Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 8 Ebrill 2020

8 Ebrill 2020 | gan Dewi Tudur | Marc 4

A’r diwrnod hwnnw, gyda’r nos, dywedodd wrthynt, “Awn drosodd i’r ochr draw.” A gadawsant y dyrfa, a mynd ag ef yn y cwch fel yr oedd; yr oedd cychod eraill hefyd gydag ef. Cododd tymestl fawr o wynt, ac yr oedd y tonnau’n ymdaflu i’r cwch, nes ei fod erbyn hyn yn llenwi. Yr oedd ef yn starn y cwch yn cysgu ar glustog. Deffroesant ef a dweud wrtho, “Athro, a wyt ti’n hidio dim ei bod ar ben arnom?” Ac fe ddeffrodd a cheryddu’r gwynt a dweud wrth y môr, “Bydd ddistaw! Bydd dawel!” Gostegodd y gwynt, a bu tawelwch mawr. A dywedodd wrthynt, “Pam y mae arnoch ofn? Sut yr ydych heb ffydd o hyd?” Daeth ofn dirfawr arnynt, a meddent wrth ei gilydd, “Pwy ynteu yw hwn? Y mae hyd yn oed y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo.”

Marc 4:35-41

“Ar fôr tymhestlog, teithio rwyf…”. Mae hi wedi dod yn un o’n hoff emynau yn yr argyfwng presennol. Mae’r argyfwng yma yn bendant yn gwneud i ni deimlo allan o’n dyfnder ac ar drugaredd rhyw storm erchyll yn sgubo dros y tir. Mae’n naturiol ein bod yn ofni, drosom ein hunain a thros anwyliaid a’r dyfodol.

Dyna’r math o ofnau oedd yn llenwi meddwl a chalon y disgyblion yn ein hanes ni. Fel pysgotwyr fe fyddai rhai ohonynt wedi bod mewn stormydd o’r blaen ond mae’n rhaid bod hon yn storm anghyffredin o ffyrnig. Ac eto mae’r Arglwydd Iesu Grist yn cysgu! Mae ymateb y disgyblion yn ddealladwy, yn hollol naturiol ac eto’n anghywir. “Onid wyt ti’n poeni amdanom ni?” medda’n nhw gan eu bod yn gweld y peryg, ond mae eu nerfusrwydd yn deillio o’u hanwybodaeth a’u diffyg crebwyll ysbrydol. Am nad ydyn nhw’n deall y maen nhw’n ofni, ond mae tawelwch meddwl y Gwaredwr yn gorffwys ar Gynllun Duw gan ei fod yn gwybod nad trwy foddi y byddai farw. Tra’r oedden nhw yn y cwch hefo Iesu Grist, roedden nhw’n ddiogel.

Sylwch ar gwestiwn Iesu – “Pam y mae ofn arnoch” ac yna, “Sut rydych heb ffydd o hyd?” Dylai’r disgyblion fod wedi dangos ffydd gan eu bod gydag Iesu, ac mae yma wers bwysig i ni. Nid “shot in the dark” ydi ffydd y Cristion. Mae wedi ei seilio ar Iesu ac ar y ffeithiau am ei fywyd, ei farwolaeth a’i atgyfodiad.

Y peth mawr am yr hanes yma ydi ei fod yn ein dysgu am awdurdod Yr Arglwydd Iesu Grist dros fyd natur (y gwynt a’r glaw, hyd yn oed!) Does dim byd yn amhosib iddo, mae’n Dduw ac yn frenin ar bob dim.

Heddiw, oes gennych chi ffydd? Mae’n golygu credu, ymddiried, pwyso, trystio a gorffwys ar Iesu. Mae’n golygu edifarhau am ein pechod a’n balchder, a chredu. Mae mor rhwydd! Efallai dy fod yn darllen hwn a heb erioed roi dy ffydd yn Yr Arglwydd Iesu Grist. Gelli wneud hynny rŵan. Mae darpariaeth fawr Dduw yn ei lle, mae’r bwyd ar y bwrdd ac mae popeth yn barod. “Am hyn, bechadur, brysia, fel yr wyt!!” Hyd yn oed oes nad wyt yn teimlo fod gennyt ddigon o ffydd, tro at yr Arglwydd Iesu Grist a gofyn iddo am ffydd. Rhodd yw fydd, wedi’r cwbl.

Sylwch sut mae’r hanes yn gorffen. Mae’r disgyblion yn ofni eto, ond mae hwn yn ofn gwahanol – “In awe” fyddai’r ymadrodd Saesneg. Maent bellach wedi deall rhywbeth am fawredd a gallu’r person sydd hefo nhw yn y cwch. Boed i ninnau, drwy ffydd, ddysgu’r un wers. Hwn yw Crist, mab y Duw byw, hwn yw brenin brenhinoedd a’r un y mae pob awdurdod a gallu yn ei law. Hwn yw ein Gwaredwr a’n Harglwydd, yr un fu farw trosom a’r hwn sy’n addo “Yr ydwyf fi gyda chi bob amser hyd ddiwedd y byd”.

Pob bendith heddiw. Cadwch yn ddiogel.

Dewi Tudur (Eglwys Efengylaidd Ardudwy)