10 – Darparu at y Galw
Marc 3:7-19
Aeth Iesu ymaith gyda’i ddisgyblion i lan y môr, ac fe ddilynodd tyrfa fawr o Galilea. Ac o Jwdea a Jerwsalem, o Idwmea a’r tu hwnt i’r Iorddonen a chylch Tyrus a Sidon, daeth tyrfa fawr ato, wedi iddynt glywed y fath bethau mawr yr oedd ef yn eu gwneud. A dywedodd wrth ei ddisgyblion am gael cwch yn barod iddo rhag i’r dyrfa wasgu arno. Oherwydd yr oedd wedi iacháu llawer, ac felly yr oedd yr holl gleifion yn ymwthio ato i gyffwrdd ag ef. Pan fyddai’r ysbrydion aflan yn ei weld, byddent yn syrthio o’i flaen ac yn gweiddi, “Ti yw Mab Duw.” A byddai yntau yn eu rhybuddio hwy yn bendant i beidio â’i wneud yn hysbys.
Aeth i fyny i’r mynydd a galwodd ato y rhai a fynnai ef, ac aethant ato. Penododd ddeuddeg er mwyn iddynt fod gydag ef, ac er mwyn eu hanfon hwy i bregethu ac i feddu awdurdod i fwrw allan gythreuliaid. Felly y penododd y Deuddeg, ac ar Simon rhoes yr enw Pedr; yna Iago fab Sebedeus, ac Ioan brawd Iago, a rhoes arnynt hwy yr enw Boanerges, hynny yw, “Meibion y Daran”; ac Andreas a Philip a Bartholomeus a Mathew a Thomas, ac Iago fab Alffeus, a Thadeus, a Simon y Selot, a Jwdas Iscariot, yr un a’i bradychodd ef.
Geiriau Anodd
- Meddu awdurdod: Cael grym.
- Pedr: Ystyr yr enw yw ‘craig’.
- Selot: Roedd y selotiaid yn grwp gwleidyddol oedd yn gwrthwynebu’r Rhufeiniaid. Mae’n ymddangos fod Simon yn un ohonynt cyn dechrau dilyn Iesu.
- Bradychu: Bod yn anffyddlon.
Cwestiwn 1
Ydych chi erioed wedi eisiau siarad â rhywun, ond heb allu cyrraedd atyn nhw oherwydd fod cymaint o bobl o’u cwmpas?
Cwestiwn 2
Oes gennych chi lysenw sy’n dweud rhywbeth am eich cymeriad?
Hyd yn hyn mae Marc wedi bod yn pwysleisio pa mor wych yw’r ffaith fod Iesu Grist wedi dod i’r byd, gan ddangos yr holl bethau anhygoel roedd e’n eu gwneud. Ond er ei bod yn hollbwysig fod Mab Duw yn dod i’r byd fel dyn, roedd hyn yn achosi problem. Yn amlwg dim ond hyn a hyn o bobl fyddai’n gallu dod at Iesu ar unrhyw adeg. Unwaith eto yn yr hanes yma cawn syniad o faint o bobl oedd angen help. Mae’r dyrfa enfawr hon o bobl anghenus yn dod at Iesu er mwyn cael eu hiacháu o wahanol bethau. Y tro hwn, mae cymaint ohonyn nhw’n dod nes bod rhaid i Iesu fynd allan ar y dŵr mewn cwch ychydig i ffwrdd o’r Ian er mwyn gwneud yn siŵr bod neb yn cael ei frifo ac er mwyn iddo allu gweld a siarad â nhw i gyd.
Er mwyn helpu datrys y broblem mae Iesu’n galw deuddeg o’i ddilynwyr ato. Mae’n dewis y criw bach yma o ddynion er mwyn iddyn nhw dreulio amser yn dysgu ganddo fe, ac yna mynd allan a chyrraedd cymaint o bobl oedd yn bosibl gyda’r newyddion da. Mewn man arall mae’r dynion yma yn cael eu galw’n apostolion, sy’n golygu eu bod nhw wedi cael eu hanfon.
Trwy wneud hyn roedd Iesu’n gwneud yn siŵr fod mwy o bobl nag o’r blaen yn mynd i glywed y neges a chael eu helpu. Ond mae yn amlwg fod yr apostolion i gyd yn wahanol i’w gilydd. Roedd gan rai ohonyn nhw lysenwau oedd yn dweud rhywbeth am eu cymeriad, ac mae’n siwr fod ganddyn nhw bob math o gefndiroedd gwahanol. Er hynny maen nhw i gyd yn cael eu galw i’r un gwaith, ac i ddefnyddio eu doniau a’u personoliaethau gwahanol i wasanaethu eraill.
Cwestiwn 3
Ym mha ffyrdd mae Duw wedi darparu ar gyfer eich anghenion chi yn y gorffennol?
Cwestiwn 4
Sut gallwch chi ddefnyddio eich personoliaeth a’ch doniau arbennig er mwyn cyrraedd eraill?
Gweddïwch
am hyder a chyfleoedd ddweud wrth bobl eraill am Iesu Grist a’i neges.