Atebodd Ioan hwy: Yr wyf fi’n bedyddio a dŵr, ond y mae yn sefyll yn eich plith un nad ydych chi’n ei adnabod.
Ioan 1:26
Hoffwn ysgrifennu atoch bore ma am rywbeth ddaeth i fy meddwl yn ddiweddar wrth ddarllen yr adran am eiriau Ioan Fedyddiwr ynglŷn â’n Harglwydd, fel y gweler uchod.
Doedd y dynion roedd Ioan yn siarad gyda hwy ddim yn gwybod nac yn ymwybodol bod Iesu yn eu plith ac mae felly o hyd. Mae ‘na filiynau o bobl sydd ddim yn gwybod bod Crist yn eu plith er y gellir ei weld yn glir o gael llygaid i’w weld.
Amlygir Ei bresenoldeb, Ei rym a’i ddylanwad yn holl ryfeddodau’r cread, a gellir olrhain Ei ragluniaeth drwy bob cyfnod mewn hanes. Er hynny mae miliynau’n gweld y pethau hyn ond heb ddeall pwy sy’n gyfrifol am y cyfan. “Y mae yn sefyll yn eich plith un nad ydych yn ei adnabod.” Mae o yno, ond naill ai ni chaiff ei adnabod neu caiff ei ddiystyru a’i anwybyddu.
Yn ystod y pandemig rydym i gyd wedi’n symud o glywed fel y mae miloedd o bobl yn barod i beryglu eu bywydau eu hunain er mwyn arbed eraill rhag dioddef effeithiau ofnadwy’r feirws hwn. Gwelwn feddygon a nyrsys yn arbennig yn ceisio’n daer i achub bywydau pobl. Mae nhw’n gwneud hyn nid yn unig yn achos y bobl dda a theilwng ond hefyd gyda’r gwaethaf yn ein cymdeithas. Maent yn eu gweld fel bodau dynol sydd angen cymorth ac maent yn barod i aberthu cymaint er mwyn eu hamddiffyn a’u cadw’n fyw. Mae hyn wedi digwydd ar draws y canrifoedd wrth i rai o aelodau gorau a mwyaf gwael ein cymdeithas dderbyn cymorth gan eraill sy’n rhoi eu bywydau eu hunain yn y fantol i’w trin. Mae llawer wedi marw hyd yn oed wrth wneud hynny. Pam bod hyn yn digwydd? Beth sy’n pery i rywun geisio achub person arall, boed yn dda neu’n ddrwg, a’i chipio’n ôl o afael dioddefaint a marwolaeth? Beth sy’n ysgogi’r fath garedigrwydd a pharodrwydd?
Nid oes gan esblygiad, nac anffyddiaeth yr ateb ac mae’n drist nodi nad oes ateb gan lawer o grefyddau chwaith. Ceir yr ateb yn nysgeidiaeth y Beibl ynglŷn â natur dyn wedi’r cwymp. Rydym i gyd wedi’n creu gyda delw Duw yn ein natur, ac er bod pechod wedi effeithio ar bob rhan o’n bod erys elfennau o ddaioni a charedigrwydd yng ngwead pob un ohonom. Yn aml byddwn yn cyfeirio at hyn fel ‘gras cyffredinol.’ Duw. Yn Ei ras a’i garedigrwydd, mae Duw wedi gosod yr ymdeimlad yma o foesoldeb ac o beth sy’n gywir ac yn anghywir, ynghyd a’n cydwybod o’n mewn. Serch hynny faint o’r bobl garedig, gofalus a hyd yn oed arwrol hynny nac ychwaith o’r rhai sy’n derbyn cymorth ac sydd mor fawr eu hedmygedd ohonynt, sy’n ymwybodol o’r ffaith fod yr awydd i ofalu ac i dosturio’n deillio o’r natur sy’n rhodd gan Dduw? Mae Un yn sefyll yn eu plith nad ydynt yn ei adnabod. Nid ydynt yn sylweddoli chwaith na all eu gweithredoedd da, pa mor glodwiw bynnag y bont, fyth ddod ac iachawdwriaeth iddynt o rym a chanlyniadau tragwyddol bechod. Mae’n rhaid wrth Yr Arglwydd Iesu Grist a’i waith gorffenedig. “Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw; nid yw’n dibynnu ar weithredodd, ac felly ni all neb ymffrostio” (Effesiaid 2:8). Mae gair Duw’n ein dysgu hefyd “Go brin y bydd neb yn marw dros un cyfiawn. Efallai y ceir rhywun yn ddigon dewr i farw dros un da. Ond prawf Duw o’r cariad sydd ganddo tuag atom ni yw bod Crist wedi marw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid.” (Rhufeiniaid 5:7-8)
Daeth Yr Arglwydd Iesu i’r byd yma i geisio ac i gadw’r hyn oedd ar goll ac, er iddo esgyn i’r nef, mae’n bresennol o hyd drwy ei Ysbryd.
Mae ei Ysbryd ar waith bob dydd ac yn enwedig wrth i ni addoli ac eistedd o dan weinidogaeth Gair Duw. Yn ystod yr addoliad gall pobl Dduw gael eu cyfareddu wrth glywed Duw’n siarad gyda nhw tra ar yr un pryd mae eraill yn eistedd o dan yr un weinidogaeth mewn diflastod llwyr. “Y mae yn sefyll yn eich plith un nad ydych yn ei adnabod.”
Gyda thristwch rhaid dweud bod miliynau o hyd yn ein byd y gellir dweud amdanynt: ’Y mae yn sefyll yn eich plith un nad ydych yn ei adnabod.”
Ond gallwn ni ei adnabod, drwy ei weld fel y’i ceir yn yr Ysgrythur – yn yr hon mae Duw’n datgan y bydd yn achub pob un sy’n troi ato mewn edifeirwch a ffydd.
Mi glywaf dyner lais
Yn galw arnaf fi
I ddod a golchi ‘meiau i gyd
Yn afon Calfari.
‘Rwy’n dod yn sŵn y llais –
Hyfrytaf lais y nef,
I fynydd Duw, at wleddoedd rhad
Ei ras a’i gariad Ef.
“Yn hyn y mae cariad: nid ein bod ni’n caru Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni, ac wedi anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau.” (1 Ioan 4:10)
“Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion…” (Ioan 15:13)
Bill Hughes