Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 26 Mawrth 2020

26 Mawrth 2020 | gan Dafydd Job | Salm 42

Fel y dyhea ewig am ddyfroedd rhedegog, felly y dyhea fy enaid amdanat ti, O Dduw. Y mae fy enaid yn sychedu am Dduw, am y Duw byw; pa bryd y dof ac ymddangos ger ei fron?

Salm 42:1-2

 

Dau ymadrodd sydd wedi gwthio eu hunain i’n hymwybyddiaeth yn ystod yr wythnosau hyn yw hunan ynysu ac ymbellhau cymdeithasol. Mae’n beth cyffredin bellach i weld pobl yn croesi’r ffordd i osgoi mynd yn rhy agos at eraill, ac mae archfarchnadoedd yn gosod llinellau i lawr i ddangos pa mor bell ddylai pobl sefyll oddi wrth ei gilydd.

Mae’n anodd pan na chaiff cyfeillion gwrdd gyda’i gilydd. Ond efallai mai’r lle mae’r ymbellhau yn fwyaf poenus yw pan na all teulu ddod at ei gilydd. Pan fydd plant ddim yn gallu mynd i weld taid a nain, neu yn fwy poenus byth, rhywun yn methu mynd i weld eu cymar sydd ar sail eu breuder wedi eu cymryd i gartref neu ysbyty.  Mae gwahanu rhwng anwyliaid yn anodd i’w dderbyn.

Yn yr adnodau uchod mae’r Salmydd yn teimlo gwahanu yn ei berthynas â Duw. Mae’n bell o Jerwsalem a’r Deml. Fel un o feibion Cora byddai’n arwain y dorf mewn addoliad ar adeg y gwyliau mawr. Tywalltaf fy enaid mewn gofid wrth gofio hyn – fel yr awn gyda’r dyrfa, a’u harwain i dŷ Dduw yng nghanol banllefau a moliant, torf yn cadw gŵyl. (Salm. 42:4). Ond mae yna fwy na cholli’r digwyddiad a’r dyrfa. Rhywsut mae sŵn y dyfroedd yn rhaeadru dros y creigiau ym mynyddoedd y gogledd yn gwneud iddo gofio a meddwl am Dduw. Lle bu yn agos ato ar un adeg, mae’n teimlo’n bell. Yn wir, mae wedi mynd mor bell â meddwl bod hwnnw wedi ei anghofio. Dywedaf wrth Dduw, fy nghraig, “Pam yr anghofiaist fi? (adnod 9)

Efallai fod yna rai’n teimlo felly ynghanol yr argyfwng presennol yn ein gwlad. Ond pan drown ni at Iesu, fe gofiwn iddo gael ei alw’n Emaniwel – Duw gyda ni.

Fe wyddom fod ein hanwireddau a’n brad yn erbyn ein Crëwr yn golygu fod yna agendor o bellter wedi ei hagor rhyngom â’r Duw Tragwyddol. Ond cofiwn fod Iesu wedi dod i gau’r agendor hwnnw. Fe gymerodd ganlyniadau ein ngwrthryfel, er mwyn i ni gael cymod â Rheolwr y bydysawd. Ar y groes fe wynebodd yr unigrwydd eithaf, a gweiddi “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?” (Marc 15:34), a hynny fel na fydd raid i ni byth wynebu unigrwydd fel hynny.

Ac am hynny, heddiw pa mor anodd neu unig yw ein sefyllfa, gallwn glosio at Dduw trwy ffydd, a phrofi ei dangnefedd a’i gwmni.

Dafydd M. Job (Capel y Ffynnon, Bangor)