Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gwneud Marc 4 – Pregethu a Iacháu

7 Ebrill 2020 | gan Emyr James | Marc 1

4 – Pregethu a Iacháu

Marc 1:29-39

Ac yna, wedi dod allan o’r synagog, aethant i dŷ Simon ac Andreas gydag Iago ac loan. Ac yr oedd mam-yng-nghyfraith Simon yn gorwedd yn wael dan dwymyn. Dywedasant wrtho amdani yn ddi-oed; aeth yntau ati a gafael yn ei llaw a’i chodi. Gadawodd y dwymyn hi, a dechreuodd hithau weini arnynt. Gyda’r nos, a’r haul wedi machlud, yr oeddent yn dwyn ato yr holl gleifion, a’r rhai oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid. Ac yr oedd yr holl dref wedi ymgynnull wrth y drws. lachaodd ef lawer oedd yn glaf dan amrywiol afiechydon, a bwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni adawai i’r cythreuliaid ddweud gair, oherwydd eu bod yn ei adnabod.

Bore trannoeth yn gynnar iawn, cododd ef ac aeth allan. Aeth ymaith i le unig, ac yno yr oedd yn gweddio. Aeth Simon a’i gymdeithion i chwilio amdano; ac wedi dod o hyd iddo dywedasant wrtho, “Y mae pawb yn dy geisio di.” Dywedodd yntau wrthynt, “Awn ymlaen i’r trefi nesaf, imi gael pregethu yno hefyd; oherwydd i hynny y deuthum allan.” Ac fe aeth drwy holl Galilea gan bregethu yn eu synagogau hwy a bwrw allan gythreuliaid.

Geiriau Anodd

  • Twymyn: Math o salwch.
  • Di-oed: Yn syth.
  • Cythreuliaid: Gair arall am ysbrydion aflan, yr angylion drwg.
  • Cymdeithion: Ffrindiau, neu rywrai eraill sydd yn cadw cwmni i chi.

Cwestiwn 1

Beth ydyn ni’n ei weld yw’r blaenoriaethau ym mywyd lesu?

Cwestiwn 2

Ym mha ffyrdd mae’r pethau mae lesu yn eu gwneud yn dangos i ni pwy yw e?

Yn barod yn ei lyfr o newyddion da am lesu Grist mae Marc wedi dangos i ni fod rhywbeth gwahanol iawn am lesu. Roedd ganddo awdurdod a phŵer arbennig. Yn yr hanes yma rydym yn gweld fod awdurdod y Brenin hwn i helpu pobl ddim yn ysbrydol yn unig, ond ei fod hefyd yn gallu eu gwella o salwch. Ar ôl iddo iacháu aelod o deulu Simon, fe glywodd y dref i gyd. Cyn gynted ag yr oedd y Saboth wedi gorffen ffurfiodd rhes y tu allan i’r tŷ o bobl a oedd angen help.

O feddwl fod lesu’n gallu gwneud y pethau hyn i gyd mor dda, efallai bydden ni’n disgwyl mai dyma sut fyddai’n treulio ei holl amser. Ond nid dyna sy’n digwydd. Mae’n dod yn amlwg, er bod hyn yn waith pwysig iawn, fod pethau eraill mae lesu yn eu cyfrif yn bwysicach.

Er mae’n siŵr ei fod wedi bod lan yn hwyr yn iacháu a bwrw allan cythreuliaid, mae’n dechrau’r diwrnod gan godi cyn bod unrhyw un yn gallu dod ato a mynd i weddïo. Mae’n gwneud yn siŵr fod amser ganddo i siarad â’i Dad. Yna, pan mae ei ddilynwyr yn dod i chwilio amdano a dweud bod mwy o bobl eisiau ei weld, mae lesu’n dweud mai’r gwaith pwysicaf sydd ganddo i’w wneud yw pregethu. Roedd lesu’n gwybod fod gan y bobl broblem fwy na iechyd corfforol. Felly’r peth pwysicaf roedd lesu yn gallu ei wneud drostyn nhw oedd gweddïo a phregethu. Dyna oedd ei flaenoriaeth. Beth amdanom ni?

Cwestiwn 3

Wrth edrych ar yr hyn a wnaeth mam-yng-nghyfraith Simon, beth mae hyn yn awgrymu y dylai ein hymateb ni fod?

Cwestiwn 4

Ydyn ni’n gweld mai’r peth pwysicaf y gallwn ni ei wneud dros bobl yw gweddïo a siarad â nhw am lesu Grist?

Gweddïwch

am nerth i drefnu amser rheolaidd i siarad â Duw mewn gweddi. Gofynnwch am gyfleon i rannu â phobl pwy yw lesu Grist a pham y mae e’n bwysig.​