Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 29 Mawrth 2020

29 Mawrth 2020 | gan Mari Jones | Rhufeiniaid 8

‘Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda’r rhai sy’n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad.’ Rhufeiniaid 8:28

 ‘Atebodd Iesu ef: “Ni wyddost ti ar hyn o bryd beth yr wyf fi am ei wneud, ond fe ddoi i wybod ar ôl hyn.”’ loan 13:7

 ‘Nid yw unrhyw ddisgyblaeth, yn wir, ar y pryd yn ymddangos yn bleserus, ond yn hytrach yn boenus; ond yn nes ymlaen, y mae’n dwyn heddychol gynhaeaf cyfiawnder i’r rhai sydd wedi eu hyfforddi ganddi.’ Hebreaid 12:11

 

Gan ei fod yn ddydd Sul rydym am wneud rhywbeth ychydig yn wahanol bore ma drwy yrru defosiwn allan o lyfr John a Mari Jones ‘Yng Nghysgod y Gorlan’ a gyhoeddwyd gan y Mudiad nifer o flynyddoedd yn ôl.

Trwy y Dyfroedd Dyfnion

Dyna atgas i amaethwr defaid yw’r gair ‘clafr’; daw ag atgofion fel hunllef o’r gorffennol. Afiechyd ydyw ar groen y ddafad a achosir gan ryw fath arbennig o bryfed mân parasitig. Pan fo’r ddafad yn dioddef o’r clafr, bydd pob oedran o’r trychfilod mân hyn, o’u wyau i’w llawn dwf, yn sicr o fod yn bresennol yr un pryd. Gellir canfod y grachen ar unrhyw ran o’r croen gan gynnwys y pen a thu fewn i’r clustiau. Ni effeithia ar unrhyw greadur arall. A’r arwyddion yw bod crafu ar yr ysgwydd yn fwyaf arbennig, a’r pen ôl a’r gynffon, a bod y gwlân yn colli. Pan y’i gwelir mae’n ofynnol dweud wrth filfeddyg y Weinyddiaeth ar unwaith.

Bu’n absennol o Brydain am ugain mlynedd, dim ond i ymddangos eto ym 1972, ac yng Nghymru y flwyddyn ddilynol. Yn yr ymdrech i gael ei wared o’r wlad, mae deddf mewn grym yn awr fod rhaid casglu’r ddiadell ddefaid bob un, a’u rhoi dros eu pennau’n llythrennol am ychydig eiliadau a’u cadw am un funud mewn baddon yn cynnwys cymysgedd o ‘benzine hexachloride’, un a gymeradwyir gan y Weinyddiaeth Amaeth. Mae’n ymddangos fod hwn yn gymysgedd mor gryf, o ufuddhau i’r cyfarwyddiadau, fel nad oes rhaid eu rhoi ynddo fwy nag unwaith i ladd yr wyau. Ond pan fu’r aflwydd ar ymweliad â ni ddiwethaf, golygodd gasglu’r defaid a’u rhoi drwy’r driniaeth ddwywaith o fewn pedwar diwrnod ar ddeg a hynny yn ystod y cyfnod pan oedd dyn yn brysur ar ganol cynhaeaf gwair! A dyn y gyfraith uwch eu pennau â’i oriawr. Teimlodd sawl wag fel rhoi hwb iddo yntau a’i oriawr i’r twb!

Trueni yw gweld y defaid pan deflir hwy mor sydyn a diseremoni ar eu pen-ôl i’r twb. Dyna, wrth gwrs, fel yr egyr eu gwlan allan orau. Pe digwydd i un nofio hyd y twb a’i phen uwchlaw’r gymysgedd, bydd rhywun â pholyn pren at y pwrpas yn barod i wthio’r ddafad dros ei phen a’i chlustiau – a’i cheg a’i thrwyn – o’r golwg dano.

Pan dybia’r hyrddod a’u cyrnau troellog fod y driniaeth drosodd, a hwythau’n cyrraedd pen draw’r twb, yn ddirybudd iddynt bachir y teclyn pren eto yn nhroad eu cyrn, eu tynnu’n ôl i’r man cychwyn a’u hyrddio’r eilwaith i lawr i’r hylif cymysg. Mae’n rhaid gwneud hyn gan fod bôn y cyrn yn ymguddfan ardderchog i hadau cynrhon a chlafr. A dyna disian ac ysgwyd pennau a sgrwtian y gwlybaniaeth o’u gwlân fydd pan gânt eu traed ar y gorlan ddiferu!

Cymerant eu trin mor ddibrotest ‘fel y bydd dafad yn ddistaw yn llaw’r cneifiwr’ (Eseia 53:7). Pe gwyddai ambell hwrdd ei nerth buasai’r taflwr gyda fo yn aml yn y twb!

Y creaduriaid gwirion! O! na fuasai yna ryw fodd i adael iddynt wybod pam y gofynnir iddynt fynd drwy’r fath driniaeth, iddynt wybod diben y cyfan, mai er eu lles ac i arbed dioddef yn ddiweddarach y mae. Ac O! na sylweddolent mai gofal mawr y bugail drostynt sydd y tu ôl i’r cyfan.

Fe ofyn yr Un yr ymddiriedwn ynddo, Bugail mawr y defaid, i ninnau ar adegau fynd drwy driniaeth debyg, ac yr ydym ninnau weithiau fel y defaid heb wybod y rheswm. Eithr er ein lles y gwna’r cwbl.

John and Mari Jones