Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 27 Ebrill 2020

27 Ebrill 2020 | gan Bill Hughes | Eseia 30

“Am hynny y disgwyl yr Arglwydd i drugarhau wrthych.”

Eseia 30:18

Hoffwn rannu rhywbeth y dois ar ei draws yn ddiweddar gyda chi wrth ddarllen pregeth gan G. H. Morrison ‘Morrison of Glasgow’ (1866-1928) o Eglwys Wellington, Glasgow – mae i’w gael yn y bregeth sy’n dwyn y teitl ‘A Doctrine of Delays’ yn nameg y weddw daer yn Luc 18.

Wrth gloi hoffwn ddweud wrthych: peidiwch â cholli calon gan fod Duw yn oedi.. mae mwy o gariad Duw ar waith yn ei weithredu araf nag y tybiwch. Yr wythnos o’r blaen roeddwn yn aros gyda ffrindiau yn Iwerddon, pan ddaeth y newydd fod rhywun wedi torri i mewn i leoliad busnes fy nghyfaill. Roedd hi’n wyliau ac roedd i ffwrdd yn Galway, ac nid oedd i ddychwelyd gartref tan yr hwyr. Wel, fe gyrhaeddodd adre, yn flinedig iawn ac eisiau bwyd a byddai gwraig ffôl wedi rhuthro allan ato i rannu’r newyddion gydag ef, ond doedd ei wraig ddim yn ffôl, ond yn hytrach yn Albanes ac yn gall, a gadawodd iddo ymolchi, bwyta a gorffwys; yna pan oedd mewn cyflwr i ymateb yn briodol torrodd y newyddion iddo, a gwelais bod cariad yn yr oedi.….bydd y rhai ohonoch sy’n famau sy’n gwrando arnaf, wrth edrych nôl ar y blynyddoedd melys rheini pan oedd eich plant diniwed yn chwarae wrth eich traed, yn cofio’r adegau pan y bu i chi oedi rhannu rhyw newyddion gwych gyda’ch plant? “Os dywedaf wrthynt heno chan nhw ddim winc o gwsg; os ddywedaf wrthynt ben bore byddan nhw ddim yn bwyta’u brecwast”; ac felly wnaethoch chi ddal y fendith yn ôl, a gwneud hynny yn syml am eich bod yn eu caru cymaint. Os byddwch chithau a chithau’n ddrwg yn ymddwyn fel hyn, ai anodd yw credu bod Duw’n gwneud yr un peth? Ai teg yw amau ein Tad, ddweud nad oes tosturi ganddo, i dybio bod y nefoedd fel pres? Tybiaf mai doethach fyddai dal ati i weddïo a bwrw ein holl amheuon yn ôl i’r diafol, tad celwyddau; gan bwyso ar y cariad sydd byth yn ein gwatwar a chredu y bydd Duw yn rhoi i ni ddymuniad ein calonnau yn ei amser ei hun.

Bu’r geiriau hyn yn gymorth i mi a’m gobaith y byddant felly i chithau hefyd.

Bill Hughes