Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gwneud Marc 22 – Brwnt a Glân

26 Ebrill 2020 | gan Emyr James | Marc 7

22 – Brwnt a Glân

Marc 7:1-23

Ymgasglodd y Phariseaid ato, a rhai ysgrifenyddion oedd wedi dod o Jerwsalem. A gwelsant fod rhai o’i ddisgyblion ef yn bwyta’u bwyd â dwylo halogedig, hynny yw, heb eu golchi. (Oherwydd nid yw’r Phariseaid, na neb o’r Iddewon, yn bwyta heb olchi eu dwylo hyd yr arddwrn, gan lynu wrth draddodiad yr hynafiaid; ac ni fyddant byth yn bwyta, ar ôl dod o’r farchnad, heb ymolchi; ac y mae llawer o bethau eraill a etifeddwyd ganddynt i’w cadw, megis golchi cwpanau ac ystenau a llestri pres.) Gofynnodd y Phariseaid a’r ysgrifenyddion iddo, “Pam nad yw dy ddisgyblion di’n dilyn traddodiad yr hynafiaid, ond yn bwyta’u bwyd â dwylo halogedig?” Dywedodd yntau wrthynt, “Da y proffwydodd Eseia amdanoch chwi ragrithwyr, fel y mae’n ysgrifenedig: ‘Y mae’r bobl hyn yn fy anrhydeddu â’u gwefusau, ond y mae eu calon ymhell oddi wrthyf; yn ofer y maent yn fy addoli, gan ddysgu gorchmynion dynol fel athrawiaethau.’ Yr ydych yn anwybyddu gorchymyn Duw ac yn glynu wrth draddodiad dynol.” Meddai hefyd wrthynt, “Rhai da ydych chwi am wrthod gorchymyn Duw er mwyn cadarnhau eich traddodiad eich hunain. Oherwydd dywedodd Moses, ‘Anrhydedda dy dad a’th fam’, a, ‘Bydded farw’n gelain y sawl a felltithia ei dad neu ei fam.’ Ond yr ydych chwi’n dweud, ‘Os dywed rhywun wrth ei dad neu ei fam, “Corban (hynny yw, Offrwm i Dduw) yw beth bynnag y gallasit ei dderbyn yn gymorth gennyf fi”,’ ni adewch iddo mwyach wneud dim i’w dad neu i’w fam. Yr ydych yn dirymu gair Duw trwy’r traddodiad a drosglwyddir gennych. Ac yr ydych yn gwneud llawer o bethau cyffelyb i hynny.” Galwodd y dyrfa ato drachefn ac meddai wrthynt, “Gwrandewch arnaf bawb, a deallwch. Nid oes dim sy’n mynd i mewn i rywun o’r tu allan iddo yn gallu ei halogi; ond y pethau sy’n dod allan o rywun, dyna sy’n ei halogi.” Ac wedi iddo fynd i’r tŷ oddi wrth y dyrfa, dechreuodd ei ddisgyblion ei holi am y ddameg. Meddai yntau wrthynt, “A ydych chwithau hefyd yr un mor ddi-ddeall? Oni welwch na all dim sy’n mynd i mewn i rywun o’r tu allan ei halogi, oherwydd nid yw’n mynd i’w galon ond i’w gylla, ac yna y mae’n mynd allan i’r geudy?” Felly y cyhoeddodd ef yr holl fwydydd yn lân. Ac meddai, “Yr hyn sy’n dod allan o rywun, dyna sy’n ei halogi. Oherwydd o’r tu mewn, o galon dynion, y daw allan feddyliau drwg, puteinio, lladrata, llofruddio, godinebu, trachwantu, anfadwaith, twyll, anlladrwydd, cenfigen, cabledd, balchder, ynfydrwydd; o’r tu mewn y mae’r holl ddrygau hyn yn dod ac yn halogi rhywun.”

Geiriau Anodd

  • Hynafiaid: Rhagflaenwyr
  • Ystenau: Llestri oedd yn dal dŵr.
  • Rhagrithwyr: Pobl sydd yn dweud un peth, ond yn gwneud rhywbeth arall.
  • Cylla: Stumog.
  • Ceudy: Tŷ bach.
  • Godinebu: Cael perthynas rywiol â pherson sy’n briod â rhywun arall.
  • Trachwantu: Eisiau rhywbeth yn fawr iawn.
  • Anfadwaith: Drygioni.
  • Anlladrwydd: Chwant.
  • Ynfydrwydd: Ffolineb.

Cwestiwn 3

Beth ydych chi’n meddwl sy’n gwneud person yn frwnt?

Cwestiwn 4

Oes modd i berson edrych yn Iân ar y tu allan ond dal yn frwnt y tu mewn?

  Ydych chi erioed wedi cael y profiad o godi afal sgleiniog, dim ond i’w gnoi a chael bod y canol wedi mynd yn ddrwg? Doedd dim ots sut roedd y tu allan yn edrych os oedd y tu mewn wedi pydru. Rydyn ni wedi dod ar draws y Phariseaid sawl gwaith yn barod, ac yn awr rydyn ni’n mynd at wraidd eu problem.

  Y cyfan oedd yn bwysig i’r bobl hyn oedd y ffordd roedden nhw’n edrych ar y tu allan. Roedden nhw’n dilyn y gyfraith yn fanwl a hyd yn oed yn ychwanegu at yr hyn roedd y gyfraith yn ei ddweud am fod yn lân, oherwydd roedden nhw eisiau i bawb weld pa mor dda oedden nhw. Ond roedden nhw wedi colli golwg ar y ffaith mai’r rheswm roedd Duw wedi rhoi’r gyfraith yn y lle cyntaf oedd i ddangos nad oedden nhw’n Iân ar y tu mewn. Er mwyn dangos hyn, mae Iesu’n rhoi enghraifft iddyn nhw. Mae’n ymddangos fod y dynion hyn, yn hytrach na helpu eu rhieni tlawd, yn ceisio edrych yn dda trwy roi’r arian i’r deml. Ond wrth roi’r argraff eu bod nhw’n plesio Duw, roedden nhw’n torri’r gyfraith sy’n dweud bod angen anrhydeddu eich tad a’ch mam.

  Yr hyn mae Iesu yn ei ddweud yw nad y pethau allanol fel y rheolau bwyd a glendid yw’r broblem. Onid yw hynny’n amlwg? Mae’r pethau rydyn ni’n eu bwyta yn mynd trwy ein cyrff, heb effeithio ar y galon. Y galon yw’r broblem sy’n achosi i ni wneud pethau sydd ddim yn plesio Duw ac yn ein gwneud ni’n frwnt yn ei olwg. Petai eu calonnau nhw’n iawn, yna fe fydden nhw’n gallu dilyn y rheolau eraill am y rhesymau cywir.

Cwestiwn 3

Beth oedd y Phariseaid wedi’i gamddeall?

Cwestiwn 4

Os calon person sydd yn ei wneud yn frwnt, beth ydych chi’n meddwl sydd angen digwydd?

Gweddïwch

y bydd Duw yn newid eich calon, fel eich bod chi’n gwneud pethau sy’n ei blesio.​