Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 24 Ebrill 2020

24 Ebrill 2020 | gan Pete Campbell | Luc 4

Rhoddwyd iddo lyfr y proffwyd Eseia, ac agorodd y sgrôl a chael y man lle’r oedd yn ysgrifenedig: “Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf, oherwydd iddo f’eneinio i bregethu’r newydd da i dlodion. Y mae wedi f’anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg i ddeillion, i beri i’r gorthrymedig gerdded yn rhydd, i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd.” Wedi cau’r sgrôl a’i rhoi’n ôl i’r swyddog, fe eisteddodd; ac yr oedd llygaid pawb yn y synagog yn syllu arno. A’i eiriau cyntaf wrthynt oedd: “Heddiw yn eich clyw chwi y mae’r Ysgrythur hon wedi ei chyflawni.”

Luc 4:17-21

 

Beth yw agenda Iesu ar gyfer byd ar ôl Covid-19? Mae llawer o lywodraethau’n agor eu coffrau ac yn addo symiau enfawr o arian i godi gwledydd yn ôl ar eu traed, ond maen nhw’n cyfaddef na allan nhw ddim helpu pawb, a bydd rhai pobl yn siŵr o gael eu hanghofio.

Beth sy gan Iesu Grist o Nasareth i’w gynnig?

Daw’r ateb ar ffurf y bregeth eithriadol o fyr hon a roddodd yr Arglwydd ar y Saboth mewn synagog yn ei dref enedigol. Darllenodd o Eseia 61:1-2 a 58:6 yn y fath ffordd fel na allai’r bobl beidio â dal eu gwynt yn disgwyl am y geiriau nesaf. Roedd yr hyn a ddywedodd nesaf yn anhygoel, heb os nac oni bai y bregeth fyrraf a mwyaf effeithiol erioed (ad21)!

Dywedodd fod proffwydoliaeth Eseia wedi cael ei chyflawni mewn tref gyffredin, ddi-nod, yng nghlyw pobl gyffredin, ddi-nod, ar wefusau un sydd yn wir ddyn, un ohonom ni! Yn y darn yma mae Iesu yn datgan yn eofn bwrpas ei weinidogaeth, ond beth yw ei agenda ar gyfer y byd, a sut mae’n effeithio ar ein blaenoriaethau ni heddiw?

  • Cyhoeddi. Roedd Iesu wedi ei arfogi ag Ysbryd yr Arglwydd mewn modd arbennig i gyhoeddi’r newyddion da. Roedd Moses wedi addo proffwyd fel ef ei hun (Deut. 18:15-22). Roedd Eseia wedi pwyntio at y proffwyd hwnnw, ac yn awr roedd wedi cyrraedd! Nid dull na myth yw Cristnogaeth: Mae’n neges am ddyn go iawn sydd yn Fab Duw. Wnaeth Iesu ddim rhoi arian i bobl, pregethodd newyddion da, felly gadewch i ni weddïo y bydd cyhoeddi’r newyddion da yn nerth yr Ysbryd ar ben yr agenda yn ymateb yr eglwys i’r argyfwng hwn.
  • Tlodi. Targed cyhoeddiad Iesu yw’r tlodion, y rhai sydd wedi eu rhwymo a’u dallu gan Satan, ac o dan faich pechod. Mae tlodi yn un o themâu allweddol efengyl Luc, ond nid yw hynny’n golygu bod yna unrhyw beth mewn bod yn dlawd sy’n achub rhywun. Mae’n golygu er hynny y gall y rheini sy’n disgyn rhwng y craciau fod yn fwy ymwybodol nag eraill o realiti pechod a’u hangen am ras. Mae eglwysi lleol mewn lle delfrydol i ymestyn allan i’r rhai mwyaf bregus ar ymylon cymdeithas. Gadewch i ni weddïo dros y rhai tlotaf a mwyaf anghenus, wrth i’r argyfwng hwn ddatgelu caethiwed ysbrydol ein cymdeithas.
  • Grym. Nid geiriau nac addewidion gwag oedd cyhoeddiad Iesu. Daeth mewn grym, ac mae’n parhau felly heddiw. Mae cyhoeddiad Iesu yng ngrym yr Ysbryd yn rhyddhau dynion a gwragedd, bechgyn a merched, o bechod a chaethiwed i Satan. Mae newyddion da Iesu yn rhoi eu golwg i’r deillion, ac mae’r rhai sy’n ei dderbyn trwy ffydd yn cael ffafr a chariad Duw. Mae gwyrthiau Iesu yn portreadu hyn, ac mae Ei fywyd a’i atgyfodiad yn cyflawni hyn! Gadewch i rym achubol Crist ein llenwi â llawenydd a gadewch i ni gofio, hyd yn oed mewn pandemig: Dyma, yn awr, yr amser cymeradwy; dyma, yn awr, ddydd iachawdwriaeth (2 Corinthiaid 6:2).

 

Tristwch y geiriau hyn yw bod y gwrandawyr yn rhyfeddu at y pethau gwych mae Iesu yn eu dweud ond yn gwrthod credu mai Ef yw’r un sydd wedi eu cyflawni (ad, 22-29). Beth amdanoch chi?

Ydych chi wedi mynd at Iesu Grist i geisio rhyddid a ffafr? Os na, nawr yw’r amser i wneud hynny. Fel mae’r hen emyn yn dweud:

“He speaks and listening to His voice,
New life the dead receive,
The mournful, broken hearts rejoice,
The humble poor believe.”
(Charles Wesley, ‘O for a thousand tongues to sing’)

 

Pete Campbell, Capel Fron