Oherwydd yr oeddech fel defaid ar ddisberod, ond yn awr troesoch at Fugail a Gwarchodwr eich eneidiau.
1 Pedr 2:25
Un o fendithion mawr yr wythnos ddiwethaf oedd y tywydd hyfryd a gawsom. Roedd cael mynd allan bob dydd am dro i’r caeau o gwmpas y pentref yn donic. Mae Rhiwlas yn wefreiddiol yr adeg yma o’r flwyddyn gyda byd natur yn deffro wedi gaeaf hir, y coed yn blaguro a’r caeau‘n wyrdd ac yn llawn o wŷn bach.
Does dim llawer o drefn mewn cae o ddefaid a rhaid wrth glawdd neu ffens sicr er mwyn eu cadw i mewn. Nid yw caeau na defaid Rhiwlas yn ddim gwahanol i unman arall. Heb ddiogelwch y clawdd byddai’r defaid yn crwydro i bob man ac mewn peryg mawr, fel y ffeindiais un tro wrth ddarganfod dafad yn gwneud ei busnes yng nghanol yr ystafell fyw gartref wedi i mi adael y drws ar agor!
Eto, wrth fynd am dro’r wythnos ddiwethaf sylwodd y plant a minnau ar olygfa digon trefnus yn un o’r caeau wrth i’r defaid gerdded mewn un llinell dwt a thaclus ar hyd y cae. Achos y cerdded trefnus yma wrth gwrs oedd y bugail yn ei dractor ar y blaen gyda sach o fwyd yn barod i fwydo’r defaid. Roedd y defaid yn adnabod eu bugail ac yn hapus braf o’i ddilyn gan wybod fod diogelwch a llond bol o fwyd i’w gael o wneud hynny.
Mae’r Cristion, drwy waith yr Ysbryd, wedi troi at y Bugail mawr a ddaeth o’r Nefoedd a does ‘run bugail tebyg i hwn. Dyma’r un a greodd y cosmos, sy’n cynnal pob dim ond a ddaeth yn isel er mwyn ein hachub ni drwy farw ar y groes ac atgyfodi ar ôl tri diwrnod.
Mae wythnos waith arall yn ymestyn o’n blaenau a pwy a ŵyr beth sydd yn ein hwynebu, haul neu law, iechyd neu afiechyd. Y cysur i chi a mi bore ma’ yw nad oes yn rhaid poeni am yr hyn sydd o’n blaenau gan fod gennym fugail sy’n gofalu ac yn ein harwain yn ddiogel. Medrwn drystio’r cyfan i Iesu, boed hynny yn waith, yn deulu, yn iechyd a hyd yn oed ein henaid ni ein hunain – fel y dywedodd ‘ni ddwg neb hwy allan o’m llaw i’.
Gadewch i ni, fel y defaid yn y cae, gerdded yn llawn hyder ffydd gyda’n golwg ar ein Bugail yr wythnos hon.
Steffan Job (Capel y Ffynnon)