Gosodaf fy mwa yn y cwmwl, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof a’r ddaear.
Genesis 9:13
Yr enfys – Gobaith ymrwymiad Duw.
Wrth fynd am ein tro dyddiol, mae mwy a mwy o luniau enfys gan blant i’w gweld yn ffenestri tai yr ardal. Ac mae hyn yn wir ledled Prydain. Mae hefyd yn wir am Ewrop a’r U.D.A. Wrth i’r ysgolion gau yn ddiweddar, cafodd y plant eu hannog i wneud llun o enfys i godi calon pawb, am ei bod yn arwydd lliwgar o obaith. Mae rhai yn gweld y lliwiau yn fodd i godi calon, tra bod eraill yn meddwl am y gân “Draw dros yr enfys” gyda’r syniad bod ‘gwlad ein breuddwydion’ sef gwlad heb Covid-19 y tu hwnt i’r enfys, fel petae.
Mae’n amlwg bod pobl yn chwilio am neges obeithiol yng nghanol haint Coronafeirws a’r cau lawr ryn ni’n ei brofi ar hyn o bryd. Gwnaeth hyn i mi feddwl am arwyddocâd gwreiddiol yr enfys yn Genesis gyda hanes Noa a’r dilyw.
Rhoddodd Duw yr enfys fel arwydd o’i addewid i beidio â boddi’r holl fyd mewn dilyw eto. Roedd drygioni dynion wedi mynd i’r fath eithafion yn nyddiau Noa nes i Dduw weinyddu barn lem iawn a difa bron popeth yr oedd E’i hunan wedi ei greu.
Eto i gyd, arbedodd Duw Noa a’i deulu ac anifeiliaid o bob rhywogaeth er mwyn dechrau eto. Gwnaeth gyfamod gyda Noa, a’r holl ddynoliaeth, i beidio ag anfon dilyw byd-eang eto.
“Ni felltithiaf y ddaear mwyach o achos dyn, er bod gogwydd ei feddwl yn ddrwg o’i ieuenctid; …Tra pery’r ddaear, ni pheidia pryd hau a medi, oerni a gwres, haf a gaeaf, dydd a nos.”
Mae hyn yn dangos bod Duw yn fodlon rhwymo’i hunan i ddal yn ôl ei farn ar bechod yn derfynnol hyd ddiwedd amser. Mae hyn yn golygu ei fod yn amyneddgar iawn wrth roi amser i bobl droi o’u pechod a dod at Iesu Grist. Fel yr aeth Noa a’i deulu i’r arch i fod yn saff rhag y dilyw, gallwn ni fod yn saff rhag barn Duw trwy droi o’n pechod ac ymddiried yn Iesu Grist fel ein Harglwydd a’n Gwaredwr.
Mae Duw yn addo bod yn Dad, yn Briod ac yn Frenin (perffaith) i ni, wrth i ni dderbyn ei Fab yn Geidwad. Mae’n ein galw i ddod i gyfamod ag E, ble mae E’n ymrwymo’n llwyr i ofalu amdanom, i’n caru, ein cadw, ein harwain a’n gwneud yn sanctaidd yn y diwedd. “Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn?” Ni all unrhyw elyn orchfygu na dinistrio’r sawl y mae Duw drosto!
Felly, dylen ni Gristnogion gael hyder sicr yn y cyfnod hwn; os nad wyt ti’n Gristion – beth am ddod i gontract gyda Duw trwy dderbyn yr Arglwydd Iesu fel dy Arglwydd a’th Waredwr di!
John Treharne, Tabernacl Llwynhendy