Pam y mae amheuon yn codi yn eich meddyliau?
Luc 24:38
Hoffwn dynnu eich sylw bore ma at rywbeth sy’n nerthol a dylanwadol iawn yn ein bywydau. Rwy’n sôn am nerth a dylanwad ein meddyliau. Yr hyn a’m hysgogodd i ystyried hyn oedd darllen sylw ar eiriau’r Arglwydd Iesu wrth holi’r ddau ar y ffordd i Emaus: “Pam y mae amheuon yn codi yn eich meddyliau?” (Luc 24:38)
Ydach chi wedi ystyried hyn erioed?
Mae’n meddyliau’n gwneud gwahaniaeth tyngedfennol i sut deni’n byw o ddydd i ddydd. Gallwn ddeffro un bore’n teimlo wedi’n hadnewyddu, yn llawen a pharod i wynebu’r diwrnod. Yna’n sydyn mae rhywbeth yn gwibio drwy’r meddwl ac ar amrantiad mae’n teimladau’n newid, ein hapusrwydd yn diflannu, ac mae fel pe tai’r heulwen hyd yn oed yn pylu a gallwn deimlo’n bryderus neu’n chwerw yn ein calonnau. Nid bod dim wedi newid yn ystod yr ysbaid bach hwnnw. Mae ein iechyd, ein gwaith, ein teulu a’n ffrindiau, a hyd yn oed yr heulwen yn union yr un fath ag o’r blaen ond mae’n meddyliau ni wedi ymyrryd gan ddwyn tangnefedd ein calon a’n meddwl. Yr hyn sydd gen i dan sylw yma yw ein meddyliau nid ein geiriau. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn ofalus i gadw drws ein gwefusau neu efallai y byddem yn colli’n swydd neu’n peri tramgwydd i’n brawd neu’n clwyfo ein hanwyliaid. Ond peth llawer anoddach yw gwarchod a rheoli ein meddyliau am nad ydym yn gallu eu gweld.
Gall rhywun fod yn coleddu teimladau chwerw iawn tuag atoch, ond mae’n eich cyfarch gyda gwen ar ei wyneb. Yn ein man gwaith efallai gallwn ymddangos fel pe byddem yn esiampl wych o weithiwyr ufudd i’n cydweithwyr neu’n cyflogwr, ond y tu mewn gallwn fod yn edrych arnynt gyda sarhad ac atgasedd. Ar y wyneb rydym yn gwenu ac yn llawn gras tuag at ein brodyr a’n chwiorydd yn ein heglwysi ond gallwn fod yn meddwl yn negyddol iawn tuag atynt oddi mewn. Gall ein meddyliau fod yn niweidiol iawn i’n hiechyd, gallant ddifetha ein llawenydd ac yn bwysicach oll gallant niweidio’r berthynas rhyngom â Christ.
Mae’n anodd iawn meistroli ein meddyliau, ond wedi’r cyfan mae llawer o bethau mewn bywyd yn anodd, yn enwedig y pethau hynny’n sy’n dod â llawenydd neu boddhad neu bendith i eraill. Wrth wrando ar gerddor dawnus yn chwarae hoff ddarn o gerddoriaeth ar y piano byddwch yn ymwybodol o’r blynyddoedd o hyfforddiant a’r oriau o ymarfer sydd wedi digwydd er mwyn esgor ar y fath fendith i chi ac i eraill. Mae hyn yn wir am ein meddyliau hefyd. Mae pa fath effaith gaiff ein hymddygiad yn dibynnu ar ein hymdrech i sicrhau bod ein meddyliau’n bur.
Ceir o leiaf deg cyfeiriad yn yr efengylau at y ffaith bod Iesu’n gwybod beth oedd ym meddyliau pobl.
Dywedodd Simeon wrth Mair y byddai dyfodiad Crist yn golygu “y datguddir meddyliau calonnau lawer.”. Un o oblygiadau’r geiriau hyn a rhannau eraill o’r Ysgrythur yw y byddwn yn cael ein barnu yn ôl ein meddyliau.
Mae’r Apostol Paul yn cyfeirio at ein meddyliau nifer o weithiau yn ei lythyr at y Philipiaid, lle mae’n ysgrifennu: “mewn gostyngeiddrwydd bydded i bob un ohonoch gyfrif y llall yn deilyngach nag ef ei hun..” (2:3) “Amlygwch yn eich plith eich hunan yr agwedd meddwl honno sydd, yn wir yn eiddo i chwi yng Nghrist Iesu..” (2:5) “Yr wyf yn annog Euodia ac yn annog Syntyche i fyw’n gytûn (fod o’r un meddwl) yn yr Arglwydd..” (4:2) a bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu…”(4:7) “Bellach, gyfeillion, beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar a chanmoladwy, pob rhinwedd a phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn..” (4:8)
Mae’n llawer mwy anodd gwarchod ein meddyliau nag i wylio ein geiriau, ac yn sicr mae dilyn yr anogaethau hyn yn Philipiaid yn gofyn am ymdrech ond ni fyddent wedi cael eu rhoi oni bai ei bod yn bosibl eu dilyn. Fe’n dysgir drwyddynt ei bod yn bosibl i ni i gyd. Mae’n dibynnu ar ein penderfyniad di-wyro, fel pan ddaw’r diafol i geisio mynediad, ni fydd yn dod o hyd i un gornel o’n meddyliau ar agor iddo. Mae’n rhaid i ni gerdded mor agos a phosibl at Grist. Mae bob amser yn hawdd cael meddyliau da pan fyddwn yn cerdded gyda’r Un sydd oll yn hawddgar drwy gymorth yr Ysbryd Glân sydd ynom i’n cynorthwyo.
Pob rhinwedd a feddiannwn ni,
Pob buddugoliaeth roed
Pob meddwl sanctaidd, eiddo ŷnt
Iddo Ef erioed.
Bill Hughes (Christ Church Deeside)