Duw’n ein gosod ni ynddynt sy’n esgor ar ddyfalbarhad. Dyna sut mae ein ffydd yn cryfhau ac yn dyfnhau. Mae cyhyrau ysbrydol yn datblygu drwy waith caled ac ymarfer ac mae profedigaethau ac anawsterau’n ein gwneud ni’n gadarn a gwydn. Mae dur yn cael ei roi yn y tân er mwyn ei drin, ac mae’r tân yn tynnu i ffwrdd y breuder gan beri ei fod bellach yn anodd ei dorri. Dyma sydd ei angen arnom fel Cristnogion.

Darllenwn yn llyfr Josua fod Caleb wedi llwyr ddilyn yr Arglwydd a phan oedd yn wythdeg a phump oed, erfyniodd ar Dduw: “Rho’r imi’n awr y mynydd-dir hwn” Byddai hyn yn golygu wynebu her a pherygl llythrennol yn achos Caleb am fod cewri’n byw yno; ond y pwynt sy’n cael ei wneud yw ein bod yn gallu wynebu a goresgyn anawsterau mawr dim ond i ni lwyr ddilyn yr Arglwydd.

Beth yw’r mynydd-dir anodd sy’n ein wynebu ni ar hyn o bryd a beth yw ein hagwedd tuag ato? Gallwn chwilio am ffyrdd i’w osgoi, neu efallai nad ydym yn gwybod beth i’w wneud, neu’n bod hyd yn oed yn teimlo fel rhedeg i ffwrdd. Ond gallwn ddilyn esiampl Caleb a dweud “Rho imi’n awr y mynydd-dir hwn!”  ac os mentrwn wneud hynny ni fydd Duw Caleb yn ein siomi ni.

Dywedir am Mallory ac Irving, y ddau ddringwr a gollwyd ar fynydd Everest blynyddoedd lawer yn ôl – “Y tro diwethaf y cawsant eu gweld roedden nhw’n dal i ddringo!” Bydded i’r Arglwydd ein gwneud ni’r fath o bobl sy’n dyfalbarhau ac yn dal ati hyd y diwedd.

Yn ddisgwylgar a hyderus,

Bill Hughes