O’r cyff a adewir i Jesse fe ddaw blaguryn, ac fe dyf cangen o’i wraidd ef
Eseia 11:1
Daw’r defosiwn isod allan o lyfr John a Mari Jones Daw’r Wennol yn ôl a gyhoeddwyd gan y Mudiad nifer o flynyddoedd yn ôl.
Y Griafolen
Sawl blwyddyn yn ôl erbyn hyn, llifiwyd pinwydden braf i lawr ar y fferm yma, gan adael rhyw ddwy lath o foncyff yn codi o’r ddaear. Penderfynodd rhyw aderyn ddefnyddio’r boncyff yn fwrdd bwyd. Aeron criafol a ddigwyddai fod ar ei fwydlen y tro hwnnw a mwynhaodd ei bryd bwyd yn ddiamau. Gadawodd gerrig yr aeron ar ôl yno.
Mae’n debyg iddo hefyd, cyn gadael y fan, wneud defnydd arall o’r lle! Amgylchynid y cerrig aeron felly â gwrtaith, a dyna symbyliad naturiol iddynt ddechrau gwreiddio a thyfu. Casglodd tipyn o bridd yno o rywle gan gymysgu â malurion y boncyff, a rhwng y cyfan daeth yn wely eithaf derbyniol i aeron y griafolen ddechrau tyfu.
Cafodd amgylchiadau ffafriol yno, ac yng nghwrs y blynyddoedd tyfodd yn goeden gref a hardd. Tyfodd yn goeden gadarn hefyd, a’i gwreiddiau yn ymestyn i lawr drwy’r hen dyfiant i’r ddaear.
O’i gweled yno, mae’n ein hatgoffa am eiriau Eseia: ‘O’r cyff a adewir i Jesse fe ddaw blaguryn, ac fe dyf cangen o’i wraidd ef’ (Eseia 11:1). Iesu Grist, y Meseia, oedd gan y proffwyd yn ei feddwl; ef a fyddai’ r ‘blaguryn’ a’r ‘cangen’, gan ei fod o’r un hiliogaeth a Dafydd Frenin, mab Jesse.
Pan ddaw Medi, ac aeron y griafolen wedi ymddangos, mor hardd yw eu coch disglair y pryd hwnnw. A chawn ein hatgoffa o ddarlun arall o’r Meseia a geir gan y proffwyd Eseia, y darlun o’r ‘Gwas dioddefus’ a dywalltodd ei waed ac a roes ei fywyd trosom ar y groes (Eseia 53).
I’r hwn sydd yn ein caru ni ac a’n rhyddhaodd ni oddi wrth ein pechodau â’i waed . . . iddo ef y bo’r gogoniant a’r gallu byth bythoedd! Amen. Datguddiad 1:5-6