Felly y mae fy ngair sy’n dod o’m genau; ni ddychwel ataf yn ofer, ond fe wna’r hyn a ddymunaf, a llwyddo â’m neges.
Eseia 55:11
Daw’r defosiwn isod allan o lyfr Mari Jones Daw’r Wennol yn ôl a gyhoeddwyd gan y Mudiad nifer o flynyddoedd yn ôl.
Y Boncyn Banadl
Prin y gwelid synnwyr mewn galw y boncyn sydd rhyngom a phentref Llanymawddwy yn Foncyn Banadl. Bu’n llawn unwaith o goed pinwydd preiffion ac amrywiol goed bytholwyrdd. Dyna oedd yno o fewn cof, a fawr ddim tyfiant oddi tanynt ond trwch o eiddew daear yn garped gwyrdd. Pam felly ei alw’n Foncyn Banadl?
Pan oeddynt oddeutu deg a thrigain mlwydd oed, cwympwyd y coed. Fe’u llusgwyd blith draphlith i bwll llif i’w llifio’n ddefnyddiau, a llosgwyd y canghennau. Canlyniad yr holl weithgarwch yma oedd i’r ddaear gael ei rhwygo a’i malurio.
Yr adeg honno nid oedd raid plannu coed newydd wedi cwympo’r hen, a gadawyd y llecyn i siawns natur ofalu am y tyfiant nesaf. Er rhyfeddod i bawb, ymhen amser gorchuddiwyd y lle gan lwyni melyn o fanadl. Rhaid fod hadau’r banadl ynghwsg yno yr holl flynyddoedd hynny, yn disgwyl amodau ffafriol i ddeffro a thyfu.
Pan laciwyd y tir a rhoi cyfle i’ r haul gynhesu a goleuo eu hamgylchedd, daeth bywyd i’r hadau. Buont yn disgwyl yn amyneddgar am y cyfle hwn dros y blynyddoedd. Ni allai’r hadau wneud dim ohonynt eu hunain, heb ddylanwadau oddi allan iddynt. Ond o’r diwedd, gwireddwyd unwaith eto y rheswm dros alw’r fan yn Foncyn Banadl. Fe’i hadferwyd i’r hyn a fu.
Ond ni chafwyd mwynhau’r fantell felen yn hir. Gwthiodd math arall o dyfiant i’r golau, gan ddisodli a thagu ‘r tyfiant melyn. Roedd hwn yn dyfiant arafach ond cryfach na’r banadl, ac yn raddol diflannodd ystyr enw’r boncyn unwaith eto. Gorchuddir y lle erbyn hyn â choed helyg, a’r fedwen arian yn lluosog yn eu plith.
Dirgelwch arall yw o ble y daeth yr hadau hyn? Ai dod yno a wnaethant, neu a oeddynt hwy hefyd ynghudd yno, yn disgwyl fel y banadl am amodau tyfiant ffafriol, ond eu bod yn cymryd mwy o amser am eu bod yn gryfach tyfiant? Sut bynnag, yno y maent yn brawf o ddeddf natur yn ei hailddangos ei hun.
Disgwyl amodau tyfiant ffafriol y mae hadau’r efengyl hithau, a heuwyd yn weddigar mewn calonnau dros y blynyddoedd. Yr Ysbryd Glân yn unig a all oleuo a chynhesu a bywhau. Mor bwysig ydyw i ni barhau yn daer mewn gweddi ac yn ffyddlon yn ein tystiolaeth, er mwyn i’r tir gael ei baratoi a’i lacio. Fel y dywed John Hughes (‘Glanystwyth’):
Ysbryd y Gwirionedd, tyred
Yn dy nerthol ddwyfol ddawn;
Mwyda’r ddaear sech a chaled,
A bywha yr egin grawn:
Rho i Seion
Eto wanwyn siriol iawn.