Pan godaf gwmwl ar y ddaear bydd bwa yn ymddangos yn y cwmwl
Genesis 9:14
Yn ystod y cyfnod rhyfedd yma sy wedi dod i’n rhan, bydd llawer o bobl yn colli anwyliaid. Nid yw’r llwybr allan o boen a cholled yn hawdd nac yn fyr i’r rhai hynny sydd wedi caru rhywun o waelod calon. Er hynny gall ffydd gael y fuddugoliaeth a gall ddal gafael ar Dduw hyd yn oed wrth i law oer galar afael yn yr enaid.
O bryd i’w gilydd bydd yr Arglwydd yn anfon enfys atom yng nghanol y glaw ac yn aml bydd yn ein cofleidio’n dyner pan fydd ei angen arnom fwyaf. Dyma stori wir a ddarllenais beth amser yn ôl mewn llyfryn nodiadau Beiblaidd ac a fu’n gymorth mawr i mi. Roedd yn seiliedig ar astudiaethau yn Salm 88:
Roedd cwpl oedrannus yn eistedd yng Ngerddi Princes Street, yng Nghaeredin, pan aeth dynes ifanc heibio iddyn nhw.
Aeth y dyn ar ei hôl, a chyffwrdd yn ei braich. Ymddiheurodd am darfu arni ac eglurodd wrthi ei fod ef a’i wraig wedi torri eu calonnau ar ôl marwolaeth eu hunig ferch yn Ne Affrica.
Roedd rhywbeth ynghylch y ferch wrth iddi gerdded heibio yn eu hatgoffa o’u merch nhw..
Gofynnodd y dyn iddi a fyddai ots ganddi hi droi a chodi llaw ar ei wraig cyn iddi fynd yn ei blaen?
Teimlai ei wraig, mewn rhyw ffordd anesboniadwy y byddai hyn yn rhoi rhywfaint o heddwch iddi ac yn gadael iddi deimlo fel pe bai wedi llwyddo i ffarwelio â’i merch am y tro olaf.
Roedd y ferch wedi ei chyffwrdd i’r byw, a gwnaeth fwy na hynny. Aeth at y fainc, pwyso drosodd a chusanu boch yr hen wraig. Am eiliad gafaelodd llaw’r hen wraig yn ei llaw hithau. Yna cerddodd i ffwrdd, troi ym mhen draw’r llwybr a chodi ei llaw, ei llygaid yn llawn dagrau, cyn iddi gerdded o olwg y cwpl.
Dyma ofal dirgel Duw yn dod yn raslon ac yn llawn cariad at y cwpl oedd mewn galar, gan weinidogaethu’n dyner i’w hanghenion mewn ffordd mor annisgwyl.
Pan fyddwn yn dioddef poenau a gofidiau a dim gwaredigaeth yn dod – yna gall pethau felly ddigwydd, a’r enfys i’w gweld yn y cwmwl.
O wynfyd pur a’m cais trwy fraw,
Ni allaf rhagot gau fy mron;
‘R wy’n gweld yr enfys trwy y glaw,
Yn ôl d’addewid gwn y daw
Diddagrau fore llon
Bill Hughes (Christ Church Deeside)