Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 25 Mawrth 2020

25 Mawrth 2020 | gan John Treharne | Exodus 12

Nid oes neb ohonoch i fynd allan trwy ddrws ei dŷ hyd y bore.

Exodus 12:22

 

Wrth i mi ysgrifennu hyn heddiw, mae’r Prif Weinidog newydd gyhoeddi mesurau tipyn mwy llym er mwyn ceisio atal lledaeniad yr haint Corona. Dyma nhw yn fras:

  • Siopa am bethau angenrheidiol yn unig.
  • Un math o ymarfer corff y dydd, ar ein pen ein hunan neu gydag aelod o’r teulu.
  • Cawn fynd allan i gael moddion neu i ofalu am rywun bregus.
  • Cawn deithio i’r gwaith, os yw’n gwbl hanfodol.

Cafodd y mesurau eu cyhoeddi er mwyn ceisio arafu lledaeniad y feirws a lleihau y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.

Gwnaeth hyn i mi feddwl am rywbeth tebyg yn hanes pobl Israel yn yr Aifft. Roedd Duw wedi cyhoeddi pla ofnadwy i ddilyn y naw pla cyntaf – sef lladd pob mab hynaf yn y wlad. Ar noson arbennig byddai angel dinistriol yn dod i weithredu’r pla olaf.

Ond roedd yr Arglwydd wedi darparu ffordd i blant Israel gael eu diogelu rhag y pla. Roedd hyn yn cynnwys cloi eu hunain yn eu tai o amser y machlud hyd y bore. “nid oes neb ohonoch i fynd allan trwy ddrws ei dŷ hyd y bore.”

Yn ogystal â hynny, roedd rhaid lladd oen blwydd, a phaentio rhywfaint o waed yr oen o gwmpas y drws. Pan fyddai’r angel yn gweld y gwaed o amgylch drws y tŷ byddai’n pasio heibio (Passover).

Ac mae hyn yn gysgod clir iawn o Efengyl Iesu Grist. Ef yw “Oen Duw, sy’n cymryd ymaith bechod y byd.” Fel roedd yr oen yn ddi-nam, roedd Iesu Grist yn gwbl ddi-fai a sanctaidd hefyd. Fel roedd rhaidd lladd yr oen, roedd rhaid aberthu Oen Duw, er mwyn ein hachub ni. Fel roedd rhaid paentio’r gwaed o gwmpas drws y tŷ, mae’n rhaid i ni gredu’n bersonol yn aberth Crist Iesu yn ein lle. Rhaid rhoi gwaed Crist rhwng fy mhechod i a digofaint Duw. Yna cawn brofi maddeuant a rhyddhad, wrth i gondemniad Duw basio heibio i ni. Boed i ni wneud yn siwr ein bod wedi’n cloi i mewn yng Nghrist!

John Treharne (Tabernacl Llwynhendy)