Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 18 Ebrill 2020

18 Ebrill 2020 | gan Meirion Thomas | Philipiaid 4

A bydd fy Nuw i yn cyflawni eich holl angen chwi yn ôl cyfoeth ei ogoniant yng Nghrist Iesu.

Philipiaid 4:19 

 

Teitl cwbl addas i lythyr Paul at y Philipiaid fyddai ‘Manteisio ar Lockdown’. Mae ef, wedi iddo gael ei arestio gan yr awdurdodau, yn gaeth i’w dŷ yn Rhufain, heb fedru mynd allan ond yn gallu croesawu pawb oedd ag awydd “dysgu am yr Arglwydd Iesu Grist” i ddod i mewn ato. Er y fraint aruchel honno, gallwn ddychmygu ei rwystredigaeth, ac yntau wedi arfer teithio’n eang a symud o le i le yn wastadol. Mae cael eich ynysu a’ch caethiwo i unrhyw raddau yn dod â sialensiau arbennig. Bellach mae’r ynysu a’r caethiwo, y lockdown, yn rhan o’n profiad ninnau, a phwy’n well na’r apostol Paul i roi gair o anogaeth i ni. Mae pedair pennod ei lythyr at y Philipiaid yn llawn o’r pethau sy’n cyfrif iddo ef. Na, yn hytrach, yn llawn o bwy sy’n cyfrif iddo.

Fedrwn ni ddim peidio â sylweddoli bod Crist Iesu’n ‘oll yn oll’ i’r apostol. Mae’n ei enwi 45 o weithiau mewn dim ond pedair pennod. Mae Crist Iesu’n llenwi meddwl, calon ac enaid Paul. ‘Does yr un lockdown all gyfyngu ar werthfawrogiad a mwynhad Paul o’i berthynas â’r Arglwydd Iesu. Ef yw realiti ei fywyd – “i mi, Crist yw byw”, meddai (1:21). Prif uchelgais ei fywyd yw “adnabod Crist Iesu fy Arglwydd.” 3:8  Roedd dyfnhau ei berthynas â Iesu yn ddefosiwn dyddiol roddai hyfrydwch i’w fywyd. Mae’n bosib i’r lockdown ganiatáu rhagor o amser iddo gyrchu at y nod hwnnw. Ei obaith gogoneddus oedd cael bod, un dydd, “gyda Christ, gan fod hynny’n llawer iawn gwell” (1:23).

Mae Paul yn cymell eglwys Philipi i edrych ar ei lockdown a’i gaethiwed fel symbyliad i gyflwyno’r efengyl ac i fod yn hyderus a gwrol yn eu tystiolaethu. Mae hefyd yn eu hannog i lawenhau yn yr Arglwydd a dysgu’r wers o fod yn fodlon. Mae un awdur yn galw bodlonrwydd yn ‘drysor prin’. Ond pan fyddwn ni’n hunain wedi meithrin bodlonrwydd ac wedi’i weld yn disgleirio mewn pobl eraill, gwyddom fod ei gyfrinachau cudd a’i lawenydd yn anfesuradwy. Nid yw’n hawdd bod yn fodlon, dyna pam mae Paul yn dweud mai dysgu’r gyfrinach o fod yn fodlon wnaeth ef. Mae fel bod yn ysgol profiad a modelu’i hunan ar y Meistr – Iesu – oedd yn cael ei wir fodlonrwydd o ufuddhau a bodloni ewyllys ei Dad.

Mae Paul wrth gau ei lythyr yn rhoi i ni addewid fawr sy’n seiliedig ar ei brofiad a’i ymddiriedaeth yn Nuw – y byddai Ef yn cyflawni ein holl angen, nid o weddillion ei gyfoeth ond “yn ôl cyfoeth ei ogoniant yng Nghrist Iesu”. Mae stôr ddihysbydd trysorau person, gwaith a gweinidogaeth gyson Crist ar gael i’w bobl. Roedd popeth “yng Nghrist” i gredinwyr Philipi ac mae felly i ninnau hefyd. Mae pob Cristion wedi’i uno a’i gysylltu â Iesu. Trwy ffydd rydym ni’n derbyn holl fanteision yr efengyl yn Iesu Grist. Ni all lockdown ein gwahanu oddi wrth Iesu na’n hamddifadu o’r ddarpariaeth helaeth o ras a thangnefedd sydd ynddo Ef (1:2; 4:7 & 23). Efallai na allwn ymfalchïo yn ein hamgylchiadau presennol ond gallwn “ymfalchïo yng Nghrist Iesu” (3:3) a dyfalbarhau’n amyneddgar wrth i ni “gyflymu at y nod i ennill y wobr y mae Duw yn (ein galw) i fyny ati yng Nghrist Iesu” (3:14).

Meirion Thomas, Malpas Road

Cyfiethwyd o’r Saesneg gan Kitty Jones