Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 10 Ebrill 2020

10 Ebrill 2020 | gan Steffan Job | Eseia 53

Eto, ein dolur ni a gymerodd, a’n gwaeledd ni a ddygodd – a ninnau’n ei gyfrif wedi ei glwyfo a’i daro gan Dduw, a’i ddarostwng.

Eseia 53:4

 

Mae cost ariannol Covid-19 i Gymru a’r Deyrnas Unedig yn anferthol. Mae pecyn achub £350 biliwn gan lywodraeth y DU a chynnydd enfawr mewn gwariant ar y GIG – mae’n anodd dychmygu sut mae swm fel hyn yn edrych. Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa mae llywodraethau a’r rhai hynny sydd mewn grym wedi gorfod ymateb, ac rydym yn ddiolchgar bod gennym arweinwyr sy’n fodlon cymryd y penderfyniadau tyngedfennol hyn. Ond er mor enbyd o fawr yw’r gost, nid yw’n ddim o’i chymharu â’r pris a dalodd Duw am ein hachub.

Ar y diwrnod arbennig hwn mae’n dda i ni gofio faint gostiodd i’n Harglwydd a’n Gwaredwr i brynu ein hiachawdwriaeth.

Edrychwch arno yn y preseb, wedi ymostwng a’i gael ar ffurf dyn – daeth Mab Duw yn ddyn, mewn un corff bychan.

Edrychwch arno fel bod dynol, yn dechrau ei fywyd mewn preseb, yn ffoi rhag Herod i’r Aifft ac yn gorfod wynebu holl brofiadau dynol bywyd oedd yn cynnwys bod yn newynog, yn sychedig, yn lluddedig, yn ddigartref ac yn alarus.

Edrychwch arno’n wyneb gwrthwynebiad ac erledigaeth gyson gan arweinwyr crefyddol y genedl yr oedd wedi ei bendithio mor raslon dros y canrifoedd.

Edrychwch arno’n wynebu ymosodiadau’r diafol. Temtasiwn, ysbrydion drwg a hyd yn oed ymosodiadau gan ei ddisgyblion ei hun.

Edrychwch arno’n byw ei fywyd gan wybod yn iawn ei fod yn cerdded tuag at ei farwolaeth ei hun. Awdur bywyd yn marw – faint o boen byddai wedi gorfod ei dioddef?  Does dim rhyfedd bod dafnau o waed wedi disgyn ohono fel chwys.

Edrychwch arno’n colli ei ffrindiau – y rhai hynny yr oedd wedi rhoi bywyd iddynt ac wedi treulio blynyddoedd yn gofalu amdanynt, yn eu dysgu a’u caru. Edrychwch ar ei wyneb wrth iddyn nhw i gyd redeg i ffwrdd.

Edrychwch arno’n dioddef wrth iddo gael ei arestio, ei wawdio, ei gyhuddo ar gam a rhai’n poeri arno. Coron o ddrain ar ei ben, ac yn cario ei groes ei hun.

Edrychwch arno’n hongian yno, yn sychedig ac yn noeth, yn dioddef gwawd y gwylwyr. Ei wyneb yn llawn poen wrth i’r bywyd dreio o’i gorff.

Edrychwch arno’n gweiddi “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?” Dyma benllanw’r gost a’r dioddefaint. Y berthynas berffaith rhwng y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân oedd wedi bodoli ers tragwyddoldeb yn cael ei thorri wrth i gleddyf ei dad ei daro.

Hyn i gyd er ein mwyn ni? Er mwyn achub pechaduriaid a gwrthryfelwyr diobaith sy’n haeddu dim. Ar y diwrnod arbennig hwn mae’n dda i ni gofio hyn. Beth arall gallwn ei wneud ond ymuno â’r canwriad i gyhoeddi ‘Yn wir, Mab Duw oedd hwn!’

Steffan Job, Capel y Ffynnon