O’r dyfnderau y gwaeddais arnat, O ARGLWYDD. Arglwydd, clyw fy llef; bydded dy glustiau’n agored i lef fy ngweddi.
Os wyt ti, ARGLWYDD, yn cadw cyfrif o gamweddau, pwy, O Arglwydd, a all sefyll?
Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y cei dy ofni.
Salm 130:1-4
Sut wyt ti’n teimlo’r bore ‘ma?
Galwodd y Salmydd ar yr Arglwydd oherwydd ei fod yn wynebu dyfnderau a trafferthion, a medrwn ni wneud yr un peth. Mae’n ddigon posib dy fod yn wynebu pob math o broblemau heddiw – poeni am dy iechyd, trafferthion ariannol, pryder am dy anwyliaid ac ansicrwydd mawr am y dyfodol oherwydd y firws. Cofia medri ddod a’r cyfan at Dduw. Ond beth yw dy broblem fwyaf?
Ddylem ni ddim bod yn ddi-hid am y sefyllfa bresennol, ond nid covid-19 yw’r broblem fwyaf yr wyt ti na fi yn ei wynebu. Ydi, mae’r sefyllfa yn ddifrifol ac mae’n bwysig ein bod yn cymryd sylw o rybuddion y llywodraeth ac yn dilyn eu cyngor yn ofalus, ond mae’r Salm yma yn ein hatgoffa fod gan bob un ohonom broblem ddyfnach a mwy difrifol.
Rydym yn bechaduriaid.
Ac fel y mae’r Salm yn esbonio mae hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa ofnadwy o fod yn elyn i Dduw, yr un a wnaeth y nefoedd a’r ddaear ac sy’n hollol sanctaidd ym mhob ffordd. Os yw’r Arglwydd yn cadw cyfrif o gamweddau pwy ohonom all sefyll? Nid ti ac nid fi. Byddai Duw yn hollol gyfiawn yn ein condemnio am ein calonnau drwg a’n bywydau o wrthryfel yn erbyn yr hyn y mae Duw wedi ei drefnu ar ein cyfer. Fyddai dim gobaith i’r un ohonom a byddem yn wynebu tragwyddoldeb yn uffern heb ein crëwr a phob peth da y mae wedi ei greu.
Ond y mae gyda Duw faddeuant.
Mae Duw wedi ein caru gymaint nes ei fod wedi anfon ei unig Fab i wneud yr hyn oedd yn amhosib i ni – byw’r bywyd perffaith o ufudd-dod yr oedd Duw yn ei hawlio. Yna bu farw ar groes gan dderbyn y gosb yr oeddem ni yn ei haeddu wrth i’r Tad droi oddi wrtho. Dioddefodd ddigofaint Duw ar Galfaria ac yna atgyfodi tri diwrnod yn ddiweddarach gan dorri grym angau a chynnig bywyd newydd i bawb sy’n credu ynddo.
Gyfaill annwyl. Wyt ti wedi dy achub? Wyt ti wedi troi at Grist mewn ffydd ac wedi gofyn am faddeuant? Wnaiff Duw byth dy droi i ffwrdd. Os wyt ti wedi gwneud hyn ac felly yn blentyn i Dduw yna mae dy broblem fwyaf wedi mynd!
Mae’n ddigon posib dy fod yn teimlo’n ansicr bore ‘ma wrth i ti ddygymod gyda difrifoldeb sefyllfa covid-19 a’r newidiadau mawr sydd o’th flaen, ond mae’r Salm yma yn rhoi persbectif i ti.
Fel plentyn i Dduw rwyt ti’n saff ac yn rhydd! Mae’r broblem a’r peryg mwyaf yr wyt ti erioed wedi ei wynebu wedi ei symud ac mae gennyt ti ddyfodol gogoneddus wrth i ti deithio adref yn saff i freichiau cynnes dy Dad. Fel mae Paul yn dweud yn Rhufeiniaid 8…
Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na’r presennol na’r dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Steffan Job (Capel y Ffynnon, Bangor)