20 – Bwydo Rhyfeddol
Marc 6:30-44
Daeth yr apostolion ynghyd at Iesu a dweud wrtho am yr holl bethau yr oeddent wedi eu gwneud a’u dysgu. A dywedodd wrthynt, “Dewch chwi eich hunain o’r neilltu i le unig a gorffwyswch am dipyn.” Oherwydd yr oedd llawer yn mynd a dod, ac nid oedd cyfle iddynt hyd yn oed i fwyta. Ac aethant ymaith yn y cwch i le unig o’r neilltu. Gwelodd llawer hwy’n mynd, a’u hadnabod, a rhedasant ynghyd i’r fan, dros y tir o’r holl drefi, a chyrraedd o’u blaen. Pan laniodd Iesu gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt am eu bod fel defaid heb fugail; a dechreuodd ddysgu llawer iddynt. Pan oedd hi eisoes wedi mynd yn hwyr ar y dydd daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Y mae’r lle yma’n unig ac y mae hi eisoes yn hwyr. Gollwng hwy, iddynt fynd i’r wlad a’r pentrefi o amgylch i brynu tipyn o fwyd iddynt eu hunain.” Atebodd yntau hwy, “Rhowch chwi rywbeth i’w fwyta iddynt.” Meddent wrtho, “A ydym i fynd i brynu bara gwerth dau gant o ddarnau arian, a’i roi iddynt i’w fwyta?” Meddai yntau wrthynt, “Pa sawl torth sydd gennych? Ewch i edrych.” Ac wedi cael gwybod dywedasant, “Pump, a dau bysgodyn.” Gorchmynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn gwmnïoedd ar y glaswellt. Ac eisteddasant yn rhesi, bob yn gant a hanner cant. Yna cymerodd y pum torth a’r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i’r nef a bendithio, torrodd y torthau a’u rhoi i’w ddisgyblion i’w gosod gerbron y bobl; rhannodd hefyd y ddau bysgodyn rhwng pawb. Bwytasant oll a chael digon. A chodasant ddeuddeg basgedaid o dameidiau bara, a pheth o’r pysgod. Ac yr oedd y rhai oedd wedi bwyta’r torthau yn bum mil o wŷr.
Geiriau Anodd
- Apostolion: Rhai sydd wedi eu hanfon. Enw arall am ddeuddeg disgybl Iesu.
Cwestiwn 1
Sut y byddech chi’n disgwyl i Iesu ymateb wrth i’r bobl hyn ei ddilyn i bob man?
Cwestiwn 2
Ym mha ffyrdd mae bugail yn gofalu am ei ddefaid?
Hyd yn hyn rydyn ni wedi cael ein cyflwyno sawl tro i’r ffaith mai Iesu yw’r Brenin. Yn rhyfedd iawn mae cysylltiad yn aml yn cael ei wneud yn y Beibl rhwng y brenin fel arweinydd y bobl ac un o swyddi isaf y gymdeithas – bugail. Mae’r Hen Destament yn aml yn disgrifio pobl Dduw fel defaid sydd angen bugail. Mae gan fugail gyfrifoldeb mawr dros ei ddefaid – mae’n eu harwain, yn gwylio drostynt, yn eu hamddiffyn, yn eu bwydo, a hyd yn oed yn rhoi ei fywyd drostynt os bydd angen.
Pan mae Iesu yn edrych ar y dyrfa hon sydd wedi rhedeg ar ei ôl er mwyn gwrando arno, mae’n sylweddoli eu bod nhw fel defaid. Maen nhw angen rhywun i ofalu amdanynt, i ddangos y ffordd iddynt ac i ddarparu ar gyfer eu hanghenion. A dyna’n union mae’n ei wneud. Mae’n dechrau drwy eu dysgu’r hyn maen nhw angen ei glywed ac yna mewn ffordd gwbl wyrthiol yn bwydo 5000 o ddynion (heb sôn am y merched a’r plant) â phum torth a dau bysgodyn.
Ond mae Iesu eisiau i’r bobl weld mwy na’r ffaith ei fod yn athro da sy’n gallu darparu gwledd i’w ddilynwyr. Mae’r darn hwn yn cynnwys sawl adlais o’r Hen Destament. Yn gyntaf mae’n cael y bobl i eistedd ar y ‘glaswellt’. Mae Marc yn gwneud pwynt o nodi fod y borfa’n wyrdd. ”Mae hyn yn ein hatgoffa o Salm 23. Yno, Duw ei hun yw’r bugail sy’n gwneud i’w bobl orwedd mewn porfeydd breision (h.y. glaswellt!) Yr ail beth mae Iesu yn ei wneud fan hyn yw rhoi bara i nifer fawr o bobl mewn lle unig iawn. Mae hyn yn ein hatgoffa yn syth o’r ffordd y gwnaeth Duw ei hun fwydo’r Israeliaid â manna tra oeddynt yn yr anialwch. Iesu Grist yw’r Arglwydd Dduw, y Bugail Da a’r Brenin sy’n gofalu am ei bobl.
Cwestiwn 3
Ydych chi’n meddwl fod rheswm pam mae Iesu yn dysgu’r bobl cyn eu bwydo nhw?
Cwestiwn 4
Pam ydych chi’n meddwl fod Iesu yn creu cymaint o fwyd fel bod basgeidiau ar ôl?
Gweddïwch
ar y Bugail Mawr i’ch gwarchod chi ac i roi’r bwyd corfforol ac ysbrydol rydych chi ei angen.