Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 27 Mawrth 2020

27 Mawrth 2020 | gan Steffan Job | Ioan 6

Y mae bachgen yma a phum torth haidd a dau bysgodyn ganddo, ond beth yw hynny rhwng cynifer?

Ioan 6:9

 

Mae hi wedi bod yn dorcalonnus i weld y golygfeydd o’r Eidal a Sbaen lle mae gymaint o bobl yn dioddef oherwydd diffyg offer a gwelyau yn yr ysbytai. Does dim byd mwy rhwystredig na gweld sefyllfa anghenus a gwybod nad oes gan rywun yr adnoddau i helpu. Gweddïwn na fyddwn yn gweld sefyllfa debyg yn ein gwlad ni a gweddïwn y bydd yr adnoddau ar gael i bawb o bob gwlad yn fuan i ddelio gyda’r haint.

Fel Cristnogion mae gennym ni le i gyfrannu tuag at helpu’r sefyllfa gyda’r haint yng Nghymru. Gwyddom y bydd gan rai ohonom fel gweithwyr lawer i gynnig, tra bydd eraill ohonom yn cyfrannu drwy aros adref ac ynysu fel ein bod yn gymorth i’r gwasanaeth iechyd. Bydd hyn i gyd yn bwysig.

Ond beth sydd gennym ni i gyfrannu’n ysbrydol?

Efallai ein bod yn teimlo fod yr anghenion yn rhy fawr. Wrth edrych ar gymaint o’n cymunedau mae’r sefyllfa ysbrydol yn ddifrifol. Mae gymaint o bobl yn ddi-hid am Dduw ac yn byw i bleser a hapusrwydd y byd hwn heb feddwl am dragwyddoldeb – beth fedrwn ni ei wneud “rhwng cynifer”?

Efallai eich bod yn meddwl nad oes gennych chi ddim i gynnig. Does gennych chi ddim doniau arbennig i fynd ar y we a rhannu’r efengyl ac efallai eich bod yn llawn ofn wrth feddwl am y salwch – beth yw hynny “rhwng cynifer?”

Mae’r adnod a’r hanes yma yn gysur rhyfeddol gan eu bod yn dangos fod Iesu gyda’r gallu i ddefnyddio rhywbeth bach a di-nod i gael effaith fawr iawn a dwyn gogoniant rhyfeddol i Dduw. Go brin y gallai’r bachgen ifanc fod wedi dychmygu’r hyn y gwnaeth Iesu gyda’i ddau bysgodyn a phum torth wrth iddynt gael ei rhannu rhwng y miloedd.

Roedd yr angen yn fawr a’r adnoddau yn fach, ond roedd Iesu yn fwy.

Beth all Iesu wneud drwoch chi heddiw?

Peidiwch â thwyllo eich hunain i feddwl nad oes gennych ddim i’w gynnig. Efallai y bydd yn air bach o anogaeth i Gristion arall, efallai gweddi, efallai gweithred o hunan aberth neu efallai y cewch gyfle i rannu’n onest am eich ofnau ond eich sicrwydd yn Nuw gyda rhywun di-gred. Efallai na fyddwch hyd yn oed yn sylwi wrth i’r Ysbryd weithio drwoch chi, ond y cysur rhyfeddol yw bod Iesu yn ein defnyddio a does dim sefyllfa yn ormod iddo.

Mae’n amlwg fod y cyfnod yma yn siglo pobl a gwneud iddynt ystyried beth sydd yn bwysig mewn bywyd. Mae’r anghenion ysbrydol yn fawr – a oes gennych chi bysgodyn neu dorth i gyfrannu heddiw?

Steffan Job (Capel y Ffynnon, Bangor)