Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 9 Ebrill 2020

9 Ebrill 2020 | gan Meirion Thomas | Salm 46

Ymlonyddwch, a deallwch mai myfi sydd Dduw.

Salm 46:10  

 

Roedd yn 46 munud wedi 5 fore Ionawr 17, 1995 yn Kobe, canolbarth Japan, pan ddigwyddodd daeargryn ofnadwy. Collwyd 4,600 o fywydau. Aeth Gweinidog eglwys arbennig i edrych am ei aelod hynaf – gwraig weddw oedd yn byw ar ei phen ei hun mewn fflat. Wedi llwyddo i wthio drwy’r rwbel gallodd fynd i mewn i ystafell trwy ddrws oedd yn hongian ar ei golfachau. Yno, yn eistedd ei hunan mewn ystafell yn llawn llwch ac wedi’i hamgylchu gan annibendod a llanast, eisteddai hen wraig, pictiwr o serenedd a llonyddwch. Yn gorwedd ar ei gliniau roedd Beibl agored gyda’i bys wedi’i osod yn sicr ar Salm 46, adnod 10.

Mae cael ein gwahodd i arafu ac i fod yn ymwybodol o’r sy’n wir am Dduw yn fendith ac yn fraint fawr. Mae’r Salm hon yn ein hannog i fod yn ymwybodol o’i Ddiogelwch, ei Ddarpariaeth, a’i Addewid.

Diogelwch Duw

Pryder yw cyd-destun y salm hon, y posibilrwydd o fynyddoedd yn disgyn i’r môr a pheri i’w ddyfroedd ymchwyddo. Cenhedloedd yn terfysgu, teyrnasoedd yn gwegian, rhyfeloedd a distryw. Mae popeth yn anhrefn, yn argyfyngus ac yn ddryslyd i gredinwyr. Ond mae Duw’n darparu Ei noddfa, amddiffynfa gref sydd bob amser ar gael. Cadarnle cynhaliaeth ysbrydol. Lloches ddiogel rhag holl stormydd bywyd. Yng Nghrist mae’n diogelwch y cael ei lawn sylweddoli oherwydd bod y noddfa a’r lloches wedi dod yn fwy hygyrch yn Iesu ein hymguddfan.

Ymdawelwch am foment i geisio amgyffred a gwerthfawrogi diogelwch Duw a’i fwynhau.

Darpariaeth Duw

O’r Creu i ddiwedd amser mae darpariaethau hael a charedig Duw yn niferus ac yn ddiderfyn. Yma’r brif ddarpariaeth ar gyfer y ddinas yw’r afon sy’n llifo drwyddi. Mae digonedd ei ffrydiau yn ennyn llawenydd. Preswylfa Duw yw’r ddinas. Mae’r afon sy’n llifo drwy’r ddinas yn cyhoeddi’n glir mai Duw ei hun yw ffynhonnell yr holl fendithion ac mae Ef, yn y pen draw, yw’r ddarpariaeth. Yn ei ras mae’n rhoi ei hunan i ni! Yn Iesu rydym yn cael presenoldeb Duw ynghyd â dŵr bywiol y bywyd tragwyddol. Ar adeg pan mae anhawster cael nwyddau, mynediad i ysbytai a banciau yn peri straen a phanig gadewch i ni fwynhau darpariaeth doreithiog Duw.

Addewid Duw

Er yn gwbl ddiffuant, mae ynghlwm wrth addewidion y Llywodraeth a’n haddewidion gorau ni derfynau a chyfyngiadau. Mae adnod 10 yn ein sicrhau bod cynllun sylfaenol a bwriad addawedig Duw yn ddigyfnewid ac yn ddiogel. Yng Nghrist mae ei dradyrchafiad ymysg y cenhedloedd wedi’i gyflawni eisoes. Mae Crist yn awr yn ddyrchafedig ac ar ddeheulaw’r mawrhydi goruchaf. Mae’r efengyl yn mynd allan i’r holl genhedloedd. Ond ni chaiff Crist ei lawn ddyrchafu ar y ddaear tan iddo ddod yr ail waith. Rydym yn byw gyda’n hyder yn y dydd hwnnw. Pan fo pob addewid arall yn methu ac yn peri siom mae “Byddaf” Duw yn ein calonogi a hyd yn oed yn ein cyffroi!

Pwy sy’n ddigon mawr i ddiogelu, darparu ac addo i’r fath raddau eithafol? Mae adnodau 7 & 11 yn rhoi ar ddeall i ni’n gwbl glir. Yr Arglwydd Hollalluog. Ni ddylem byth fod ag unrhyw amheuaeth ynglŷn â’i allu Ef i weithredu.

A ydw i’n deilwng o’i ddiogelwch, ei ddarpariaeth a’i addewid? Cymerwch gysur, Ef yw Duw Jacob, Jacob y celwyddgi, y twyllwr a’r disodlwr! Mae’r cwbwl o’i ras, ei drugaredd a’i gariad cyfamodol Ef.

Cymerwch foment i YMLONYDDU ac i sylweddoli pa mor Fawr, a pha mor Dda a Gogoneddus yw’n Duw ni.

Meirion Thomas, Malpas Road

Cyfiethwyd o’r Saesneg gan Kitty Jones.