Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 15 Ebrill 2020

15 Ebrill 2020 | gan David Norbury | Diarhebion 4

Doethineb yw’r pennaf peth; cais ddoethineb; â’r cyfan sydd gennyt, cais ddeall. Meddwl yn uchel ohoni, ac fe’th ddyrchefir ganddi; fe’th anrhydedda, os cofleidi hi.

Diarhebion 4:7-8

 

Cais Ddoethineb (rhan 3)

Dioddefaint. Allwn ni ddim ei osgoi ac mae’n sleifio o’n cwmpas. Mae’n brifo’n ddwfn yn ein calonnau, ond mae Duw yn defnyddio dioddefaint i’n moldio a’n helpu i “geisio doethineb”. Mae’r rhain yn wersi anodd, ond weithiau does dim ffordd arall. Ar yr adeg hon, mae’n hollol naturiol eich bod yn ofni beth ddaw yn y dyfodol ond rhowch eich hyder yn ein Duw ni.

Mae ein Harglwydd Iesu Grist wedi cerdded y ffordd i Galfari ac wedi dioddef i’n hachub. Aeth drwy boen annisgrifiadwy’r groes, gan ddwyn ein cywilydd a gallwn fod yn siwr y gall gydymdeimlo â ni yn ein dioddefaint. Y bore hwn gallwch ymddiried ynddo.

Yng nghanol ein dioddefaint gallwn fod yn siwr bod yr Arglwydd gyda ni ac yn ei ddefnyddio er ein lles, fel mae Diarhebion 14:26-27 yn dweud wrthym ni.

Yn ofn yr ARGLWYDD y mae sicrwydd y cadarn, a bydd yn noddfa i’w blant. Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ffynnon fywiol i arbed rhag maglau marwolaeth.

Dyma rai dyfyniadau sydd wedi bod o gymorth i mi dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf. Gweddïaf y byddant yn gymorth i chithau hefyd i geisio doethineb yng nghanol eich dioddefaint:

“Bydd Duw yn mynd a chi i rywle lle nad oeddech chi wedi bwriadu mynd er mwyn cynhyrchu ynoch yr hyn na allech chi ei gyflawni ar eich pen eich hun.” Paul Tripp

“Dioddefaint yw diwinydd y Cristion….doeddwn i erioed wedi deall ystyr Gair Duw hyd nes i mi wynebu dioddefaint… bu fy nhemtasiynau’n feistri mewn diwinyddiaeth…Nid oes yr un dyn, heb dreialon a themtasiynau, sy’n gallu ymgyrraedd at ddealltwriaeth wirioneddol o’r Ysgrythurau Sanctaidd…” Martin Luther

“I walked a mile with Pleasure;
She chatted all the way;
But left me none the wiser
For all she had to say.
I walked a mile with Sorrow;
And ne’er a word said she;
But, oh! The things I learned from her,
When Sorrow walked with me.”      Robert Browning Hamilton

 

“Pan na allwn olrhain llaw Duw gallwn ymddiried yng nghalon Duw.” Spurgeon

Gweddi ar gyfer heddiw

“Arglwydd, rwyf am fod yn ddoethach. Rwy’n hiraethu am ddeall yn well yng nghanol holl dwrw dryslyd y byd hwn. Arglwydd cynorthwya fi i geisio doethineb – beth bynnag yw’r gost – hyd yn oed trwy ddioddefaint. Arglwydd Iesu, gwn dy fod ti wedi cerdded y llwybr hwn. Gwn y byddi di’n cerdded gyda mi. Helpa fi, fy nheulu, fy nghymdogion a’m cymuned i ddysgu doethineb yn y dyddiau diobaith hyn. O Dad, trwy dy Ysbryd Glân, wnei di ein harwain at ffynhonnell pob doethineb – ein Harglwydd.”

David Norbury