Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 22 Ebrill 2020

22 Ebrill 2020 | gan Meirion Thomas | Ioan 20

“Tangnefedd i chwi!”

Ioan 20:19

 

Mae ymddangosiadau’r Iesu atgyfodedig yn dilyn ei fuddugoliaeth dros angau yn gyforiog o wirioneddau cyfoethog a chadarnhaol. Prif fwriad popeth mae’n ei wneud a phob gair mae’n ei lefaru yw calonogi disgyblion pryderus, gofidus ac ansicr. Gadewch i ni ganolbwyntio ar un datganiad byr o’i eiddo. Dair gwaith yn Ioan 20 mae Iesu’n datgan y geiriau “Tangnefedd i chwi!, hynny yw, heddwch o sylwedd ac ansawdd perffaith. Wrth wneud, mae’n eu sicrhau o realiti ei bresenoldeb gyda hwy. Mae adnod 19 yn disgrifio’r tro cyntaf, pan ymddangosodd i’r disgyblion ofnus, ac eithrio Thomas, a hwythau y tu ôl i ddrysau caeedig. Dangosodd iddynt ei ddwylo a’i ystlys i’w sicrhau mai ef, eu Harglwydd a’i Gwaredwr, oedd yno mewn gwirionedd. Ond nid ar sail pwy ydyw yn unig y mae’n datgan ei dangnefedd iddynt, ond hefyd ar gyfrif yr hyn a gyflawnodd drostynt yn ei waith gorffenedig ar groes Calfaria. Yno, trwy eu prynu â’i werthfawr waed, sicrhaodd heddwch tragwyddol rhwng Duw a’i bobl.

Roedd Iesu cyn hyn wedi arddangos ei awdurdod dros wyntoedd a stormydd trwy eu ceryddu a gorchymyn iddynt ymdawelu. Ar ei air y noson dymhestlog honno dychwelodd tawelwch, llonyddwch a heddwch natur i’r llyn ac i galonnau cythryblus ac ofnus. Ond yma, yn Ioan 20 mae’r storm yn wahanol. Roedd gwrthwynebiad ac, o bosib, rhagor o erledigaeth, neu hyd yn oed farwolaeth, yn bryder ac ofn gwirioneddol i’r disgyblion. Felly roedd gweld yr Iesu atgyfodedig a’i glywed yn datgan ei dangnefedd yn gysur llonyddol i ryfeddu ato. Ac yna, wythnos yn ddiweddarach dyma Iesu’n sefyll eilwaith ymysg ei ddisgyblion ac yn datgan eto ei dangnefedd perffaith, y tro hwn yng nghyd-destun amheuaeth ac ansicrwydd Thomas. Roedd credu i Thomas yn golygu gweld, ond mae Iesu’n cyfeirio at y rhai “a gredodd heb iddynt weld” a’r rheiny sy’n cael ei gymeradwyaeth. Mae’r sicrwydd bendigaid sy’n deillio o’r tangnefedd a gostiodd mor ddrud i’r Arglwydd yn rhoi i ni ddiogelwch a sefydlogrwydd amhrisiadwy.

Wrth gwrs, mae’n hamgylchiadau presennol ni gyda’u holl sialensiau a’u hansicrwydd yn wahanol i rai’r disgyblion cyntaf. Ond yr un yw dyhead a gallu Crist i ddatgan ei dangnefedd i ni. Ac mae’n mynegi’r tangnefedd hwnnw i ni mewn amrywiol ffyrdd. Ond ym mhob sefyllfa mae’r presenoldeb a addawodd yn dod â heddwch, llonyddwch a hyder, ac yn ein sicrhau nad ydym ar ein pennau’n hunain. Bydded i Dywysog Tangnefedd beri i ni, yn ein bywydau a’n cartrefi, deimlo’i bresenoldeb tangnefeddus yn amddiffyn, cadarnhau a chysuro’n calonnau a’n meddyliau

Wedi iddo glywed pregeth ar y testun “Yr wyt yn cadw mewn heddwch perffaith y sawl sydd â’i feddylfryd arnat” (Eseia 26:3), cyfansoddodd yr Esgob E.H Bickersteth yr emyn enwog ‘Peace, perfect peace. Cyfieithwyd ef i’r Gymraeg gan Y Parch. Evan Rees (Dyfed).

Hedd, perffaith hedd! Mewn byd o bechod du?
Mae gwaed yr Oen yn sibrwd hedd i ni.

Hedd, perffaith hedd! dan groesau o bob rhyw?
Tangnefedd sydd o hyd ar fynwes Duw.

Hedd, perffaith hedd! a cheraint hoff ymhell?
Mae gofal Iesu’n ddiogelwch gwell.

Hedd, perffaith hedd! heb un dyfodol fraw?
Mae Iesu’n eistedd ar yr orsedd draw.

Hedd, perffaith hedd! yn wyneb angau du?
Diddymwyd angau gan yr Iesu cu.

Mae’n ddigon byth, yn wyneb byd a bedd,
Fod Iesu’n galw i’w dragwyddol hedd.​

Meirion Thomas, Malpas Road