‘Y mae’r ARGLWYDD yn agos at y drylliedig o galon ac yn gwaredu’r briwedig o ysbryd.’
Salm 34:18
Daw’r defosiwn isod allan o lyfr Mari Jones Trwy Lygad y Bugail a gyhoeddwyd gan y Mudiad nifer o flynyddoedd yn ôl.
Y Fref a Glyw’r Bugail
‘Dacw damaid glas gwerth ei gael eto fan acw,’ gellwch ddychmygu dafad yn sgwrsio â hi ei hun ar fynydd creigiog. A dyna roi’r hwb a’r naid angenrheidiol i’w gyrraedd. Pan ddaw yn fater o ddod yn ôl, nid yw mor hawdd. Dipyn haws oedd dod i lawr y graig na neidio’n ôl. Caiff ei hun ar rimyn o graig, heb le i symud yn ôl nac ymlaen, y graig o’i hôl a’r dibyn o’i blaen. Dyma lle mae’n rhaid iddi aros er pob ymdrech i’w gwaredu’i hun. Tybed a wêl rhywun hi? Yno y gall fod am ddyddiau cyn y gwêl ei pherchennog hi a’i gwaredu.
Pan wêl y bugail hi gyntaf, ni wna unrhyw ymdrech i’w chyrraedd, dim ond taflu trem eiddgar i’w chyfeiriad. Â heibio’r fan drannoeth efallai, eto heb wneud dim i geisio mynd ati – y ddafad druan yn cael ei gadael yno i lwgu.
Dychwel y ffarmwr eto ymhen ychydig ddyddiau, a’i ddafad erbyn hyn wedi gwanhau gymaint nes torri ei chalon, ac yn ei hanobaith yn dechrau brefu a galw allan yn druenus.
Disgwyl ei chlywed yn brefu fu’r bugail hyd yma. Gŵyr yn awr mai dyma ei gyfle i’w chyrchu. Pe buasai wedi mynd yno i’w cheisio cyn iddi frefu fe fuasai ganddi ddigon o nerth i wneud rhywbeth drosti ei hun, ac yn ei braw o’i weld yn dod ati, buasai’n neidio i’w marwolaeth i’r dyfnder islaw. Ond y mae’n brefu bellach. Gŵyr y bugail mai dyna ei gyfle, ei bod hi’n awr yn dibynnu ar ei drugaredd.
 yno gyda dwy raff bwrpasol. Clyma ben y ddwy am delpyn o graig gadarn uwchben y fan. Ymeifl yn un ohonynt a’i ollwng ei hun fel creigiwr mewn chwarel o afael i afael i lawr y rhaff nes cyrraedd lle mae’r ddafad. Rhydd y bugail yr ail raff amdani’n ddiogel. Tyn ei hunan eilwaith i fyny’r rhaff i ben y graig, yna cwyd y ddafad yn ofalus. Mawr fydd ei lawenydd o’i chael yn ddiogel, a mawr fydd ei ofal amdani hyd nes yr adnewyddir ei nerth.
Yn sicr y mae gan y bugail ddigon o ddefaid yn weddill i ofalu amdanynt heb fentro ei fywyd i arbed yr un yna. Ond ‘doedd dim dewis ganddo. Ei eiddo ef ydoedd. Pwy arall a âi? Gŵyr yn burion mai ef ei hun yw’r unig ateb i’w chri. Ac er iddo edrych yn ddihitio, gŵyr mai ei gyfrifoldeb ef yw ei gwaredu.
Fe gawn ninnau’n hunain trwy ein crwydro ffôl mewn cyflwr digon tebyg i’r ddafad, ac yn gweld y Bugail efallai yn hir iawn yn dod. Mae’n ymddangos i ni fod y Bugail yn ddihitio. Ond disgwyl y mae yntau am glywed y fref, y crac hwnnw yn y llais sy’n dweud ein bod bellach yn barod i adael iddo Ef ein hachub. Ni roddodd dynion sy’n credu ynddynt hwy eu hunain erioed groeso i ymyriad Duw yn eu bywyd.
‘Y mae’r ARGLWYDD yn agos at y drylliedig o galon ac yn gwaredu’r briwedig o ysbryd.’
Salm 34:18Fe’m ceisiwch a’m cael; pan chwiliwch â’ch holl galon fe’m cewch’.
Jeremeia 29:13-14