Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 16 Ebrill 2020

16 Ebrill 2020 | gan Meirion Thomas | Hebreaid 2

…yr ydym yn gweld Iesu…

Hebreaid 2:9

Yn ystod y dyddiau annormal ac anarferol hyn mae yna lawer o bethau i edrych arnynt. Edrych ar sgrin y teledu, ar y ffôn symudol am negeseuau testun, ar Whatsapp, Snapchat, Instagram, Facebook, Zoom, e-byst – mae’r rhestr yn ddiddiwedd! Gweld wynebau, gweld golygfeydd o dristwch, a gweld lleoedd naill ai’n wag neu wedi’u gadael. Mae’r hyn welwn ni yn peri dryswch i ni mewn amrywiol ffyrdd. Ond mae Hebreaid yn ein gwahodd ni, nid yn unig i edrych, ond i gadw’n llygaid yn barhaus ar Iesu. Fydd yr hyn welwn ni ddim yn ein siomi! Mae llyfr Hebreaid drwyddo draw yn rhoi i ni weledigaeth aruthrol o Iesu. Y Duw Hollalluog a Hollgyfoethog. Yng nghyd-destun yr adnodau hyn gwelwn Iesu fel ein:

Dyn Perffaith

Methodd pob meidrolyn arall gyflawni’r gwaith a ymddiriedodd Duw iddo, sef gwarchod y greadigaeth a bywyd. Mae coron a gogoniant bod ar ei lun a’i ddelw Ef wedi syrthio i waradwydd. Yr hyn a welwn o’n cwmpas ymhobman yw dynoliaeth ddrylliedig. Mae’n rhagoriaethau a’n doniau, hyd yn oed, wedi’u handwyo a’u crebachu’n ddirfawr gan gyfyngiadau ein natur syrthiedig. Ond y newydd da yw bod dyn perffaith sydd hefyd yn Dduw perffaith wedi dod i fod yn gynrychiolydd perffaith i ni. Mae’n byw’r bywyd o wir ufudd-dod na allem ni ei fyw. Mae’n rhannu ein natur ni, yn wynebu temtasiwn a dioddefaint, ond yn gorchfygu trwy ei farwolaeth fel ein haberth iawnol. Felly, gwelwch Iesu ym mherffeithrwydd ei berson ac yng nghytgord ei ddwy natur anghymysgedig a dilychwyn.

Offeiriad Perffaith

Yn yr Hen Destament yr offeiriad oedd y canolwr neu’r cyfryngwr rhwng Duw sanctaidd a phobl bechadurus. Yna byddai arch-offeiriad yn gweinyddu dros holl aberthau ac offrymau’r deml. Byddent yn dod ac yn mynd pan fyddai marwolaeth naturiol yn dod â chyfnod y swydd i ben. Ond un dydd byddai’r deml yn cael ei dinistrio a’r offeiriadaeth yn dod i ben. Achosodd dileu’r symbolau gweladwy arferol newid a dryswch. Ond roedd Un fyddai’n parhau’n ddigyfnewid yn ei swydd offeiriadol. Mae ei offrwm terfynol a’i aberth unwaith-ac-am-byth yn dragwyddol effeithlon. Felly, gerbron gorsedd Duw yn y nef, mae gennyf offeiriad mawr aruchel sy’n byw beunydd i eiriol ar fy rhan. Ychydig wythnosau’n ôl dywedodd y pab wrth ffyddloniaid eglwys Rufain y gallent, os yn methu dod o hyd i offeiriad, fynd at Dduw yn uniongyrchol! Gadewch i ni weld Iesu fel ein Harchoffeiriad mawr.

Brenin Perffaith

Mae Iesu’n awr yn gwisgo coron a gogoniant anrhydedd fel awdur gorchfygol buddugoliaethus ac arloeswr ein hiachawdwriaeth. Mae ei ysblander a’i fawrhydi fel Brenin coronog ei bobl yn golygu bod ei deyrnasiad a’i lywodraeth yn sicr. Fel ei frodyr a’i chwiorydd fe gawn ni rannu’r iachawdwriaeth hon a gogoniant addawedig pen y daith. Mae’n cyhoeddi ei air i ni ac yn ein harwain mewn moliant ac addoliad. Fydd Ef ddim yn ein gadael ar ein pennau’n hunain ar unrhyw ran o’r daith. Bydd yn cyd-deithio â ni bob cam o’r ffordd. Ac yn ôl ei addewid mae unrhyw rwystrau, dioddefaint a gwrthwynebiad a ddaw i’n rhan yn cyd-weithio er daioni i ni. Yn yr amserau cymhleth a dryslyd rydym yn byw ynddynt gadewch i ni barhau i weld ein Brenin perffaith.

Meirion Thomas, Malpas Road

Cyfiethwyd o’r Saesneg gan Kitty Jones