Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Sut fedrwn ni gyfarfod os nad ydym ni’n cael cyfarfod?

20 Mawrth 2020 | gan Rebecca Gethin| gan Steffan Job

Sut fedrwn ni gyfarfod os nad ydym ni’n cael cyfarfod?

Sut mae modd i ni gyrraedd ein cynulleidfaoedd os mai’r cyngor i ni gyd yw osgoi cwrdd yn gymdeithasol? Pa adnoddau sydd ar gael i ni ddefnyddio i rannu ein gwasanaethau ar lein? Pa opsiynau sy’n addas are gyfer y rheini sydd ddim yn defnyddio’r we?

Mae’r rhain yn ddyddiau na fu eu bath o’r blaen ac mae pob un yn cael trafferth i ddelio gyda’r newidiadau. Rydym wedi derbyn nifer o alwadau ac e-byst yn gofyn am gymorth ac felly rydym wedi rhoi erthygl at ei gilydd i geisio rhoi cymorth.

Peidiwch â mynd i banig!

Rhaid cofio yn gyntaf i beidio mynd i banig (a pheidiwch â chynhyrfu aelodau eich eglwys ychwaith). Mae’r rhain yn adegau anodd a’r peth olaf yr ydym eisiau ei wneud yw achosi poendod i aelodau mwyaf bregus ein heglwysi. Y peth mwyaf pwysig yw gwneud yn siŵr fod gan bob person gynhaliaeth a chyswllt rheolaidd – mae’r ffon yn wych ar gyfer hyn, neu gallwch alw i weld rhywun (does dim angen mynd i mewn i’r tŷ – medrwch siarad gyda pherson drwy’r ffenestr i sicrhau nad ydych yn mynd yn rhy agos).

Rydym hefyd yn ymwybodol o weinidogion sy’n cynhyrchu pregethau ar bapur neu nodiadau defosiynol (bydd MEC yn cychwyn hyn o ddydd Llyn ymlaen). Efallai y bydd yn cymryd ychydig mwy o amser i gynhyrchu, ond maent yn ffordd i roi cymorth i bobl allai fod yn cael trafferth gyda thechnoleg.

Mae hefyd nifer o adnoddau ar-lein ar gael at ddefnydd eich eglwys ddefnyddio tan i chi gael rhywbeth mewn lle, neu hyd nes i’r eglwysi cael cyfarfod unwaith eto:

  • Un esiampl yw gwefan MEC, sy’n cynnwys nifer o bregethau (http://www.mudiad-efengylaidd.org/adnoddau). Mae modd lawr lwytho’r rhain ac rydym yn hapus i chi eu dyblygu, felly os ydych yn adnabod pobl sydd ddim yn gallu defnyddio’r we, beth am roi’r pregethau ar CDau a’u rhannu gyda phobl yr eglwys.
  • Esiampl arall yw’r holl eglwysi sy’n rhoi eu gwasanaethu ar lein yn barod. Peidiwch â theimlo fod yn rhaid i chi gael trefn yn rhy sydyn. Beth am ymuno gyda gwasanaeth o eglwys arall y Sul yma?

Beth am wasanaeth ar lein?

I’r rhai sydd wedi dechrau meddwl am weithredu ar lein dyma bedwar opsiwn i helpu:

Zoom (https://zoom.us/)

  • Mae’r feddalwedd yma yn rhyngweithiol, ac felly mae nifer o eglwysi wedi bod yn ei ddefnyddio ar gyfer cyrddau gweddi a seiadu.
  • Nid oes angen i’ch aelodau greu cyfrif i ymuno gyda’r cyfarfodydd.
  • Mae’n hawdd gweithredu ac i ymuno gyda chyfarfodydd. Mae yna hefyd elfennau defnyddiol megis rhannu sgrin, e.e. byddai modd rhannu Pwynt Pŵer gyda phawb.

Awgrymiadau

  • Gwnewch ddefnydd o’r botwm ‘mute’. Yn ystod digwyddiadau megis cyfarfodydd gweddi, mae sicrhau bod pawb wedi mudo heblaw’r un sy’n gweddïo’n uchel yn sicrhau’r ansawdd sain gorau.
  • Mae Zoom wedi cynhyrchu sawl fideo yn esbonio sut i ddefnyddio’r rhaglen: <https://zoom.us/resources>

Facebook Live (http://www.facebook.com/)

  • Mae Facebook eisoes yn ffordd ddefnyddiol o ddiweddaru pobl ynglŷn â threfniadau a gweithgareddau’r eglwys.
  • Mae hefyd yn bosib darlledu digwyddiadau yn fyw ar Facebook, a dyma un ffordd medrwch gysylltu gyda’ch eglwys ar y Sul.
  • Mae’n ffordd hawdd i’ch cynulleidfa rhannu’r bregeth gyda’u ffrindiau, ac efallai bydd mwy o bobl yn gwrando na’r arfer.

Awgrymiadau

  • Gwiriwch osodiadau preifatrwydd y fideo o flaen llaw – os nad yw wedi’i osod yn gyhoeddus, yna ni all pobl sydd heb gyfrif Facebook wylio’r fideo.
  • Os nad ydych wedi gwneud yn barod, dyma gyfle delfrydol i osod tudalen Facebook i fyny ar gyfer eich eglwys, i gynnal y fideos ac i gysylltu’n fwy gyda’ch cymuned.
  • Mae’r ddolen hon yn rhoi rhai canllawiau ar sut i gychwyn: <https://learn.g2.com/how-to-go-live-on-facebook>

YouTube (http://www.youtube.com)

  • Mae hefyd yn bosib darlledu’n fyw ar YouTube, a’r fantais o ddefnyddio YouTube yn hytrach na Facebook yw nad oes angen creu cyfrif i’w wylio, sydd hefyd yn rhoi anhysbysrwydd i’r rhai sydd ddim eisiau i eraill wybod eu bod yn gwylio.
  • Posibilrwydd arall gyda YouTube yw recordio gwasanaeth o flaen llaw a rhannu’r ddolen gyda’ch cynulleidfa (a thu hwnt!). Mae hwn yn fanteisiol gan y bydd yn lleihau’r nifer o broblemau all godi yn ystod darllediad byw.

Awgrymiadau

  • Os ydych chi eisiau darlledu’n fyw gyda YouTube, sicrhewch eich bod wedi gosod eich cyfrif i fyny a’i wireddu o leiaf 24 awr o flaen llaw.
  • Am fideo defnyddiol sy’n esbonio hyn i gyd, ewch i <https://youtu.be/G654DFyKfl4>

Twilio (https://www.twilio.com/)

  • Mae’r wefan hon yn eich galluogi i osod rhif ffôn sy’n chwarae ffeil sain pan mae rhywun yn galw’r rhif.
  • Mae hyn yn ffordd dda o wneud eich pregethau yn hygyrch ar gyfer aelodau’r eglwys sydd heb ddefnydd o gyfrifiadur neu’r we.
  • Os ydych eisoes yn cynhyrchu Podcasts neu ffeiliau MP3 ar gyfer eich eglwys, dyma ffordd dda o’r rhannu gyda’r rhai na fyddai eisoes yn gallu gwrando.

Awgrymiadau