Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gwneud Marc 19 – Marwolaeth Ioan

24 Ebrill 2020 | gan Emyr James | Marc 6

19 – Marwolaeth Ioan

Marc 6:14-29

Clywodd y Brenin Herod am hyn, oherwydd yr oedd enw Iesu wedi dod yn hysbys. Yr oedd pobl yn dweud, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi ei godi oddi wrth y meirw, a dyna pam y mae’r gweithredoedd nerthol ar waith ynddo ef.” Yr oedd eraill yn dweud, “Elias ydyw”; ac eraill wedyn, “Proffwyd yw, fel un o’r proffwydi gynt.” Ond pan glywodd Herod, dywedodd, “Ioan, yr un y torrais i ei ben, sydd wedi ei gyfodi.” Oherwydd yr oedd Herod wedi anfon a dal Ioan, a’i roi yn rhwym yng ngharchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd, am ei fod wedi ei phriodi. Yr oedd Ioan wedi dweud wrth Herod, “Nid yw’n gyfreithlon iti gael gwraig dy frawd.” Ac yr oedd Herodias yn dal dig wrtho ac yn dymuno ei ladd, ond ni allai, oherwydd yr oedd ar Herod ofn Ioan, am ei fod yn gwybod mai gŵr cyfiawn a sanctaidd ydoedd. Yr oedd yn ei gadw dan warchodaeth; a byddai’n gwrando arno’n llawen, er ei fod, ar ôl gwrando, mewn penbleth fawr.

Daeth cyfle un diwrnod, pan wnaeth Herod wledd ar ei ben-blwydd i’w bendefigion a’i gadfridogion a gwŷr blaenllaw Galilea. Daeth merch Herodias i mewn, a dawnsio a phlesio Herod a’i westeion. Dywedodd y brenin wrth yr eneth, “Gofyn imi am y peth a fynni, ac fe’i rhof iti.” A gwnaeth lw difrifol iddi, “Beth bynnag a ofynni gennyf, rhof ef iti, hyd at hanner fy nheyrnas.” Aeth allan a dywedodd wrth ei mam, “Am beth y caf ofyn?” Dywedodd hithau, “Pen Ioan Fedyddiwr.” A brysiodd yr eneth ar unwaith i mewn at y brenin a gofyn, “Yr wyf am iti roi imi, y munud yma, ben Ioan Fedyddiwr ar ddysgl.” Aeth y brenin yn drist iawn, ond oherwydd ei lw, ac oherwydd y gwesteion, penderfynodd beidio â thorri ei air iddi. Ac yna anfonodd y brenin ddienyddiwr a gorchymyn iddo ddod â phen Ioan. Fe aeth hwnnw, a thorrodd ei ben ef yn y carchar, a dod ag ef ar ddysgl a’i roi i’r eneth; a rhoddodd yr eneth ef i’w mam. A phan glywodd ei ddisgyblion, daethant, a mynd â’i gorff ymaith a’i ddodi mewn bedd.

Geiriau Anodd

  • Elias: Proffwyd enwog o’r Hen Destament roedd y bobl yn disgwyl y byddai’n dychwelyd ryw ddydd.
  • Pendefigion: Arglwyddi.
  • Cadfridogion: Arweinwyr milwrol.
  • Llw: Addewid.
  • Dienyddiwr: Person sy’n gweinyddu’r gosb eithaf.

Cwestiwn 1

Ydych chi byth yn gwneud ac yn dweud pethau oherwydd eich bod chi’n poeni beth fydd pobl eraill yn meddwl?

Cwestiwn 2

Mae Ioan a Herod yn wahanol iawn i’w gilydd – ym mha ffyrdd?

  Wedi i Iesu anfon ei ddisgyblion allan gyda’r rhybudd am bobl yn eu gwrthod, mae Marc yn rhoi ychydig bach o hanes i ni am un a wrthododd y neges – y Brenin Herod.

  Roedd Herod wedi cymryd gwraig ei frawd er mwyn iddi fod yn wraig iddo ef. Yn union fel roedd Ioan wedi pregethu yn yr anialwch am yr angen i edifarhau am bechodau, fe ddywedodd yn gwbl glir wrth Herod fod yr hyn yr oedd wedi ei wneud yn ddrwg iawn yng ngolwg Duw. Roedd Herodias ei wraig yn grac iawn am hyn ac roedd hi eisiau i Ioan gael ei ladd, and roedd Herod yn gwybod fod yna rywbeth arbennig am Ioan, er nad oedd wir yn deall yr hyn roedd Ioan yn ei ddweud.

  Ond un diwrnod, pan oedd wedi bod yn mwynhau parti, gwnaeth Herod rhywbeth ffôl iawn. O flaen pobl bwysig y wlad fe addawodd i ferch Herodias y byddai’n rhoi iddi unrhyw beth y byddai’n gofyn amdano. Dyma Herodias yn gweld ei chyfle ac yn cael ei merch i ofyn am ben Ioan Fedyddiwr.

  Mae’r stori hon yn un hynod o drist, ac nid yn unig oherwydd fod Ioan wedi cael ei ladd. Edrychwch ar ddechrau’r darn eto. Pan mae Herod yn clywed am y pethau mae Iesu yn eu gwneud, mae’n dechrau meddwl yn syth fod Ioan wedi dod nôl yn fyw. Mae’n amlwg fod y peth ar ei feddwl a’i fod yn poeni am yr hyn roedd wedi ei wneud. Yn y stori ei hun rydyn ni’n teimlo fod Herod yn agos iawn i dderbyn y neges. Ond roedd e’n poeni’n fwy am y ffordd roedd pobl yn meddwl amdano nag am yr angen i edifarhau a throi at Dduw.

  Wnaeth dim byd newid i Herod. Rydyn ni’n clywed ar ddiwedd Efengyl Luc (23:7-11) ei fod am weld Iesu, and dim ond er mwyn gweld gwyrth, neu arwydd o ryw fath. Pan mae Iesu yn dod o’i flaen mae Herod yn gofyn cwestiynau iddo fel roedd wedi arfer gwneud i Ioan, “…ond nid atebodd Iesu iddo yr un gair.” Roedd Herod wedi cael ei gyfle ac wedi ei golli.

Cwestiwn 3

Pam ydych chi’n meddwl fod Herod yn hoffi gwrando ar Ioan?

Cwestiwn 4

Pam roedd geiriau Ioan wedi gwneud Herodias mor grac?

Gweddïwch

y bydd Duw yn eich gwneud chi mor ddewr â Ioan Fedyddiwr ac yn ddigon gonest i ddweud wrth bobl yr hyn maen nhw angen ei glywed.