11 – Teulu Crist
Marc 3:20-35
Daeth i’r tŷ; a dyma’r dyrfa’n ymgasglu unwaith eto, nes eu bod yn methu cymryd pryd o fwyd hyd yn oed. A phan glywodd ei deulu, aethant allan i’w atal ef, oherwydd dweud yr oeddent, “Y mae wedi colli arno’i hun.” A’r ysgrifenyddion hefyd, a oedd wedi dod i lawr o Jerwsalem, yr oeddent hwythau’n dweud, “Y mae Beelsebwl ynddo”, a, “Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae’n bwrw allan gythreuliaid.”
Galwodd hwy ato ac meddai wrthynt ar ddamhegion: “Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? Os bydd teyrnas yn ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni all y deyrnas honno sefyll. Ac os bydd tŷ yn ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni all y tŷ hwnnw sefyll. Ac os yw Satan wedi codi yn ei erbyn ei hun ac ymrannu, ni all yntau sefyll; y mae ar ben arno. Eithr ni all neb fynd i mewn i dŷ’r un cryf ac ysbeilio’i ddodrefn heb yn gyntaf rwymo’r un cryf; wedyn caiff ysbeilio’i dŷ ef. Yn wir, rwy’n dweud wrthych, maddeuir popeth i blant y ddaear, eu pechodau a’u cableddau, beth bynnag fyddant; ond pwy bynnag a gabla yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant byth; y mae’n euog o bechod tragwyddol.” Dywedodd hyn oherwydd iddynt ddweud, “Y mae ysbryd aflan ynddo.”
A daeth ei fam ef a’i frodyr, a chan sefyll y tu allan anfonasant ato i’w alw. Yr oedd tyrfa’n eistedd o’i amgylch, ac meddent wrtho, “Dacw dy fam a’th frodyr a’th chwiorydd y tu allan yn dy geisio.” Atebodd hwy, “Pwy yw fy mam i a’m brodyr?” A chan edrych ar y rhai oedd yn eistedd yn gylch o’i gwmpas, dywedodd, “Dyma fy mam a’m brodyr i. Pwy bynnag sy’n gwneud ewyllys Duw, y mae hwnnw’n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam.”
Geiriau Anodd
- Beelsebwl: Enw arall ar Satan.
- Damhegion: Straeon sy’n dysgu gwers ysbrydol.
- Ysbeilio: Dwyn.
- Cabledd: Dweud rhywbeth yn erbyn Duw.
Cwestiwn 1
Pwy yw’r bobl rydych chi’n disgwyl y byddent yn ffyddlon ichi?
Cwestiwn 2
Ym mha ffyrdd gallwn ni ddangos ein bod yn rhan o deulu?
Wrth edrych ar yr adran hon o lyfr Marc, rydym am ofyn y cwestiwn, pwy yw teulu Crist? Pwy yw’r bobl sy’n perthyn iddo mewn gwirionedd? Er bod llawer o bobl yn dod at Iesu i’w hiacháu ganddo, mae rhai o’i deulu neu bobl o’i bentref yn meddwl ei fod yn wallgof ac yn ceisio ei rwystro. Mae’r arweinwyr crefyddol yn mynd hyd yn oed ym mhellach ac yn dweud ei fod yn gwneud y pethau hyn yn nerth ysbryd drwg. Dydy rhain ddim yn ymddwyn fel teulu i Iesu.
Ateb Iesu i’r rhain yw ei bod yn dwp i feddwl fod Satan a’i ddilynwyr yn brwydro yn erbyn ei gilydd, oherwydd unwaith mae hynny’n digwydd mae ar ben arnynt. Pan mae’r bobl sy’n byw mewn gwlad yn ymladd â’i gilydd, yna mae’r wlad yn wan iawn! Na, meddai Iesu, yr unig ffordd y gallwch chi gymryd rhywbeth oddi wrth berson cryf yw os ydych chi’n gryfach nag ef. Dyma sut mae Iesu’n llwyddo i helpu cymaint o bobl – oherwydd ei fod yn gryfach na’r ysbrydion drwg sy’n eu brifo. Nid yr ysbrydion aflan yw teulu Iesu! Yn wir, mae Iesu’n rhybuddio’r bobl, os ydyn nhw’n dweud mai trwy’r diafol mae’n gwneud y pethau hyn, yna maen nhw wedi cymysgu rhwng yr Ysbryd Glân ac ysbryd aflan. Os yw eu meddyliau wedi tywyllu gymaint â hynny, yna pa obaith sydd ganddyn nhw i droi at Dduw a derbyn maddeuant.
Yna mae rhywbeth trawiadol yn digwydd. Mae perthnasau agosaf Iesu, ei fam a’i frodyr, yn dod ato ac mewn ffordd eithaf balch yn anfon rhywun i’w nôl, gan ddisgwyl y bydd yn dod atyn nhw oherwydd eu bod nhw’n perthyn. Ond ymateb Iesu yw dweud mai nid y rhain yw ei deulu! Teulu go iawn Iesu, y rhai sy’n perthyn iddo mewn gwirionedd, yw’r bobl sy’n ufuddhau i Dduw ac yn derbyn y Brenin mae wedi ei anfon.
Cwestiwn 3
Sut mae Iesu yn dangos ei fod e’n gryfach na Satan?
Cwestiwn 4
Pa ffordd dylai gwybod mai ni yw teulu Crist newid y ffordd rydym ni’n ymddwyn?
Gweddïwch
na fyddwch yn cymryd eich perthynas â Iesu yn ganiataol, ond y bydd eich holl fywyd yn dangos eich bod yn ei garu.