Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 30 Ebrill 2020

30 Ebrill 2020 | gan Meirion Thomas | Salm 47

Curwch ddwylo, yr holl bobloedd! Gwaeddwch yn llawen wrth addoli Duw!

Salm 47:1

 

Erbyn hyn rwy’n siŵr fod llawer ohonon ni’n dechrau dod i arfer â gwneud rhywbeth arbennig am wyth o’r gloch ar nos Iau. Fel eraill ar draws y wlad rydyn ni’n ymuno gyda’n cymdogion i guro dwylo, i ddangos ein cymeradwyaeth i staff, gofalwyr a gweithwyr eraill y Gwasanaeth Iechyd sy’n gofalu amdanom a darparu ar ein cyfer yn y dyddiau anodd hyn. Curo dwylo yw’n ffordd ni o fynegi’n diolchgarwch a’n gwerthfawrogiad o’r modd mae’r gweithwyr iechyd a’r gwirfoddolwyr anhunanol ac aberthol hyn yn edrych ar ein hôl ni a’n hanwyliaid. Fel arfer, mewn cyngherddau, meysydd chwarae ac ati y byddwn ni’n curo dwylo, ond yr un yw’n dymuniad – mynegi’n gwerthfawrogiad a’n boddhad.

Yn adnod gyntaf Salm 47 mae’r holl bobloedd yn cael eu hannog i guro dwylo a gweiddi’n orfoleddus gerbron Duw. Gall hyn swnio’n rhyfedd i lawer ohonom. Pam gwneud hynny? Pa reswm sydd dros y fath ffrwydrad o guro dwylo a gweiddi? Yng ngweddill y Salm mae’r salmydd yn rhestru nifer o resymau dros ei anogaeth. “Oherwydd y mae’r Arglwydd, y Goruchaf, yn ofnadwy, yn frenin mawr dros yr holl ddaear. Canwch fawl i Dduw, canwch fawl. Y mae Duw yn frenin ar yr holl ddaear, canwch fawl yn ddeallus. Y mae Duw yn frenin ar y cenhedloedd, y mae’n eistedd ar ei orsedd sanctaidd.”

Mae’r rhesymau i gyd yn troi o gwmpas un gwirionedd hollbwysig – brenhiniaeth sofran Duw. Y rheswm canolog yw ei fod Ef yn teyrnasu ac yn rheoli. Mewn byd ansicr, ansefydlog sy’n newid yn barhaus mae Duw ar ei orsedd. Mae pob peth dan ei reolaeth. Mae realiti ei berson yng nghanol y bydysawd yn sefydlogi popeth. Mae weithiau’n anodd credu hyn pan welwn anhrefn, anawsterau a hyd yn oed farwolaeth o’n cwmpas ymhobman. Ond meddyliwch am y posibilrwydd arall – siawns, ffawd, digwyddiadau damweiniol! Neu’n waeth fyth dim pwrpas na phatrwm i ddim, a NI’n rheoli. NI’n feistri’n ffawd; FI’n gapten fy nhynged! Mae’r salm hon yn cynnig i ni ddiogelwch, bodlonrwydd a sefydlogrwydd brenhiniaeth Duw.

Mae hefyd yn gobeithio am, ac yn rhagweld, rheolaeth Duw dros yr holl fyd a’r bydysawd. Mae dyfodiad Duw fel brenin ym mherson Iesu yn uchafbwynt. Cyhoeddodd Ef yn eglur “Mae Teyrnas Nefoedd yn agos.” Ond doedd Iesu ddim y math o frenin roedd y bobl yn ei ddisgwyl. Wedi’i eni mewn tlodi, treuliodd flynyddoedd yn gweithio fel saer di-nod. Ond trwy ei weinidogaeth a’i wyrthiau sefydlodd deyrnas o gariad, tangnefedd, cyfiawnder, maddeuant a gras. Coron o ddrain oedd ei goron Ef. Croes greulon oedd ei orseddfainc. Hoelion wedi’u pwyo trwy gnawd ac esgyrn ei ddwylo oedd ei deyrnwialen. Ond yn y farwolaeth honno – y farwolaeth a haeddem ni – concrodd angau ei hun. Cododd yn fuddugoliaethus o’r bedd. Mae’n fyw! Cyhoeddwyd Ef yn Frenin Brenhinoedd. Mae’n awr yn teyrnasu mewn mawrhydi, gogoniant ac anrhydedd, yn ein cynnal a gofalu amdanom, ac un dydd bydd yn ein dwyn adre i’r nefoedd i deyrnasu gydag Ef!

Felly, mae llawer i guro dwylo a gweiddi’n orfoleddus amdano yn y salm. Ei gydnabod a’i dderbyn Ef fel Brenin yw llawenydd y crediniwr. Mae ymddiried yn ei frenhiniaeth a’i reolaeth yn dod â chysur, sicrwydd a hyd yn oed hyder i mi. Hyder nid ynof fi fy hun nac yn fy amgylchiadau ond hyder yn Iesu fel fy Mrenin. Mae hefyd yn dod â gobaith wrth i ni weddïo “Deled dy deyrnas”. Mae’r dydd y bydd y gwir Frenin yn dychwelyd yn araf, ond yn sicr, ddod yn nes. Bryd hynny byddwn yn mwynhau presenoldeb y Brenin tragwyddol a’i deyrnas yn oes oesoedd. Felly, mewn cyfnod o ansicrwydd, tristwch a dryswch, gadewch i ni barhau i guro dwylo mewn gwerthfawrogiad o weithwyr diflino’r Gwasanaeth Iechyd. Ond a fyddwch chi’n curo dwylo a gweiddi’n orfoleddus wrth i chi gydnabod, gwerthfawrogi a bod yn ddiolchgar am Iesu ein Brenin? Mwynhewch ei gwmni brenhinol Heddiw!

Meirion Thomas, Malpas Road