Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 25 Ebrill 2020

25 Ebrill 2020 | gan Dafydd Job | Effesiaid 3

Boed i chwi, sydd â chariad yn wreiddyn a sylfaen eich bywyd, gael eich galluogi i amgyffred ynghyd â’r holl saint beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist, a gwybod am y cariad hwnnw, er ei fod uwchlaw gwybodaeth.

Effesiaid 3:18-19

 

Ydech chi wedi cael trafferth cael gafael ar rywbeth o’r siop yn ystod y cyfnod hwn o lockdown? Pan ddaeth sôn y byddem yn gorfod aros gartref i ddechrau fe frysiodd amryw allan i ddiogelu cyflenwad digonol ganddyn nhw o bethau i bara wythnosau. Aeth cymaint o bethau, o basta a reis i bapur tŷ bach yn anodd i’w cael. Mae prinder yn gallu chwarae ar feddyliau pobl – a rhag ofn, rhaid llenwi’r cypyrddau’n ddigonol.

Y flwyddyn wedi’r Chwyldro Melfed yn Tsiecoslofacia fe ddaeth cyfeillion oddi yno atom ni i gael gwyliau. Gweinidog oedd Pavel, ac yntau a’i wraig Vĕra wedi wynebu pwysau difrifol yn ystod cyfnod y Comiwnyddion.  Roeddem wedi cael lle iddyn nhw aros am bythefnos mewn tŷ oedd yn digwydd bod yn rhydd, a hwythau felly yn gallu ymlacio a gorffwys heb bryder.

Wedi iddyn nhw gyrraedd gofynnodd Vĕra i Gwenan, os byddai’n mynd â hi i nôl ychydig o siopa – dim ond rhyw dorth o fara, a chwpl o bethau eraill. Fydden nhw ddim yn hir. Dros awr yn ddiweddarach, gan nad oedd golwg o’r ddwy dechreuodd Pavel a minnau feddwl ble oedden nhw wedi mynd. Pan ddaru nhw yn y pen draw ddod yn ôl cawsom wybod y rheswm am yr oedi.

Roedden nhw wedi mynd i’r archfarchnad leol – a Vĕra wedi arfer gyda phrinder nwyddau o dan y Comiwnyddion. Roedd hi wedi rhyfeddu at yr amrywiaeth mawr o fwydydd yma – roedd gwahanol fathau o fara, dewis o gawsiau, menyn, cigoedd, jamiau – ‘doedd hi erioed wedi gweld y fath gyfoeth o fwydydd. Roedd y rhewgelloedd yn llawn o wahanol brydau, y silffoedd yn llawn o fwydydd, y llysiau i gyd yn edrych yn lân a ffres. Roedd wedi ei chyfareddu – ac fe ddysgon ni – pan oedd Vĕra yn siopa, roedd am weld pob dim oedd yno. Doedd dim perygl o fod yn brin o unrhyw beth.

Mewn prinder mae pobl weithiau yn amau tybed ydi Duw wedi ein anghofio? Ydi o’n brin o fendithion ar ein cyfer. Ydi ei gariad yn gallu cyrraedd ein sefyllfa ni, neu ein bywyd ni?

Ysgrifennodd Paul am ei ddymuniad i Gristnogion Effesus weld a deall nad oes prinder yng nghariad Duw. Mae’n dweud iddo weddïo y byddent yn dod i amgyffred beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist, a gwybod am y cariad hwnnw, er ei fod uwchlaw gwybodaeth.  Tydi silffoedd Duw byth yn brin o’i gariad. Gewch chi byth eich siomi ynddo neu gredu ei fod yn cadw pethau da rhagoch.

Mae Paul mewn man arall yn dweud Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll. Ac os rhoddodd ei Fab, sut y gall beidio â rhoi pob peth i ni gydag ef? (Rhufeiniaid 8:32)

Ple gwelir cariad fel
  Ei ryfedd gariad Ef?
Ple bu cyffelyb iddo ‘rioed?
  Rhyfeddod nef y nef!
Fe’n carodd cyn ein bod,
  A’i briod Fab a roes,
Yn ôl amodau hen y llw,
  I farw ar y groes.

 

Mae hynny’n golygu os ydi o’n cadw rhywbeth oddi wrthym ni, rhywbeth ryden ni’n tybied ryden ni angen, mae o’n gwneud hynny er ein lles ni. Os ydi’n rhyddid ni rŵan wedi ei gadw oddi wrthym, tybed ydi hyn am ei fod am i ni gael amser i wrando ar ei lais yn galw arnom? Os yden ni ddim yn cael mynd allan i weld ein ffrindiau a’n teulu, tybed ydi o am ein bod wedi cymryd llawer yn ganiataol, a’i fod am i ni gofio mai meidrol ydym, mai dros dro ryden ni yma, a rhaid i ni feddwl am yr hyn sy’n barhaol? Oherwydd hanfod cariad ydi perthynas – perthynas lle mae cariad yn cael llifo o’r naill i’r llall – dyna mae Duw yn dyheu am gael ei weld ynom ni – ei gariad o yn llenwi ein bywydau ni, a ninnau’n ymateb mewn cariad iddo fo.

Mae i gariad Duw hyd, lled, uchder a dyfnder na allwn ei amgyffred yn llawn. Wrth groesi o Gaergybi i Ddulyn ar y fferi, rydw i bob amser yn edrych i lawr i’r môr – rydw i’n edrych i’r dyfnder ond welaf i mo’r gwaelod. Neithiwr roeddwn yn edrych i fyny ar y sêr – roeddwn yn edrych i’r uchelder, ond fedrwn i ddim gweld y pen draw.

Felly gallwn edrych i ddyfnder ac uchder cariad Duw yn Iesu Grist, ond welwn  ni mo’r gwaelod na’r pen draw. Nid oes prinder yng nghariad Duw.​

Dafydd Job, Capel y Ffynnon