26 – Gweld yn Glir
Marc 8:22-9:1
Daethant i Bethsaida. A dyma hwy’n dod â dyn dall ato, ac yn erfyn arno i gyffwrdd ag ef. Gafaelodd yn llaw’r dyn dall a mynd ag ef allan o’r pentref, ac wedi poeri ar ei lygaid rhoes ei ddwylo arno a gofynnodd iddo, “A elli di weld rhywbeth?” Edrychodd i fyny, ac meddai, “Yr wyf yn gweld pobl, maent yn edrych fel coed yn cerdded oddi amgylch.” Yna rhoes ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef. Craffodd yntau, ac adferwyd ef; yr oedd yn gweld popeth yn eglur o bell. Anfonodd ef adref, gan ddweud, “Paid â mynd i mewn i’r pentref.”
Aeth Iesu a’i ddisgyblion allan i bentrefi Cesarea Philipi, ac ar y ffordd holodd ei ddisgyblion: “Pwy,” meddai wrthynt, “y mae pobl yn dweud ydwyf fi?” Dywedasant hwythau wrtho, “Mae rhai’n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, un o’r proffwydi.” Gofynnodd ef iddynt, “A chwithau, pwy meddwch chwi ydwyf fi?” Atebodd Pedr ef, “Ti yw’r Meseia.” Rhybuddiodd hwy i beidio â dweud wrth neb amdano. Yna dechreuodd eu dysgu bod yn rhaid i Fab y Dyn ddioddef llawer, a chael ei wrthod gan yr henuriaid a’r prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, ac ymhen tridiau atgyfodi. Yr oedd yn llefaru’r gair hwn yn gwbl agored. A chymerodd Pedr ef ato a dechrau ei geryddu. Troes yntau, ac wedi edrych ar ei ddisgyblion ceryddodd Pedr. “Dos ymaith o’m golwg, Satan,” meddai, “oherwydd nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynol.” Galwodd ato’r dyrfa ynghyd â’i ddisgyblion a dywedodd wrthynt, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a’m canlyn i. Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe’i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i a’r Efengyl, fe’i ceidw. Pa elw a gaiff rhywun o ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? Oherwydd beth a all rhywun ei roi’n gyfnewid am ei fywyd? Pwy bynnag fydd â chywilydd ohonof fi ac o’m geiriau yn y genhedlaeth annuwiol a phechadurus hon, bydd ar Fab y Dyn hefyd gywilydd ohonynt hwy, pan ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda’r angylion sanctaidd.” Meddai hefyd wrthynt, “Yn wir, rwy’n dweud wrthych, y mae rhai o’r sawl sy’n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld teyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.”
Geiriau Anodd
- Trachefn: Unwaith eto.
- Craffu: Edrych yn ofalus.
- Adfer: Cael yn ôl.
- Meseia: Un wedi ei ddewis gan Dduw.
- Ymwadu: Cefnu.
- Cyll: A fydd yn colli.
Cwestiwn 1
Ydych chi erioed wedi meddwl eich bod chi’n deall rhywbeth, ac yna sylweddoli mai dim ond hanner y gwir roeddech chi wedi ei weld?
Cwestiwn 2
Beth mae Iesu eisiau dangos drwy’r ffordd mae’n gwella’r dyn?
Mae rhan gynta’r hanes hwn braidd yn od. Oes rhywbeth yn bod ar Iesu? Y tro cyntaf iddo wella’r dyn dall mae’n gweld ychydig, ond yn aneglur. Felly mae Iesu yn gorfod rhoi ei ddwylo arno eto, a’r tro hwn mae’n gallu gweld yn glir. Beth yn y byd sy’n digwydd fan hyn? Weithiau mae Iesu yn gwneud pethau sy’n edrych yn rhyfedd er mwyn esbonio rhywbeth i’w ddisgyblion. Wrth gario ymlaen i ddarllen, rydyn ni’n gweld mai dyma sy’n digwydd yma.
Rydyn ni wedi gweld sawl tro fod y disgyblion fel petaen nhw’n methu gweld pwy oedd Iesu. Ond yn awr, pan mae Iesu yn gofyn iddyn nhw pwy maen nhw’n meddwl yw e, mae Pedr yn rhoi’r ateb cywir – Iesu yw’r Meseia. Fe yw’r un roedd y bobl yn aros amdano, yr un oedd wedi ei ddewis gan Dduw i achub a rhyddhau ei bobl. Mae’n ymddangos fod y disgyblion yn dechrau gweld y gwirionedd. Ond y gwir yw eu bod nhw fel y dyn dall oedd yn gallu gweld rhywfaint, tra bod y manylion yn aneglur. Wrth i Iesu esbonio fod yn rhaid iddo ddioddef, marw ac yna atgyfodi, mae Pedr yn dangos nad yw’n deall. Nid dyma roedden nhw’n disgwyl fyddai’n digwydd i’r Meseia ac felly mae’n dechrau dweud y drefn wrth Iesu! Doedd y disgyblion ddim wedi deall beth fyddai’r Brenin yn gorfod ei neud, na’r math o fywyd roedd e’n eu galw nhw i’w fyw. Felly mae Iesu yn galw’r bobl i gyd ato ac yn esbonio iddyn nhw ei fod yn mynd i roi ei fywyd drostynt a bod disgwyl iddyn nhw roi eu bywydau iddo fe. Mae’n gorffen drwy ddweud y bydd amser yn dod pan fyddan nhw’n gweld Iesu yn cael ei ladd ac yna atgyfodi ac y byddan nhw’n derbyn yr Ysbryd Glân. Yna byddan nhw’n gweld yn hollol glir, ac yn gallu dweud y newyddion da wrth eraill.
Cwestiwn 3
Beth mae Iesu’n ei olygu wrth ein galw ni i godi ein croes a’i ddilyn?
Cwestiwn 4
Pa bethau sydd angen i chi roi’r gorau iddynt er mwyn dilyn Iesu?
Gweddïwch
y bydd Duw yn agor eich llygaid i weld yn glir, a’ch galluogi i roi eich bywyd i gyd iddo ef.