25 – Dynion Dall
Marc 8:1-21
Yn y dyddiau hynny, a’r dyrfa unwaith eto’n fawr a heb ddim i’w fwyta, galwodd ei ddisgyblion ato, ac meddai wrthynt, “Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, oherwydd y maent wedi bod gyda mi dridiau erbyn hyn, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta. Ac os anfonaf hwy adref ar eu cythlwng, llewygant ar y ffordd; y mae rhai ohonynt wedi dod o bell.” Atebodd ei ddisgyblion ef, “Sut y gall neb gael digon o fara i fwydo’r rhain mewn lle anial fel hyn?” Gofynnodd iddynt, “Pa sawl torth sydd gennych?” “Saith,” meddent hwythau. Gorchmynnodd i’r dyrfa eistedd ar y ddaear. Yna cymerodd y saith torth, ac wedi diolch fe’u torrodd a’u rhoi i’w ddisgyblion i’w gosod gerbron; ac fe’u gosodasant gerbron y dyrfa. Ac yr oedd ganddynt ychydig o bysgod bychain; ac wedi eu bendithio, dywedodd am osod y rhain hefyd ger eu bron. Bwytasant a chael digon, a chodasant y tameidiau oedd yn weddill, lond saith cawell. Yr oedd tua phedair mil ohonynt. Gollyngodd hwy ymaith. Ac yna aeth i mewn i’r cwch gyda’i ddisgyblion, a daeth i ardal Dalmanwtha. Daeth y Phariseaid allan a dechrau dadlau ag ef. Yr oeddent yn ceisio ganddo arwydd o’r nef, i roi prawf arno. Ochneidiodd yn ddwys ynddo’i hun. “Pam,” meddai, “y mae’r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir, rwy’n dweud wrthych, ni roddir arwydd i’r genhedlaeth hon.” A gadawodd hwy a mynd i’r cwch drachefn a hwylio ymaith i’r ochr draw. Yr oeddent wedi anghofio dod â bara, ac nid oedd ganddynt ond un dorth gyda hwy yn y cwch. A dechreuodd eu siarsio, gan ddweud, “Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a surdoes Herod.” Ac yr oeddent yn trafod ymhlith ei gilydd y ffaith nad oedd ganddynt fara. Deallodd yntau hyn, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn trafod nad oes gennych fara? A ydych eto heb weld na deall? A yw eich meddwl wedi troi’n ystyfnig? A llygaid gennych, onid ydych yn gweld, ac a chlustiau gennych, onid ydych yn clywed? Onid ydych yn cofio? Pan dorrais y pum torth i’r pum mil, pa sawl basgedaid lawn o dameidiau a godasoch?” Meddent wrtho, “Deuddeg.” “Pan dorrais y saith i’r pedair mil, llond pa sawl cawell o dameidiau a godasoch?” “Saith,” meddent. Ac meddai ef wrthynt, “Onid ydych eto’n deall?”
Geiriau Anodd
- Tridiau: Tri diwrnod.
- Ar eu cythlwng: Eisiau bwyd yn fawr.
- Cawell: Basged.
- Siarsio: Rhybuddio’n gryf.
- Ymogelu: Osgoi.
- Surdoes: Burum.
Cwestiwn 1
Pam rydym weithiau mor araf i ddysgu gwers?
Cwestiwn 2
Beth ydych chi’n credu roedd Iesu’n siarad amdano wrth gyfeirio at ‘surdoes’ y Phariseaid?
Roedd Marc 7:31-37 yn sôn am ddyn byddar oedd yn cael trafferth siarad, a’r ffordd y gwnaeth Iesu ei helpu. Yr hyn sy’n dod yn amlwg wrth ddarllen yr hanes yma yw mai problem y disgyblion oedd eu bod nhw’n ddall!
Meddyliwch am beth sy’n digwydd fan hyn. Unwaith eto mae nifer fawr o bobl wedi dilyn Iesu i fan pell lle does dim bwyd ar gael iddyn nhw. Am ryw reswm dydy’r disgyblion ddim yn credu ei bod yn bosibl i’w bwydo nhw i gyd, er bod Iesu ychydig ynghynt wedi llwyddo i fwydo tipyn mwy o bobl gyda hyd yn oed lai o fara a physgod! Wrth gwrs dydy Iesu ddim yn cael unrhyw drafferth i wneud yr un peth eto.
Wedi hwylio i ardal arall, rydym yn gweld y Phariseaid yn dod ato ac yn gofyn am gael gweld gwyrth er mwyn profi ei awdurdod. Mae’n siŵr eich bod chi a fi wedi colli cyfri o’r holl bethau anhygoel mae Iesu wedi eu gwneud hyd yn hyn, ac eto maen nhw eisiau gweld rhagor. Yn yr un ffordd ag yr ochneidiodd Iesu wrth weld dylanwad trist pechod ar fywyd y dyn byddar, yn awr mae’n ochneidio am fod pechod y bobl hyn wedi eu gwneud mor ddall i’r gwirionedd.
Wedi gadael yno, mae Iesu yn rhybuddio ei ddilynwyr i beidio â bod fel yr arweinwyr crefyddol, ond maen nhw’n camddeall yn llwyr. Maen nhw’n credu fod Iesu yn rhoi stŵr iddynt am anghofio dod a mwy nag un dorth o fara. Mae bron yn anodd peidio â chwerthin ar y disgyblion fan hyn. Dydyn nhw ddim yn gallu gweld, os gwnaeth Iesu fwydo pum mil â phum torth a phedair mil â saith torth (a llawer o fwyd dros ben), y byddai’n rhwydd yn gallu eu bwydo nhw ag un dorth! Mae’n amlwg eu bod nhw wedi syrthio i’r un bai â’r Phariseaid. Roedden nhw’n barnu pob peth o’r tu allan, yn llythrennol, heb weld y gwirionedd. Doedden nhw ddim wedi deall fod pob peth yn bosibl gyda Duw.
Cwestiwn 3
Ydych chi weithiau yn anghofio’r pethau anhygoel mae Duw wedi eu gwneud yn y gorffennol?
Cwestiwn 4
Pam y mae’n bwysig i ni osgoi syniadau anghywir fel rhai’r Phariseaid a Herod?
Gweddïwch
y bydd Duw yn eich atgoffa bob dydd o’i fawredd, ac yn eich cadw rhag syrthio i gredu pethau sydd ddim yn wir a dibynnu arnoch eich hunain.