Ond prawf Duw o’r cariad sydd ganddo tuag atom ni yw bod Crist wedi marw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid.
Rhufeiniaid 5:8
Hoffwn i rannu rhywbeth gyda chi heddiw gan awdur o’r enw Henry Durbanville a ysgrifennodd lyfryn bychan o’r enw: “The best is yet to be.”
Wrth ffrind claf, oedd yn grediniwr ac eto’n nerfus ac yn ansicr, ac a oedd yn gresynu bod ei gariad at Dduw mor wan, dywedodd gweinidog doeth yr Efengyl un tro; “Pan fyddaf yn eich gadael byddaf yn mynd adre i’m tŷ fy hun, ac ar ôl i mi gyrraedd y tŷ y peth cyntaf byddaf yn ei wneud fwy na thebyg fydd galw am faban sydd yn y tŷ. Byddaf yn ei gosod ar fy nglin, yn edrych i fyw ei llygaid annwyl, ac yn gwrando ar ei chlebran swynol; ac er fy mod i’n flinedig, bydd ei phresenoldeb yn rhoi gorffwys i mi; oherwydd rwy’n caru’r plentyn hwnnw o waelod calon. Ond y ffaith ydy nad yw hi ddim yn fy ngharu i; neu o leiaf, ychydig iawn mae’n fy ngharu i. Pe bai fy nghalon yn torri o dan faich gofid llym ni fyddai’n tarfu ar ei chwsg. Pe bai poenau erchyll yn fy nghorff ni fyddai’n torri ar ei thraws wrth iddi chwarae gyda’i theganau. Pe bawn i’n marw byddai’n cael difyrrwch o edrych ar fy wyneb gwelw a’m llygaid caeedig. Ar ben hynny, nid yw erioed wedi ennill yr un ddimai goch i mi, ond mae wedi bod yn draul gyson arnaf byth ers iddi gael ei geni. Eto, er nad wyf yn gyfoethog o ran eiddo’r byd hwn, nid oes digon o arian yn y byd i gyd i brynu fy mabi i. Sut hynny? Ydy hi’n fy ngharu i neu ydw i’n ei charu hi? Ydw i’n dal fy nghariad yn ôl hyd nes i mi wybod ei bod yn fy ngharu i? Ydw i’n disgwyl iddi hi wneud rhywbeth i haeddu fy nghariad cyn ei roi iddi?’
‘O rwy’n deall rŵan’ meddai’r dyn claf, a’r dagrau’n llifo i lawr ei ruddiau; ‘Rwy’n gweld yn eglur. Dylwn i fod yn meddwl, nid am fy nghariad i at Dduw, ond am Ei gariad ataf i, ac mi ydw i’n ei garu, bendigedig fyddo ei enw’.
“Sylwch yn ofalus gyfeillion, er bod Ioan yn caru’r Arglwydd Iesu’n fawr, nad yw byth yn son amdano ei hun fel ‘y disgybl oedd yn caru Iesu’. Ond yn ei efengyl mae pum cyfeiriad ato fel ‘y disgybl yr oedd Iesu’n ei garu.’ (Ioan 13:23; 19:26; 20:2; 21:7 21:20)”
Yr un Apostol Ioan a ysgrifennodd: Yn hyn y mae cariad: nid ein bod ni’n caru Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni, ac wedi anfon ei Fab i fod yn aberth cymod dros ein pechodau. Gyfeillion annwyl, os yw Duw wedi ein caru ni fel hyn, fe ddylem ninnau hefyd garu ein gilydd. (1 Ioan 4:10-11)
Bill Hughes (Christ Church Deeside)