Ef ei hun a ddygodd ein pechodau yn ei gorff ar y croesbren, er mwyn i ni ddarfod â’n pechodau a byw i gyfiawnder. Trwy ei archoll ef y cawsoch iachâd.
1 Pedr 2:24
Un peth mae’r wythnosau diwethaf wedi ei ddangos i ni yw bod pethau sy’n ymddangos yn bell ac yn afreal yn medru dod yn agos ac yn real iawn. Er mor real y firws, rwy’n siŵr nad oedd y mwyafrif ohonom wedi cymryd llawer o sylw ohono pan glywsom am yr haint yn Tsieina cyn y Nadolig. Oeddem, roeddem yn cydymdeimlo gyda’r bobl draw yn Wuhan, ond go brin ein bod wedi meddwl llawer amdano na’r effaith y gallai ei gael arnom ni. Ond bellach mae yma yn ein plith, mae’r firws wedi gadael ein sgriniau teledu a dod yn realiti all fyw yn ein cyrff real ni. Mae pethau wedi newid.
Mae’r peryg o anwybyddu pethau pell i ffwrdd yn rhywbeth sy’n effeithio pob un ohonom – hyd yn oed ein bywydau ysbrydol.
Dwy fil o flynyddoedd yn ôl fe hoeliwyd mab Duw ar ddarn o bren yng ngwlad Israel. Pren real, hoelion real a real hefyd oedd y cnawd a dorrwyd a’r gwaed a lifodd o ganlyniad i hynny. Wyddom ni ddim lle mae’r pren a’r hoelion hynny bellach, maent yn siŵr wedi pydru a dadebru i’r pridd, a heddiw dim ond drwy dudalennau’r Beibl y mae modd i ni agosáu at y digwyddiad rhyfedd hwnnw.
Gall y groes deimlo’n bell iawn i ffwrdd weithiau. Ond fel yr ydym wedi gweld, nid yw pethau sy’n teimlo’n bell i ffwrdd yn llai real na’r hyn a welwn ac a brofwn ar y foment.
Newyddion gwych yr efengyl yw bod canlyniadau yr hyn a ddigwyddodd ar y groes wedi dod yn agos iawn i ni. Nid fel firws peryglus sy’n ein gwneud yn sâl, ond fel grym rhyfeddol sy’n dod a maddeuant, heddwch a bywyd tragwyddol.
Heddiw gadewch i’r groes ddod yn agos atoch chi – syllwch ar eich gwaredwr yn marw yno gan gymryd eich pechod arno ei hun. Rhyfeddwch ar ei gariad wrth iddo ddioddef archoll ar ôl archoll er mwyn eich iachau chi a’ch dod yn ôl i berthynas gyda’ch Tad nefol. Llawenhewch yn yr atgyfodiad a dorrodd rym marwolaeth a rhoi’r gallu i ni ddarfod a’n pechodau a byw i gyfiawnder.
Ydi, mae’r firws yn agos, ond mae’r groes, a’r Un a fu farw arni yn agosach fyth ac mae ei wahoddiad heddiw i bawb ‘Dewch ataf fi bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac mi roddaf f fi orffwys i chi’.
Steffan Job (Capel y Ffynnon)