Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gwneud Marc 1 – Y Brenin

3 Ebrill 2020 | gan Emyr James | Marc 1

1 – Y Brenin

Marc 1:1-8

Dechrau Efengyl lesu Grist, Mab Duw. Fel y mae’n ysgrifenedig yn y proffwyd Eseia:

“Wele fi’n anfon fy nghennad o’th flaen i baratoi dy ffordd. Llais un yn galw yn yr anialwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch y llwybrau iddo’” –

ymddangosodd loan Fedyddiwr yn yr anialwch yn cyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau. Ac yr oedd holl wlad Jwdea, a holl drigolion Jerwsalem, yn mynd allan ato, ac yn cael eu bedyddio ganddo yn afon lorddonen, gan gyffesu eu pechodau. Yr oedd loan wedi ei wisgo mewn dillad o flew camel a gwregys o groen am ei ganol, a locustiaid a mel gwyllt oedd ei fwyd. A dyma’i genadwri: “Y mae un cryfach na mi yn dod ar f’ôl i. Nid ŵyf fi’n deilwng i blygu a datod carrai ei sandalau ef. Â dwr y bedyddiais i chwi, ond â’r Ysbryd Glân y bydd ef yn eich bedyddio.

Geiriau Anodd

  • Efengyl: Newyddion da.
  • Proffwyd: Person sy’n dod â neges oddi wrth Dduw.
  • Cennad: Person sy’n cyhoeddi neges.
  • Edifeirwch: Sylweddoli eich bod chi wedi gwneud pethau anghywir a throi i ffwrdd o’r hen ffordd o fyw.
  • Moddion: Cyfrwng.
  • Pechodau: Pethau rydym ni’n eu gwneud sydd yn erbyn cyfraith Duw.
  • Bedyddio: Seremoni lle mae rhywun yn cael ei drochi â dŵr.
  • Locustiaid: Math o bry, tebyg i geiliog y rhedyn.
  • Cenadwri: Neges neu gyhoeddiad.

Cwestiwn 1:

Pa fath o bethau sy’n dod i’ch meddwl wrth glywed y gair ‘Brenin’?

Cwestiwn 2:

Edrychwch ar y ffordd mae loan yn cael ei ddisgrifio. Pa fath o berson ydych chi’n meddwl oedd e?

Pan fydd pobl bwysig yn ymweld â dinas, dydych chi ddim yn disgwyl iddyn nhw droi Ian heb unrhyw rybudd. Dychmygwch petai eich arwr yn dod i’ch tŷ heb roi gwybod o flaen llaw – fyddech chi ddim yn barod ar ei gyfer.

Mae hyn yn arbennig o wir wrth sôn am frenin neu frenhines. Rydych chi’n disgwyl y bydd rhywun yn mynd o’u blaen, efallai yn chwarae offeryn neu yn gweiddi – fel bod pawb yn gwybod eu bod ar fin cyrraedd ac yn barod i’w croesawu.

Dyma’r union ffordd mae Marc yn dechrau ei lyfr o newyddion da fod lesu Grist, mab Duw, yn dod i’r byd. Roedd yr lsraeliaid, pobl Dduw, wedi bod yn aros ers amser hir am berson y byddai Duw’n ei anfon i’w hachub nhw. Yn awr, o’r diwedd, mae wedi cyrraedd. Fel unrhyw frenin, mae lesu yn anfon rhywun o’i flaen i baratoi’r ffordd. Dyna mae loan Fedyddiwr yn ei wneud. Mae’n galw ar bawb i sylweddoli eu bod wedi byw mewn ffordd sydd yn erbyn Duw ac i ddweud sori am hynny. Yna mae’n eu bedyddio fel arwydd eu bod wedi cael eu golchi’n Iân y tu mewn, fod Duw wedi maddau eu pechodau.

Ond dydy loan ddim yn edrych fel cennad arferol, nae ydi? Mae popeth amdano, hyd yn oed ei ddillad a’i fwyd, yn dangos ei fod wedi rhoi Ian popeth er mwyn gwasanaethu Duw. A rhag ofn fod pobl yn camddeall pwy yw e, mae’n dweud yn glir ei fod e yn paratoi’r ffordd ar gyfer rhywun llawer mwy arbennig nag ef, rhywun fyddai’n gallu gweithio ar galonnau pobl trwy’r Ysbryd Glân a newid eu bywydau yn llwyr. Pwy arall fyddai’n gallu gwneud hyn ond Brenin yr holl fyd?

Cwestiwn 3:

Wrth feddwl am y math o ddyn oedd loan, beth ydych chi’n meddwl mae hyn yn ei ddweud wrthym am y Brenin sydd ar fin dod?

Cwestiwn 4:

Petaech chi’n clywed bod eich arwr yn dod i’ch gweld, sut fyddai hynny’n gwneud ichi deimlo? Beth ddylai ein hymateb ni fod wrth feddwl fod lesu Grist, mab Duw, y Brenin mawr ar ei ffordd?

Gweddïwch

y bydd Duw yn dangos i chi bod angen dweud sori am eich pechod, a gofyn am help wrth geisio dilyn y Brenin.