Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 7 Ebrill 2020

7 Ebrill 2020 | gan David Norbury | Diarhebion 4

Doethineb yw’r pennaf peth; cais ddoethineb; â’r cyfan sydd gennyt, cais ddeall.

Meddwl yn uchel ohoni, ac fe’th ddyrchefir ganddi; fe’th anrhydedda, os cofleidi hi.

Diarhebion 4:7-8

Rydym yn byw trwy gyfnod rhyfedd iawn. Nid nepell oddi wrth bob un ohonom, mewn ysbytai ar hyd ac ar led y wlad mae brwydrau ffyrnig yn mynd ymlaen am fywydau pobl. Dylem ni weddïo dros bawb sy’n rhan o’r brwydrau hynny, y cleifion a’r gweithwyr iechyd fel ei gilydd. Eto mae cynifer ohonom gartref, yn byw bywyd mwy hamddenol nag arfer.  Beth rydych chi am ei wneud â’r amser arbennig hwn mae’r Arglwydd wedi ei roi i chi?

Mae’r adnodau hyn yn ein hatgoffa bod ein Duw ni yn ein gwahodd i “geisio gwybodaeth” ac i “geisio deall”. Mae’n wahoddiad diaddurn iawn. Tybed a yw’r Arglwydd am i ni dyfu’n ddoethach yn y cyfnod hwn? Yn graffach, yn fwy gofalus, yn gallach, yn fwy medrus a galluog, yn fwy sylwgar a threiddgar, a chymaint mwy.

Yn yr Hen Destament defnyddir y gair am ddoethineb 145 o weithiau a’r gair am ddeall 38 o weithiau. Rhaid eu bod yn eiriau pwysig os yw Duw yn eu defnyddio cynifer o weithiau. Pan fo amser gwerthfawr gan gynifer ohonom, dylai doethineb a deall fod ar ben ein rhestr dymuniadau!

Ond sut mae cael gafael ar y doethineb a’r deall sydd mor werthfawr?

Yn Llyfr y Diarhebion Pennod 2 adnodau 3-6 darllenwn:

Os gelwi am ddeall, a chodi dy lais am wybodaeth, a chwilio amdani fel am arian, a chloddio amdani fel am drysor -yna cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, a chael gwybodaeth o Dduw. Oherwydd yr ARGLWYDD sy’n rhoi doethineb, ac o’i enau ef y daw gwybodaeth a deall.

Dyma fan cychwyn da iawn. Rhaid i ni alw ar yr Arglwydd am ddoethineb a chwilio amdano fel pe baem yn chwilio am drysor neu allwedd neu gyfrinair coll – mae ein hangen amdani’n ddirfawr. Rhaid i ni hefyd drysori doethineb a’i ddal yn dynn yn ein calonnau a gwneud hynny’n nod – “er y gall gostio’r cwbl sydd gennyt”.

Nid yn unig mae’r adnodau hyn yn dweud wrthym sut i fod yn ddoeth, ond maen nhw hefyd yn rhoi addewid bendigedig gan ein Duw caredig. Bydd yn rhoi doethineb a deall i ni, wrth i ni chwilio amdanynt! Gadewch i ni felly ddefnyddio’r amser hwn yn ddoeth a cheisio’r Arglwydd. Nid oes dim byd mwy gwerthfawr, oherwydd bydd y doethineb hwn yn eich arwain at ein Harglwydd Iesu Grist – ymgorfforiad o ddoethineb.

 David Norbury