Doethineb yw’r pennaf peth; cais ddoethineb; â’r cyfan sydd gennyt, cais ddeall. Meddwl yn uchel ohoni, ac fe’th ddyrchefir ganddi; fe’th anrhydedda, os cofleidi hi.
Diarhebion 4:7-8
Cais Ddoethineb (rhan 2)
Mae ein heglwys ni newydd ddechrau grŵp WhatsApp ac ar y bore cyntaf dyma Jimmy Hughes, un o’n diaconiaid, yn postio’r emyn hwn ar gyfer pob un ohonom. Mor hyfryd ac onest! Mor ddidwyll, ac eto mor ddifrifol! Rydw i wedi ei gael yn gymorth mawr fel esiampl ac fel emyn.
“Cafodd ei ysgrifennu yn wreiddiol yn y Travelodge ger Gorsaf Marylebone ym Mehefin 2016. Mi wnes i ddeffro am 4.30 am ac estyn heb orfod meddwl am fy ffôn, a gwastraffu o leiaf hanner awr ar gemau a’r cyfryngau cymdeithasol. Pan edrychais ar yr amser, sylweddolais faint o amser roeddwn i wedi ei wastraffu. Dyna pryd es i ddarllen y Beibl, gweddïo ac yna ysgrifennais yr emyn hwn.
Lord, as day begins to break,
And from slumber I awake,
Keep distractions far away,
With you let me start the day.
So much here to waste my time,
So much choice of idle crime,
Worthless games, pointless debate,
All my feeble will await.
Help me make a better choice,
Help me listen for your voice.
As I study in your word
Let your will for me be heard.
As I offer up my prayer
And commit things to your care,
Lord, be pleased to draw near me,
Ready for the day I’ll be.
Passing pleasures left behind
As your word renews my mind.
As your presence warms my soul
And fills in that God shaped hole.
© James Hughes
Beth am ddefnyddio’r emyn hwn fel gweddi – neu hyd yn oed fel emyn – gallwch ei ganu ar y dôn… “St Bees” fel yn yr emyn “Hark, my soul, it is the Lord” (os nad ydych yn siŵr o’r dôn mae ar yr Ap Christian Hymns.)
Gadewch i ni geisio doethineb a deall – y bore yma, heddiw, ac yfory a phob yfory!!
David Norbury