Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 21 Mai 2020

20 Mai 2020 | gan Meirion Thomas | Salm 24

Codwch eich pennau, O byrth! Ymddyrchefwch, O ddrysau tragwyddol! i frenin y gogoniant ddod i mewn. … Pwy yw’r brenin gogoniant hwn? ARGLWYDD y Lluoedd, ef yw brenin y gogoniant.

Salm 24:7,10

 

Dydd Iau Dyrchafael Hapus!

Mae dathliadau’r Nadolig yn cael lle amlwg iawn yn ein diwylliant ni. Mae’n briodol iawn ein bod ni’n dathlu ‘holl drysorau Duwdod yn y cnawd’, wrth gwrs. Rydyn ni felly yn dathlu darostyngiad Crist, ond ydyn ni’n talu digon o sylw i‘w ddyrchafael yn ôl i’r nefoedd? Mae buddogoliaeth Crist ar y Groes, a’i oruchafiaeth dros farwolaeth ac uffern yn yr atgyfodiad, yn cyrraedd uchafbwynt gogoneddus gyda’i esgyniad. Dyma foment fawr sy’n benllanw siwrne Crist, sy’n cychwyn gyda’i ostyngeiddrwydd yn dod i lawr i gymryd cig a gwaed, ond yn mynd ymlaen wedyn i gael Ei ddyrchafu mewn ffordd ysblennydd. Mae’r momentwm rhyfeddol a phwerus sydd i’w weld yn y symudiad hwn yn cael gafael arnom ni hefyd. Mae holl fywyd Crist nid yn unig yn arddangos nerth ac awdurdod, ond mae hefyd yn sôn am allu’r Efengyl i drawsffurfio tynged pobl. Mae Ei esgyniad Ef yn dweud y caf fi fy nyrchafu. Mae ei ddychweliad Ef i’w ogoniant terfynol fel Duw-ddyn yn sicrhau y byddwn ni hefyd yn cael mynd adref i’r gogoniant. Dyma rywbeth sy’n werth ei ddathlu.

Mae esgyniad Crist yn ôl i’r nef fel archoffeiriad a brenin yn golygu bod dyndod perffaith nawr i’w gael ym mhresenoldeb Duw. Dyn yn y gogonaint! Dyma’r tro cyntaf yn hanes yr achubiaeth i ddyn perffaith fod ar orsedd Duw. Mae ein natur ni, mewn ffurf sydd wedi cael ei berffeithio, yn cael ei gynrychioli o flaen y Duw Sanctaidd. Mae’r natur ddynol mewn ffurf gorfforol ym mhresenoldeb y Duw gogoneddus a sanctaidd yn y nefoedd. Mae’r Arglwydd Iesu Grist yn mynd i’w gartref er mwyn dechrau ei deyrnasiad tragwyddol ac i ddechrau ei waith grasol o eiriol dros ei bobl. Am ei fod Ef wedi dychwelyd at ei Dad, mae’r Ysbryd Glân yn cael ei arllwys ar yr Eglwys er mwyn iddi allu cyflawni ei gwaith mawr byd eang.

Mae rhai’n gweld tebygrwydd rhwng Dydd Iau Dyrchafael â dydd coroni Crist. Wrth i Grist farw ar y groes mae ei ysbryd yn dychwelyd i’r nef. Ei eiriau olaf oedd, “‘O Dad, i’th ddwylo di yr wyf yn cyflwyno fy ysbryd.’ A chan ddweud hyn bu farw” (Luc 23:46). Yna, ar fore’r Pasg mae ei ysbryd a’i gorff yn cael eu hail uno eto yng ngwyrth rhyfeddol yr atgyfodiad. Mae’n fyw, ac ni fydd yn marw mwyach. Mae’n treulio pedwardeg diwrnod gyda’i ddisgyblion, yn eu dysgu nhw ac yn eu paratoi nhw i’w ffaith y bydd Ef yn eu gadael eto ymhen amser. Meddai Iesu, “Paid â glynu wrthyf, oherwydd nid wyf eto wedi esgyn at y Tad. Ond dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, ‘Yr wyf yn esgyn at fy Nhad i a’ch Tad chwi, fy Nuw i a’ch Duw chwi’” (Ioan 20:17). Yna mae Luc yn nodi’r digwyddiad rhyfeddol yma yn Actau 1:9 “a hwythau’n edrych, fe’i dyrchafwyd, a chipiodd cwmwl ef o’u golwg.”

Mae Salm 24 yn agor gyda chwestiwn treiddgar, “Pwy a esgyn…?” Mae’r awdur yn mynd ymlaen yn ddisgwylgar i sôn am ryw esgyniad mawreddog. Mae’n galw ar y pyrth a’r drysau tragwyddol i gael eu hagor yn llydan i groesawu Brenin Gogoniant yn ôl i’w gartref. ‘Yr Arglwydd cryf a chadarn’ yw’r Brenin Gogoniant hwn. Yn ei esgyniad mae Crist yn cyflawni’r broffwydoliaeth obeithiol sydd yn y Salm. Mae ein cynrychiolydd ni nawr wedi dychwelyd i’w gartref i baratoi lle i ni. Dywed Crist, “Os myfi a af, ac a baratoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn ac a’ch cymeraf chwi ataf fy hun, fel lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd” (Ioan 14:3). Yn y cyfamser rydyn ni’n mwynhau bendithion lu ar sail y ffaith bod yr Arglwydd Iesu Grist wedi atgyfodi, wedi esgyn i’r nef a’i fod yn teyrnasu fel Brenin. Heddiw, gallwn fwynhau diogelwch a sicrwydd ein iachawdwriaeth. Heddiw gallwn lawenhau yn y cysur, yr arweiniad a phob bendith a ddaw i ni oherwydd Esgyniad Crist. Edrychwn ymlaen yn llawn gobaith i ddychweliad y Brenin, pryd y byddwn ni hefyd yn esgyn. Bydd ein henaid a’n corff newydd yn rhannu yng ngogoniant gogoneddus ein Harglwydd.

Meirion R. Thomas, Malpas Road

Tagiau
Dyrchafael