Os erys dagrau gyda’r hwyr, daw llawenydd yn y bore.
Salm 30:5
Rydw i wedi bod yn meddwl am y gwahaniaeth mae atgyfodiad Iesu yn ei wneud i fywydau pobl. Meddyliwch am y gwahaniaeth a wnaeth yr atgyfodiad i Mair Magdalen. Mae ei hanes yn un diddorol.
Mae’n amlwg bod Mair yn wraig a chanddi dipyn o fodd, ac roedd hi’n un o’r rhai a roddai gefnogaeth ariannol i weinidogaeth grwydrol Iesu ac a’i cynorthwyai ar ei deithiau.
Credir yn aml ei bod yn ddynes anfoesol, ond y cyfan mae’r Ysgrythur yn ei ddweud yw bod Iesu wedi bwrw saith gythraul allan ohoni. I roi rhyw syniad i ni o arwyddocâd hyn rhaid i ni gofio am y dyn o’r Gadareniaid oedd yn cael ei alw’n Lleng.
Rywsut, roedd Mair wedi ei meddiannu gan gythreuliaid, oedd yn beth ofnadwy.
Mae’r stori honno am Leng yn rhoi rhyw syniad i ni o beth oedd siŵr o fod yn fywyd unig a phoenus.
Rhaid ei bod hi wedi mynd trwy ing ofnadwy wrth i rymoedd drygionus y tu fewn iddi oedd y tu hwnt i’w rheolaeth chwalu ei bywyd yn ddarnau. Ac roedd Iesu wedi ei gwella ac wedi rhoi gorffwys a heddwch iddi. Yn union fel roedd wedi tawelu’r storm yng Ngalilea, roedd wedi tawelu ei storm hithau, ac o hynny ymlaen roedd hi wedi Ei ddilyn yn addolgar ac yn ymroddedig. Ei hagosrwydd iddo Ef oedd ei hunig amddiffyniad ar gyfer y dyfodol a rhag poen y gorffennol.
Nawr roedd hi’n ffigwr unig a thrist yn cerdded tuag at y bedd yn yr ardd ar ddiwrnod cyntaf yr wythnos, yn llawn galar ingol ac ofn dychrynllyd. Bellach roedd tawelwch presenoldeb yr Arglwydd wedi mynd. Beth pe bai’r hen fywyd gyda’r hen gythreuliaid yn dychwelyd?
Os erys dagrau gyda’r hwyr, daw llawenydd yn y bore.
A daeth y llawenydd yna i Mair ar fore’r trydydd dydd.
Daeth yr Iesu atgyfodedig ati a chydag un gair, daeth â gorffwys a heddwch iddi. Y cyfan ddywedodd oedd ‘Mair’. Roedd yn ddigon.
Roedd yr Arglwydd wedi atgyfodi o’r meirw!
Yn ddiffuant yn yr un Iesu hwnnw,
Bill Hughes