Fel yr oeddent yn syllu tua’r nef, ac yntau’n mynd, dyma ddau ŵr yn sefyll yn eu hymyl mewn dillad gwyn, ac meddai’r rhain, “Wŷr Galilea, pam yr ydych yn sefyll yn edrych tua’r nef? Yr Iesu hwn, sydd wedi ei gymryd i fyny oddi wrthych i’r nef, bydd yn dod yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn mynd i’r nef.”
Actau 1:10-11
Wrth i mi ysgrifennu’r defosiwn hwn mae hi’n fore Gwener ac mae llawer o edrych ymlaen at amser cinio lle y byddwn yn clywed gan Mark Drakeford am y llacio ar y cyfyngiadau covid-19 yng Nghymru. Beth ddaw tybed? Rwy’n ymwybodol eich bod chi yn darllen y defosiwn wedi’r cyhoeddiad, ac felly does dim pwynt gwneud gormod o ddyfalu!
Rhaid i mi gyfaddef mae un o’r pethau yr wyf yn edrych ymlaen fwyaf ato yw cael gweld pobl unwaith eto wyneb yn wyneb. Bydd hi’n hyfryd mynd am dro gyda, neu gael croesawu teulu a chyfeillion i’r tŷ wedi’r cyfnod hir hebddynt. Mae Zoom yn wych, ond does dim byd gwell na chael bod wyneb yn wyneb gyda pherson. Tybed pa ffrind fydd yn galw heibio gyntaf?
Mae’r adnodau yma yn ein hatgoffa fod gennym rywun arall i edrych ymlaen at ei weld. Yn wahanol i’r sefyllfa bresennol lle y byddwn yn cael rhyw fath o rybudd cyn i berson ddod i’n gweld, mae’r Beibl yn dweud nad ydym yn gwybod pryd fydd Iesu yn dod yn ôl. Ond mae’n sicr o ddigwydd.
Dychmygwch y diwrnod hwnnw! Os daw cyn i ni gael ein galw adref, byddwn yn gweld ein brenin yn dod ar y cymylau. Cawn syllu ar ei wyneb ac edrych i fyw’r llygaid rhyfeddol hynny fu’n ein gwylio ers ein geni. Cawn sylwi ar y dwylo a hoeliwyd drosom a chlywed yr un llais a waeddodd ‘Gorffennwyd’ ar y groes. Rwy’n siŵr y bydd y dagrau yn llifo o lawenydd wrth i ni sylwi ein bod gartref yn ei gwmni o’r diwedd wedi’r daith hir.
Ar ddechrau wythnos waith arall peth da i ni gael ein hatgoffa y gall Iesu ddychwelyd yr wythnos hon. Gadewch i ni fod yn ddisgwylgar, gadewch i ni fyfyrio ar ein Gwaredwr a gadewch i ni weddïo a rhannu’r neges gyda’n teulu, ffrindiau a chymdogion gan wybod mae peth ofnadwy fydd wynebu Iesu heb blygu iddo drwy ffydd.
Steffan Job (Capel y Ffynnon, Bangor)