Disgwyliaf wrth yr ARGLWYDD; y mae fy enaid yn disgwyl, a gobeithiaf yn ei air; y mae fy enaid yn disgwyl wrth yr Arglwydd yn fwy nag y mae’r gwylwyr am y bore, yn fwy nag y mae’r gwylwyr am y bore.
O Israel, gobeithia yn yr ARGLWYDD, oherwydd gyda’r ARGLWYDD y mae ffyddlondeb, a chydag ef y mae gwaredigaeth helaeth.
Ef sydd yn gwaredu Israel oddi wrth ei holl gamweddau.
Salm 130:5-8
Ddoe, wrth i ni edrych ar ddechrau’r Salm hon gwelsom fod gennym sicrwydd tragwyddol wrth i ni wynebu’r wythnosau nesaf. Rydym wedi derbyn maddeuant llwyr am bob pechod ac rydym yn hollol rydd. Heddiw, rydym yn troi at ail ran y Salm.
Bydd yn rhaid i ni wneud llawer o ddisgwyl dros y misoedd nesaf. Mae fy chwaer yn byw yn yr Eidal ac roedd yn disgrifio neithiwr y profiad chwithig o orfod disgwyl y tu allan i siop fwyd mewn rhes gyda phobl ddwy medr i ffwrdd o’i gilydd. Rwy’n siŵr y bydd yn rhaid i ninnau hefyd ddisgwyl am bethau yr ydym wedi arfer eu derbyn yn syth yn y dyfodol agos, efallai bydd yn rhaid i ni aros am newyddion am un o’n hanwyliaid ac yn sicr fe fydd pob un ohonom yn disgwyl i fywyd ddychwelyd i normalrwydd.
Ond beth am ddisgwyl wrth yr Arglwydd?
Fel Cristnogion, mae yna rai pethau nad oes yn rhaid i ni ddisgwyl amdanynt, fel y gwelsom ddoe, mae ein hiachawdwriaeth yn saff, ac mae gennym fynediad llawn at Dduw trwy Iesu Grist. Ond fe fydd elfen o aros a disgwyl yn y byd yma tra byddwn byw , fel y dywedodd Paul “Yn awr, gweld mewn drych yr ydym, a hynny’n aneglur; ond yna cawn weld wyneb yn wyneb. Yn awr, anghyflawn yw fy ngwybod; ond yna, caf adnabod fel y cefais innau fy adnabod.”
Gall amseroedd anodd ac ansicr roi prawf ar ein ffydd a medrwn gwestiynu daioni Duw a’i sofraniaeth, ond rydym i ddisgwyl a gobeithio. Nid disgwyl gwag a gobaith ceiniog a dime mewn rhyw system grefyddol neu yn ein gallu ni i gario ‘mlaen yw’r disgwyl yma. Na, rydym i ddisgwyl yn yr Arglwydd a gobeithio yn ei air, ac mae hynny’n obaith real!
Wnaiff yr Arglwydd ddim ein gadael i lawr, mae ei ffyddlondeb yn rhyfeddol ac mae ei waredigaeth yn helaeth ac effeithiol. Bu Iesu byw go iawn ar y Ddaear. Roedd y groes yn real, mae’r atgyfodiad yn ddigwyddiad hanesyddol, ac mae’r un grym yn gweithio ynom ni er gogoniant i Dduw. Mae Iesu yn y nefoedd yr eiliad hon yn eiriol trosot ac mae’r un dwylo a gafodd eu hoelio i’r groes yn gweithio pob peth allan er dy les ac er Ei ogoniant.
Felly heddiw, cofia ddisgwyl wrth yr Arglwydd. Gad i dy enaid ddisgwyl wrth yr Arglwydd yn fwy nag y mae’r gwylwyr yn disgwyl am y bore. Efallai fod y nos yn dywyll ac ansicr, ond roedd y gwylwyr yn gwybod fod y bore am ddod, ac rydym ni yn gwybod yn sicrach fyth fod ein Harglwydd ninnau yn dod hefyd!
Steffan Job (Capel y Ffynnon, Bangor)