Amlygwch yn eich plith eich hunain yr agwedd meddwl honno sydd, yn wir, yn eiddo i chwi yng Nghrist Iesu. Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i’w gipio, ond fe’i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol. O’i gael ar ddull dyn, fe’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie angau ar groes.
Philipiaid 2:5-8
Ar Sadwrn y Pasg mae’n hawdd iawn i ni edrych ymlaen yn eiddgar at yfory pan fyddwn yn ymuno â’n brodyr a’n chwiorydd dros y byd i ddathlu’r atgyfodiad. Am efengyl fendigedig sy gennym ni!
Ond gadewch i ni dreulio ychydig amser yn edrych yn ôl ar ddoe unwaith eto.
Welsoch chi ef yn cario ei groes i Galfari? Welsoch chi ef yn gweddïo, yn gofalu amdanom, yn ein caru, yn ein hachub? Welsoch chi ef wrth iddo ddioddef yn ddistaw watwar y gwylwyr?
Welsoch chi ef yn gweiddi “Fy Nuw, fy Nuw, pam rwyt wedi fy ngadael?” Y berthynas berffaith wedi ei chwalu wrth iddo hongian yno mewn tywyllwch ac anobaith llwyr. Ei farwolaeth a’i ddioddefaint oedd pris ein hiachawdwriaeth.
Sut felly byddwn yn ymateb? Beth allwn ei roi i ddangos ein diolchgarwch, ein cariad a’n mawl?
Gadewch i ni feithrin yr un meddylfryd yn ein bywydau ein hunain, gadewch i ni ein rhoi ein hunain yn llawn, yn llwyr ac i’r eithaf dros yr Un a roddodd bopeth drosom ni. Mae angen i ni roi ar waith yn ein bywydau apêl Paul at y Cristnogion yn Rhufain:
Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, ar sail tosturiaethau Duw, i’ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly y rhowch iddo addoliad ysbrydol. A pheidiwch â chydymffurfio â’r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy’n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.
Fel Cristnogion dylem fod yn oleuadau sy’n disgleirio er gogoniant i Dduw yn ein cymunedau a’n heglwysi. Gadewch i ni fyw yn llawen a pheidio â chyfri’r gost wrth i ni roi ein hunain dros eraill. Gadewch i ni ofalu a charu gydag angerdd tanbaid Crist – fyddwn ni byth yn gallu gwneud hyn yn ein nerth ein hunain, ond gallwn wneud unrhyw beth trwyddo Ef sy’n ein nerthu. Gadewch i ni fod fel ein meistr!
Steffan Job, Capel y Ffynnon