17 – Dwy Ferch
Marc 5:21-43
Wedi i Iesu groesi’n ôl yn y cwch i’r ochr arall, daeth tyrfa fawr ynghyd ato, ac yr oedd ar lan y môr. Daeth un o arweinwyr y synagog, o’r enw Jairus, a phan welodd ef syrthiodd wrth ei draed ac ymbil yn daer arno: “Y mae fy merch fach,” meddai, “ar fin marw. Tyrd a rho dy ddwylo arni, iddi gael ei gwella a byw.” Ac aeth Iesu ymaith gydag ef. Yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn ac yn gwasgu arno. Ac yr oedd yno wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd. Yr oedd wedi dioddef yn enbyd dan driniaeth llawer o feddygon, ac wedi gwario’r cwbl oedd ganddi, a heb gael dim lles ond yn hytrach mynd yn waeth. Yr oedd hon wedi clywed am Iesu, a daeth o’r tu ôl iddo yn y dyrfa a chyffwrdd â’i fantell, oherwydd yr oedd hi wedi dweud, “Os cyffyrddaf hyd yn oed â’i ddillad ef, fe gaf fy iacháu.” A sychodd llif ei gwaed hi yn y fan, a daeth hithau i wybod yn ei chorff ei bod wedi ei hiacháu o’i chlwyf. Ac ar unwaith deallodd Iesu ynddo’i hun fod y nerth oedd yn tarddu ynddo wedi mynd allan, a throes yng nghanol y dyrfa, a gofyn, “Pwy gyffyrddodd â’m dillad?” Meddai ei ddisgyblion wrtho, “Yr wyt yn gweld y dyrfa’n gwasgu arnat ac eto’n gofyn, ‘Pwy gyffyrddodd â mi?’” Ond daliodd ef i edrych o’i gwmpas i weld yr un oedd wedi gwneud hyn. Daeth y wraig, dan grynu yn ei braw, yn gwybod beth oedd wedi digwydd iddi, a syrthiodd o’i flaen ef a dweud wrtho’r holl wir. Dywedodd yntau wrthi hi, “Ferch, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn tangnefedd, a bydd iach o’th glwyf.”
Tra oedd ef yn llefaru, daeth rhywrai o dŷ arweinydd y synagog a dweud, “Y mae dy ferch wedi marw; pam yr wyt yn poeni’r Athro bellach?” Ond anwybyddodd Iesu y neges, a dywedodd wrth arweinydd y synagog, “Paid ag ofni, dim ond credu.” Ac ni adawodd i neb ganlyn gydag ef ond Pedr ac Iago ac Ioan, brawd Iago. Daethant i dŷ arweinydd y synagog, a gwelodd gynnwrf, a phobl yn wylo ac yn dolefain yn uchel. Ac wedi mynd i mewn dywedodd wrthynt, “Pam yr ydych yn llawn cynnwrf ac yn wylo? Nid yw’r plentyn wedi marw, cysgu y mae.” Dechreusant chwerthin am ei ben. Gyrrodd yntau bawb allan, a chymryd tad y plentyn a’i mam a’r rhai oedd gydag ef, a mynd i mewn lle’r oedd y plentyn. Ac wedi gafael yn llaw’r plentyn dyma fe’n dweud wrthi, “Talitha cŵm,” sy’n golygu, “Fy ngeneth, rwy’n dweud wrthyt, cod.” Cododd yr eneth ar unwaith a dechrau cerdded, oherwydd yr oedd yn ddeuddeng mlwydd oed. A thrawyd hwy yn y fan â syndod mawr. A rhoddodd ef orchymyn pendant iddynt nad oedd neb i gael gwybod hyn, a dywedodd am roi iddi rywbeth i’w fwyta.
Geiriau Anodd
- Gwaedlif: Salwch oedd yn golygu eich bod chi yn methu peidio â gwaedu.
- Dolefain: Gwneud sŵn trist iawn.
Cwestiwn 1
Sut ydych chi’n teimlo pan fydd rhaid i chi fynd at feddyg? Ydych chi erioed wedi poeni na fydden nhw’n gallu eich helpu?
Cwestiwn 2
Beth oedd yn debyg ac yn wahanol am y ddwy ferch?
Hyd yn hyn rydyn ni wedi gweld fod gan y Brenin Iesu awdurdod dros fyd natur, dros y byd ysbrydol a thros afiechydon. Yn awr rydyn ni’n mynd i weld fod ganddo hyd yn oed awdurdod dros fywyd a marwolaeth.
Rydyn ni’n cael yma hanes dwy ferch wahanol iawn. Mae’r ferch gyntaf wedi bod yn dioddef ers deuddeng mlynedd, ac roedd natur ei salwch yn gwneud y profiad yn waeth fyth. Roedd y ffaith ei bod hi’n gollwng gwaed yn golygu ei bod yn cael ei hystyried yn frwnt. Doedd dim hawl ganddi i fynd i’r deml, a fyddai pobl eraill ddim eisiau ei chyffwrdd hi achos byddai hi’n eu gwneud nhw’n frwnt hefyd. Ond clywodd y fenyw hon am bopeth roedd Iesu wedi ei wneud ac roedd yn gwybod y byddai dim ond ei gyffwrdd yn ei hiacháu. A dyna a ddigwyddodd. Yn union fel roedd cyffwrdd y fenyw yn gwneud pobl eraill yn frwnt, mae cyffwrdd Iesu Grist gyda ffydd yn ei gwneud hi’n lân. 0 hyn ymlaen mae ei bywyd yn newid yn llwyr.
Mae’r ail ferch mewn sefyllfa wahanol iawn. Dydyn ni ddim yn cael yr argraff ei bod hi wedi dioddef ers amser hir. Yn wir, yn ystod deuddeng mlynedd ei bywyd roedd hi mewn sefyllfa freintiedig iawn fel merch arweinydd y synagog – roedd hi’n cael bod yn rhan o’r byd crefyddol. Ond mae hi yn awr wedi cael ei thorri i ffwrdd o’r gymdeithas ac yn frwnt oherwydd ei bod hi’n farw. Ond dydy hynny ddim yn poeni dim ar Iesu. Mae’n dod at y ferch ac yn ei thrin fel petai hi dim ond yn cysgu! Mae’n dweud wrthi ei bod yn amser codi, ac mae’r ferch yn gorfod gwrando. Mae cyffwrdd Iesu yn dod â bywyd. Yn wir, mae’r Brenin hwn mor bwerus nes bod codi rhywun o farwolaeth yr un mor rhwydd â’i ddeffro!
Cwestiwn 3
Pam rydych chi’n meddwl yr oedodd Iesu wrth fynd i iacháu y ferch?
Cwestiwn 4
Os Iesu yw’r Brenin, beth wyt ti’n credu mae ei weithredoedd yn dangos i ni am deyrnas Dduw?
Gweddïwch
am iechyd i’r bobl sâl rydych chi’n eu hadnabod.