Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 12 Ebrill 2020

12 Ebrill 2020 | gan Steffan Job | Ioan 20

Aeth Mair Magdalen a chyhoeddi i’r disgyblion, “Rwyf wedi gweld yr Arglwydd.”

Ioan 20:8

 

Maen nhw’n dweud nad ydych chi ddim yn gwybod beth sydd gennych hyd nes iddo fynd.  Mae’n bosib iawn bod heddiw yn ddiwrnod chwerw-felys am ein bod ni’n hiraethu am gael dathlu’r Pasg gyda’n brodyr a’n chwiorydd yn bersonol. Byddai’n gymaint o lawenydd i ni allu cerdded i mewn i’r eglwys y bore ‘ma, ysgwyd llaw efo’n teulu (neu eu cofleidio hyd yn oed!) wrth i ni rannu’r llawenydd o gofio am ein hiachawdwriaeth. Byddwn i wrth fy modd yn canu rhai o’r caneuon a’r emynau sy’n son am iachawdwriaeth yr efengyl gydag eraill heddiw. Edrych o gwmpas ar eraill wrth i ni wrando ar bregethu Gair Duw a dychmygu’r banad hyfryd (a’r siocled!) a sgwrsio ar ôl y gwasanaeth! Er bod Zoom, WhatsApp, Facebook a YouTube yn fendith fawr, does yna ddim byd sy’n cymharu â bod yng nghwmni rhywun – rydym ni angen y cyffyrddiad personol hwnnw ac mae’n dda cael ein hatgoffa ein hunain na fydd y cyfyngiadau hyn yn para am byth.

Realiti gwych Sul y Pasg yw bod Iesu’n fyw ac yn teyrnasu am byth.

Nid oedd marwolaeth ac atgyfodiad Iesu yn ddigwyddiadau diwinyddol neu ddamcaniaethol. Mi wnaeth ei waed ef lifo ar y groes go iawn ac roedd y garreg a gafodd ei symud yn un real a thrwm. Daeth Iesu yn ôl yn fyw go iawn, sylwch ar eiriau Mair “Rwyf wedi gweld yr Arglwydd”.

Gwirionedd rhyfeddol a gwych Sul y Pasg yw y byddwn i gyd ryw ddydd yn gweld Iesu wyneb yn wyneb!

Ellwch chi ddychmygu hynny? Fydd y cyffro cawn ei brofi ar y Sul cyntaf hwnnw yn ôl yn yr eglwys ar ôl i’r firws gilio yn ddim byd o’i gymharu â’r rhyfeddod y byddwn yn ei brofi pan welwn ni’r Arglwydd wyneb yn wyneb.  Dychmygwch syllu i wyneb yr un a’ch creodd, a’ch carodd cyn i amser ddechrau ac a fu farw i’ch achub.  Mae’n rhoi popeth mewn persbectif tydy? Fel y dywedodd Paul ‘Oherwydd, i mi, Crist yw byw, ac elw yw marw!’

Mae heddiw yn ddiwrnod gwych. Gadewch i ni ddathlu, gadewch i ni ddiolch, ac yn fwy na dim byd gadewch i ni addoli a rhoi’r gogoniant i gyd iddo oherwydd ryw ddiwrnod yn fuan iawn byddwn yn gallu dweud fel Mair “Rwyf wedi gweld yr Arglwydd.”

Steffan Job, Capel y Ffynnon