Felly, gadewch i ni nesáu mewn hyder at orsedd gras, er mwyn derbyn trugaredd a chael gras yn gymorth yn ei bryd.
Hebreaid 4:16
Mae’r adnod yma, fel llu o rai eraill yn y Beibl yn ein gwahodd i weddïo.
“Beth arall wnawn ni?” medde ni! Mae’r holl sefyllfa hefo’r firws yn ein gwneud i deimlo mor analluog i wneud dim, a’n bod ar drugaredd rhyw anghenfil anweledig sy’n taenu ei wenwyn dros y tir. Mae gweddi yn bwysig a does dim byd pwysicach na’n bod yn dod a’r holl sefyllfa at Orsedd Gras ac at Dduw sy’n Hollalluog. Efallai nad oes fawr o rym yn ein gweddi ond mae yna rym gan yr Un yr ydym yn gweddïo arno.
Cyn yr adnod sydd o dan ein sylw heddiw mae’r awdur wedi bod yn sôn am yr Arglwydd Iesu Grist fel ein Harchoffeiriad. Yr archoffeiriad oedd yn cynrychioli’r bobol yn yr Hen Destament ac yn mynd ag aberth ar ran y bobol at Dduw. Mae’r Arglwydd Iesu Grist yntau wedi rhoi aberth, nid anifail ond ei waed ei hun, trosom.
Sylwch felly fel y mae’r adnod hon yn dilyn yn rhesymegol – “Felly” – ar sail hynny ac oherwydd hynny, awn yn hyderus at Dduw. Nid oherwydd ein bod yn haeddu, ond ar sail aberth Iesu Grist ar y Groes yn marw drosom. Dyna pam fod y man lle rydym yn cyfarfod hefo Duw yn cael ei alw’n “Orsedd Gras”.
Ein cais cyntaf bob tro ddylai fod am drugaredd. Dyma’r drefn bob amser yn y Beibl. Mae’r pethau cyntaf i gael y lle blaenaf. A’r peth cyntaf ydi ein holl berthynas efo Duw. Sut mae pethau rhyngoch chi â Duw heddiw? Oes yna berthynas? Oes yna heddwch? Cofiwch fod Duw wedi trefnu ffordd i ni gael dod i berthynas ac i heddwch drwy Iesu. Trwy gredu nad oes gennym obaith yn ein nerth a’n daioni ein hunain a thrwy gyffesu ein pechod a’n methiant ac ymddiried yn syml yn Iesu, gallwn ddod at Dduw i dderbyn trugaredd. Dyma’r efengyl sy’n berthnasol i bob un.
Yr ail gais ydi am ras yn gymorth yn ei bryd. Help i fyw i Dduw. Nerth i beidio panicio ond yn hytrach i ymddiried yn Nuw. Mae’r geiriau yma wedi eu dyfynnu miloedd o weithiau yn y gorffennol gan saint oedd yn wynebu ar sefyllfaoedd enbyd. Mae’r un geiriau yn berthnasol i ni heddiw yn ein hamgylchiadau ni. Help, cymorth yn ei bryd! Yn ôl yr angen! Cofiwch fod yr union adnod o flaen hon yn ein sicrhau fod yr Arglwydd Iesu Grist yn cyd-ddioddef hefo. Nid Gwaredwr sy’n ddiystyr o’n hanghenion mohono ond Un yn wir sy’n rhoi pob cymorth yn ôl yr angen.
Mae yn ein gwahodd i weddïo ac mae’n bwriadu ateb. Nid yw’n rhoi carreg i’r rhai sy’n gofyn am fara. Efallai na fydd yn ateb yn yr union ffordd y bydden ni’n disgwyl ond mae’n addo na chawn ein siomi ac weithiau mae’n rhagori, hyd yn oed, ar ein deisyfiadau a rhoi mwy nag y bydden ni byth wedi ei ddychmygu. Duw fel’na ydi ein Duw ni. Pob bendith heddiw a chadwch yn ddiogel.
Dewi Tudur (Talsarnau)