18 – Gwrthod y Neges
Marc 6:1-13
Aeth oddi yno a daeth i fro ei febyd, a’i ddisgyblion yn ei ganlyn. A phan ddaeth y Saboth dechreuodd ddysgu yn y synagog. Yr oedd llawer yn synnu wrth wrando, ac meddent, “O ble y cafodd hwn y pethau hyn? A beth yw’r ddoethineb a roed i hwn, a’r fath weithredoedd nerthol sy’n cael eu gwneud trwyddo ef? Onid hwn yw’r saer, mab Mair a brawd Iago a Joses a Jwdas a Simon? Ac onid yw ei chwiorydd yma gyda ni?” Yr oedd ef yn peri tramgwydd iddynt. Meddai Iesu wrthynt, “Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei fro ei hun ac ymhlith ei geraint ac yn ei gartref.” Ac ni allai wneud unrhyw wyrth yno, ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion a’u hiacháu. Rhyfeddodd at eu hanghrediniaeth.
Yr oedd yn mynd o amgylch y pentrefi dan ddysgu. A galwodd y Deuddeg ato a dechrau eu hanfon allan bob yn ddau. Rhoddodd iddynt awdurdod dros ysbrydion aflan, a gorchmynnodd iddynt beidio â chymryd dim ar gyfer y daith ond ffon yn unig; dim bara, dim cod, dim pres yn eu gwregys; sandalau am eu traed, ond heb wisgo ail grys. Ac meddai wrthynt, “Lle bynnag yr ewch i mewn i dŷ, arhoswch yno nes y byddwch yn ymadael â’r ardal. Ac os bydd unrhyw le yn gwrthod eich derbyn, a phobl yn gwrthod gwrando arnoch, ewch allan oddi yno ac ysgydwch ymaith y llwch fydd dan eich traed, yn rhybudd iddynt.” Felly aethant allan a phregethu ar i bobl edifarhau, ac yr oeddent yn bwrw allan gythreuliaid lawer, ac yn eneinio llawer o gleifion ag olew ac yn eu hiacháu.
Geiriau Anodd
- Bro ei febyd: Yr ardal lle y magwyd ef.
- Saer: Person sy’n gwneud gwaith pren.
- Peri tramgwydd: Achosi rhwystr.
- Ceraint: Perthnasau.
- Pres: Arian.
- Eneinio: Tywallt olew ar berson.
Cwestiwn 1
Pwy yw’r bobl sydd yn eich adnabod chi orau?
Cwestiwn 2
Ydych chi wedi cael y profiad o bobl yn gwrthod credu yr hyn rydych chi’n ei ddweud wrthyn nhw?
Wedi cyfnod o deithio o amgylch y wlad yn pregethu ac yn gwneud arwyddion rhyfeddol, mae Iesu yn dychwelyd i’r ardal lle cafodd ei fagu. Byddech chi’n disgwyl i’r bobl yma, o bob man, gredu ei neges! Roedd y bobl hyn wedi treulio blynyddoedd yn ei gwmni, wedi ei wylio’n tyfu. Roedden nhw’n ei adnabod pan oedd e’n blentyn – y plentyn mwyaf doeth, ufudd a chwrtais erioed, nad oedd byth yn cambihafio. Yna wedi tyfu, roedden nhw’n gwybod ei fod yn ddyn arbennig iawn, y saer nad oedd byth yn twyllo nac yn gwneud cam â neb.
Ond nawr fod Iesu wedi dechrau ei weinidogaeth gyhoeddus ac yn dysgu gydag awdurdod, doedd y bobl oedd wedi ei adnabod ar hyd ei fywyd ddim yn gallu derbyn yr hyn roedd e’n ei ddweud. Er eu bod yn cydnabod ei fod yn dweud ac yn gwneud y pethau mwyaf arbennig, maen nhw’n gwrthod derbyn ei neges am eu bod yn meddwl ei fod yn ddyn cyffredin. Ac oherwydd nad oedden nhw’n credu, doedd e ddim yn gallu eu helpu.
Wrth i Iesu anfon allan ei ddisgyblion i rannu’r newyddion da gan ddibynnu’n llwyr ar Dduw, mae’n rhoi rhybudd iddyn nhw. Yn union fel y gwnaeth pobl ei wrthod ef, bydd pobl yn gwrthod gwrando arnyn nhw. Pan fydd hynny yn digwydd maen nhw i fod i adael y lle hwnnw gan ysgwyd y llwch oddi ar eu traed. Roedd hyn yn rhywbeth y byddai Iddewon yn ei wneud ar ôl bod yn un o ddinasoedd cenhedloedd eraill, fel arwydd fod y bobl hynny ddim yn perthyn i bobl Dduw. Dyma’r neges ddifrifol roedd y disgyblion yn ei rhoi – os nad ydych chi’n derbyn Iesu Grist, yna dydych chi ddim yn un o bobl Dduw.
Cwestiwn 3
Beth ydyn ni’n ei ddysgu o’r ffaith fod Iesu yn methu iacháu y bobl yma?
Cwestiwn 4
Pam ydych chi’n meddwl fod Iesu yn anfon ei ddisgyblion allan heb lawer o bethau fel bwyd ac arian?
Gweddïwch
am nerth i barhau i ddilyn Iesu hyd yn oed petai’r byd i gyd yn troi cefn arnoch.