Yna cododd ef ei lygaid ar ei ddisgyblion a dweud:
“Gwyn eich byd chwi’r tlodion, oherwydd eiddoch chwi yw teyrnas Dduw.
Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn newynog, oherwydd cewch eich digoni.
Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn wylo, oherwydd cewch chwerthin.
“Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich casáu, yn eich ysgymuno a’ch gwaradwyddo, ac yn dirmygu eich enw fel peth drwg, o achos Mab y Dyn. Byddwch lawen y dydd hwnnw a llamwch o orfoledd, oherwydd, ystyriwch, y mae eich gwobr yn fawr yn y nef. Oherwydd felly’n union y gwnaeth eu hynafiaid i’r proffwydi.
Ond gwae chwi’r cyfoethogion, oherwydd yr ydych wedi cael eich diddanwch.
Gwae chwi sydd yn awr wedi eich llenwi, oherwydd daw arnoch newyn.
Gwae chwi sydd yn awr yn chwerthin, oherwydd cewch ofid a dagrau.
Gwae chwi pan fydd pawb yn eich canmol, oherwydd felly’n union y gwnaeth eu hynafiaid i’r gau broffwydi.
Luc 6:20-26
Y pethau mae’n anodd gollwng gafael arnynt
Sgil bwysig i ddisgyblion Crist yn yr oes hon neu mewn unrhyw oes, yw dirnad pa bethau y dylem ddal gafael ynddynt fel pethau hanfodol, a pha bethau y dylem eu dal â llaw agored.
Yn ei ‘Bregeth ar y gwastadedd’ mae Iesu Grist yn cyhoeddi bendithion a melltithion gydag awdurdod aruthrol oedd yn dirnad beth oedd yng nghalonnau ei wrandawyr. Mae’n arbennig o bwysig bod disgyblion Crist yn deall y bendithion a’r melltithion hyn, sy’n dod mewn parau. Maen nhw’n pwysleisio sut mae’r deyrnas y mae Iesu’n ei chynnig yn gwrthdroi ein disgwyliadau o ble mae gwir fendith a llawenydd i’w cael (1:52-53). Edrychwch eto ar y parau hyn. Yn ôl Iesu, gellir dirnad gwir fendith yn eich agwedd at bedwar peth: Arian, Bwyd, Chwerthin ac Enw Da.
Os ydw i’n onest, rwy’n gweld temtasiwn enfawr i mi ddal gafael yn dynn ym mhob un o’r rhain, hyd yn oed (yn arbennig efallai!) yn y Cloi mawr sydd wedi dod yn sgil y coronafirws. Rwy’n caru arian oherwydd mae’n rhoi ymdeimlad ffug o ddiogelwch a rheolaeth i mi. Rwy’n caru bwyd oherwydd fy mod yn estyn amdano fel blanced gysur a byddaf yn mynd i banig os oes unrhyw awgrym o brinder. Rwy’n caru chwerthin a phleser ac rwy eisiau estyn am unrhyw ddihangfa sydd wrth law, er mwyn pylu poen a gofid y don ddiweddaraf o benawdau newyddion. Rwy wrth fy modd pan fydd pobl yn siarad yn dda amdanaf, cymaint felly nes bod yna frwydr wirioneddol yn fy nghalon wrth imi ystyried codi fy mhen uwchben y parapet a siarad dros Iesu gyda ffrindiau a chymdogion neu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ac eto mae geiriau Iesu’n peri i mi sefyll yn stond ac ystyried. Os ydw i’n rhoi fy mryd yn gyson ar unrhyw un o’r pethau hyn fel pethau anhepgor yn fy mywyd rwy’n dod o dan felltith Duw. Mae Iesu’n dysgu agwedd wahanol iawn i’r bywyd dan fendith, gan ddangos i mi fod gwir lawenydd yn awr ac am byth i’w gael trwy ddal y pethau hyn â llaw agored:
- Gwyn fy myd wrth i mi sylweddoli na all arian fy ngwneud i’n ddiogel mewn gwirionedd, ac wrth i mi edrych at yr Arglwydd i ddarparu’r hyn sy’n angenrheidiol i fyw iddo ef, gan edrych ymlaen at ei deyrnas ogoneddus (adn 20).
- Gwyn fy myd wrth imi sylweddoli na all bwyd ar ei ben ei hun roi gwir foddhad a chysur i mi, wrth i mi geisio helpu’r newynog o’m cwmpas, wrth i mi edrych at Iesu gyda gwir foddhad am yr hyn y mae’n ei ddarparu nawr ac am byth (adn 21).
- Gwyn fy myd wrth imi sylweddoli na ddylid osgoi poen a thristwch doed a ddelo, bod i alar ac ymdrech le gwerthfawr ym mywyd y disgybl, a bod yna chwerthin da sy’n ymhyfrydu yn Nuw i’w brofi ar lwybr y groes ac yn y deyrnas ogoneddus i ddod (adn 22).
- Gwyn fy myd wrth i mi sylweddoli bod enw da mor ansicr a byrhoedlog, a bod yna Un y mae ei enw da gogoneddus mor bwysig fel ei bod yn werth mentro popeth er ei fwyn (adn 22-23).
Yn ôl adnodau 22-23, yr allwedd yw byw bywyd er gogoniant Mab y Dyn – o’i herwydd ac er ei fwyn. A wnewch chi ddal eich gafael ynddo’n dynn, yr un a ‘wnaeth fy ngharu i ac a roddodd ei hun drosof i’ (Galatiaid 2:20)? A wnewch chi ddal y gweddill â llaw agored, ddiolchgar? Fel y dywed yr emyn:
Popeth gwerthfawr fu yn fy mywyd i,
Popeth mae y byd yn brwydro i’w gael,
Pethau’n elw fu, ‘nawr yn golled sydd;
Gwastraff yw i gyd ers ennill Crist.
Graham Kendrick cyf. Arfon Jones
Pete Campbell, Capel Fron